Mae AS Gogledd Cymru a Chadeirydd Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar Anabledd, Mark Isherwood, wedi galw unwaith eto ar Lywodraeth Cymru i amlinellu pryd y bydd yn ymyrryd i atal camdriniaeth pobl anabl.
Wrth ymateb i Ddatganiad ddoe gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip: 'Diwrnod Rhyngwladol Pobl Anabl', a fydd yn cael ei ddathlu heddiw (3 Rhagfyr), dywedodd Mr Isherwood fod “etholwyr anabl yn cysylltu â mi bron yn ddyddiol sy'n cael eu bwlio, eu beio, eu labelu a'u targedu gan rai awdurdodau lleol sy'n gweithredu yn groes i'w dyletswyddau cydraddoldeb yn y sector cyhoeddus dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant”.
Felly gofynnodd i Ysgrifennydd y Cabinet, “Pryd, os byth, y bydd Llywodraeth Cymru yn ymyrryd i atal y gamdriniaeth hon?”
Wrth siarad yn Siambr y Senedd, dywedodd:
“Fel y clywsom ni, thema diwrnod rhyngwladol pobl anabl eleni yw meithrin cymdeithasau cynhwysol o anabledd ar gyfer hyrwyddo cynnydd cymdeithasol. Ni fu hynny erioed, yn fy nghyfnod o dros ddau ddegawd yn Aelod yma, yn fwy perthnasol yng Nghymru.
“Yn ddiweddar, fe ymrwymodd Llywodraeth Cymru i gytundeb cyfreithiol rhwymol gyda'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, neu'r EHRC, ar ôl torri dyletswyddau cydraddoldeb yn y sector cyhoeddus, sy'n cynnwys datblygu proses fonitro sicrhau ansawdd, hyfforddiant, gwelliannau llywodraethu, ac adolygu'r gweithdrefnau a'r canllawiau cyfredol, gyda monitro ar waith tan fis Tachwedd 2027.
“Sut, yn benodol, y byddwch chi'n sicrhau bod y broses fonitro hon felly yn ddigon cadarn a thryloyw i atal toriadau yn y dyfodol, wrth i mi glywed oddi wrth bobl anabl bron yn ddyddiol sy'n profi gwahaniaethu yn eu herbyn gan gyrff cyhoeddus sy'n torri eu dyletswyddau dan y Ddeddf Cydraddoldeb, yn ogystal â'u dyletswyddau nhw dan gyfraith Cymru?”
Ychwanegodd:
“Mae'r comisiwn wedi tynnu sylw hefyd at y ffaith nad oes gan gynllun drafft Llywodraeth Cymru ar gyfer hawliau pobl anabl 2025-35 ganlyniadau eglur y gellir eu mesur, camau gweithredu â therfynau amser na mecanweithiau atebolrwydd.
“Yn yr un modd, roedd y sefydliadau pobl anabl sy'n cael eu cynrychioli ar eich tasglu hawliau anabledd chi'n nodi, heb gyllid na nodau cadarn eglur i weithredu'r cynllun,
'mae hi'n anodd iawn gweld sut y bydd y cynllun yn gwneud gwahaniaeth i bobl anabl yng Nghymru.'
“Pa gamau y byddwch chi'n eu cymryd i ymateb i'r pryderon sylweddol hyn, y tu hwnt i'r ymgynghoriad, i rymuso'r cynllun trwy gynnwys dangosyddion, llinellau sylfaen a nodau penodol, gydag atebolrwydd cadarn, i sicrhau cynnydd mesuradwy ar hawliau pobl anabl?
“Rydych chi'n datgan ymrwymiad Llywodraeth Cymru i'r model cymdeithasol o anabledd dro ar ôl tro, gan gydnabod yn gywir nad yw pobl yn anabl oherwydd yr amhariadau sydd arnyn nhw, ond oherwydd y rhwystrau rhag mynediad a chynhwysiant y mae cymdeithas yn eu gosod yn eu ffordd. Yn y cyd-destun hwn, serch hynny, mae canfyddiadau'r EHRC yn tystiolaethu i fethiant o ran gweithredu, yn ymarferol, ar gyfer diddymu'r rhwystrau hyn.
“Mae tystiolaeth bellach o hyn sef gwrthwynebiad hirfaith Llywodraeth Cymru i'r ddeiseb i wneud bathodynnau glas yn rhai am oes i rai sydd â chyflyrau gydol oes.”
Holodd Mr Isherwood hefyd i’r Ysgrifennydd y Cabinet ynglŷn â'r amserlen ar gyfer cyflwyno 'System Budd-daliadau Cymru' ar gyfer yr holl fudd-daliadau prawf modd y mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol amdanynt, a gofynnodd pa dargedau a fydd ar waith i fesur cynnydd.
Mewn cwestiwn pellach, gofynnodd iddi ymateb i ddatganiad Sefydliad Bevan ynglŷn â Siarter Budd-daliadau Cymru gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, gan nodi, er bod y trefniadau presennol yn seiliedig ar gydweithredu a phartneriaeth, mae cyfranogiad felly yn wirfoddol, gyda risg nad yw rhai cyrff yn cymryd rhan o gwbl, tra bod eraill yn mynd ar eu trywydd eu hunain.
Gorffennodd trwy ofyn pa gamau sydd wedi'u cymryd ers iddi ddweud wrth y Grŵp Trawsbleidiol ar Anabledd ym mis Mehefin ei bod wedi sefydlu Gweithgor Opsiynau Deddfwriaethol i ystyried beth y gellir ei wneud i gynnwys Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl yng Nghyfraith Cymru.