Heddiw, mae AS Gogledd Cymru, Mark Ishewood, wedi annog Llywodraeth Cymru i gefnogi'r sector lletygarwch annibynnol yn Nelyn ar ôl derbyn adroddiadau bod rhai busnesau wedi cael eu gorfodi i gau oherwydd penderfyniadau a wnaed gan y rhai sydd mewn grym ym Mae Caerdydd.
Wrth godi'r mater yng nghyfarfod y Senedd y prynhawn yma, yn ystod cwestiwn yn gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r sector lletygarwch annibynnol yn Nelyn, dywedodd Mr Isherwood fod newidiadau i ddeddfwriaeth a threthiant yng Nghymru yn cael effaith ddinistriol ar lawer o fusnesau lletygarwch hunanddarpar.
Wrth siarad yn y Siambr, heriodd Ysgrifennydd y Cabinet dros gamau i fynd i'r afael â hyn:
Dywedodd:
“Wrth gwrs, rwy'n awyddus iawn i gefnogi bragdai cwrw iawn yn Nelyn a thu hwnt, gan gynnwys gŵyl Dachwedd yr Wyddgrug, sy'n dathlu bwyd lleol, cwrw iawn ac adloniant. Fodd bynnag, mae llawer o fusnesau lletygarwch hunanddarpar, busnesau dilys yn Nelyn, wedi cysylltu â mi, ar nodyn mwy difrifol, i ddweud wrthyf fod penderfyniadau Llywodraeth Cymru yn eu gorfodi i gau.
Mae Cymdeithas Broffesiynol Hunanddarparwyr y DU, gan lobïo gyda Chynghrair Twristiaeth Cymru, UKHospitality Wales a llawer o sefydliadau rhanbarthol, wedi ceisio atal effeithiau gwaethaf llawer o newidiadau Llywodraeth Cymru i ddeddfwriaeth a threthiant yng Nghymru, ac wedi darparu tystiolaeth i Lywodraeth Cymru ar y niwed y bydd y mesurau hyn yn ei achosi. Y llynedd, gwelwyd yr amodau masnachu gwaethaf mewn bron i ddegawd ar gyfer lletygarwch hunanddarpar.
Felly, os ydych chi o ddifrif yn credu mewn cefnogi'r sector lletygarwch annibynnol yn Nelyn a thu hwnt, pryd fyddwch chi'n cynnal asesiad effaith ac adolygiad ffurfiol o'r trothwy 182 diwrnod? Pam eich bod wedi parhau i anwybyddu eu galwadau i ganiatáu esemptiadau pellach o bremiwm y dreth gyngor ar gyfer busnesau dilys ac i ohirio rhoi'r ardoll dwristiaeth ar waith hyd nes bod busnesau o leiaf yn adfer i lefelau cyn y pandemig? Mae'r rhain yn fusnesau ac eiddo lleol nad ydynt yn addas i bobl leol fel prif anheddau.”
Yn ei hymateb, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet:
“Ar hyn o bryd, mae ymgynghoriad ar y gweill gan Lywodraeth Cymru, sy'n cael ei arwain gan yr Ysgrifennydd Cyllid ac sy'n ceisio barn pobl ar welliannau arfaethedig i'r ffordd y caiff eiddo hunanddarpar ei drin at ddibenion trethi lleol. Mae hwnnw'n cau ar 20 Tachwedd, a gwn y bydd fy nghyd-Aelodau yn manteisio ar y cyfle i gyfrannu ato.
O ran y mathau o bethau y mae'r Ysgrifennydd yn ystyried edrych arnynt yn y dyfodol, un o'r rheini yw caniatáu i berchnogion llety gwyliau ddefnyddio cyfartaledd o 182 diwrnod dros sawl blwyddyn. Golyga hynny y byddai'r rhai a allai fethu'r trothwy 182 diwrnod o drwch blewyn yn y flwyddyn ddiwethaf yn parhau ar yr ardrethi annomestig pe byddent wedi cyflawni hynny ar gyfartaledd dros y ddwy neu dair blynedd flaenorol. Mae hefyd yn ystyried caniatáu rhoi hyd at 14 diwrnod o wyliau am ddim i elusen i gyfrif tuag at y targed o 182 diwrnod, er enghraifft. Mae'r rheini ymhlith y cynigion sydd yn yr ymgynghoriad ar hyn o bryd.”
Wrth siarad ar ôl y cyfarfod, dywedodd Mr Isherwood:
"E-bostiodd PASC yn ddiweddarach yn diolch i mi 'am ofyn y cwestiwn i Ysgrifennydd y Cabinet heddiw'. Fel y gwnaethon nhw ychwanegu, fodd bynnag, 'yn anffodus, ni wnaeth yr ymateb ychwanegu unrhyw beth mewn gwirionedd'.
"Rydw i wedi bod yn galw am adolygiad o'r polisi 182 diwrnod ers amser maith, gan dynnu sylw dro ar ôl tro at y caledi diangen sy’n wynebu ein sector lletygarwch oherwydd hyn a pholisïau eraill Llywodraeth Cymru.
"Ac wrth i ni aros, yn anffodus rydyn ni wedi gorfod gwylio busnesau yn cau eu drysau, gan effeithio ar fywoliaethau ac economi ymwelwyr lleol. Ni all camau gweithredu ddod yn ddigon buan."