Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • Cefndir Mark Isherwood
  • Newyddion
  • Cysylltu
  • ENG
  • Senedd Cymru
Site logo

Mark Isherwood AS: Prinder cyfleusterau tennis dan do yng Nghymru

  • Tweet
Dydd Mercher, 22 Hydref, 2025
  • Local News
Mark Isherwood AS: Prinder cyfleusterau tennis dan do yng Nghymru

Gyda thennis proffesiynol yn dychwelyd i Gymru yr wythnos hon am y tro cyntaf ers 30 mlynedd, mae AS Gogledd Cymru, Mark Isherwood, wedi tynnu sylw at yr angen am fwy o gyrtiau tennis dan do yng Nghymru ac wedi galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda'r Gymdeithas Tennis Lawnt a Tennis Cymru i lenwi'r bwlch hwn mewn cyfleusterau.

Dechreuodd Pencampwriaeth Agored Lexus Wrecsam, y digwyddiad tennis merched mwyaf ym Mhrydain Fawr y tu allan i'r tymor cwrt glaswellt, yng Nghanolfan Tennis Wrecsam ddoe.

Wrth siarad yn Siambr y Senedd ddoe, cyfeiriodd Mr Isherwood at y twrnamaint a galwodd am Ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar gefnogaeth i gyfleusterau tennis yng Nghymru, gan dynnu sylw at y prinder cyrtiau tennis dan do yng Nghymru.

Dywedodd:

Mae'r wythnos hon yn nodi dychwelyd tennis proffesiynol i Gymru am y tro cyntaf ers 30 mlynedd, wrth i Dwrnamaint Agored Lexus Wrecsam ddechrau yng Nghanolfan Tennis Wrecsam, y digwyddiad tennis merched mwyaf ym Mhrydain Fawr y tu allan i'r tymor cwrt glaswellt. Mae'r prif atyniad yn dechrau heddiw.  

Er bod y twrnamaint yn dilyn buddsoddiad sylweddol mewn cyfleusterau tennis a padel ledled Cymru, dim ond 37 o'r 1,100 o gyrtiau tennis Cymru sydd wedi eu gorchuddio, y ganran isaf ym Mhrydain Fawr, ac ymhell oddi tan gymheiriaid yn Ewrop, er gwaethaf y galw am dennis dan do yng Nghymru. Mae'r Gymdeithas Tennis Lawnt a Tennis Cymru yn awyddus i weithio gyda Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r bwlch hwn o ran cyfleusterau, ac rwy'n galw am ddatganiad yn unol â hynny.

Wrth ymateb, dywedodd y Trefnydd, Jane Hutt AS:

Fe fydd Tennis Cymru, rwy'n siŵr, wrth eu boddau oherwydd i chi godi hyn heddiw, oherwydd mae hon yn gamp bwysig ac yn rhan o'n hamrywiaeth o gyfleoedd o ran chwaraeon yng Nghymru. Felly, fe wnaf i godi hyn hefyd gyda'r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol.

Gellir gwylio Pencampwriaeth Agored Lexus Wrecsam ar BBC iPlayer, gwefan BBC Sport a'r Tennis Channel.

You may also be interested in

Mark Isherwood AS: Mwy o Angen am Gymdeithas Cynhwysol o Anabledd yng Nghymru

Mark Isherwood AS: Mwy o Angen am Gymdeithas Cynhwysol o Anabledd yng Nghymru

Dydd Mercher, 3 Rhagfyr, 2025
Mae AS Gogledd Cymru a Chadeirydd Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar Anabledd, Mark Isherwood, wedi galw unwaith eto ar Lywodraeth Cymru i amlinellu pryd y bydd yn ymyrryd i atal camdriniaeth pobl anabl.Wrth ymateb i Ddatganiad ddoe gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r

Show only

  • Local News
  • Newsletters
  • Senedd News
  • Speeches

Mark Isherwood AS

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • Cefndir Mark Isherwood
Welsh ParliamentHyrwyddir gan Mark Isherwood.

Nid yw Senedd Cymru, neu Mark Isherwood yn gyfrifol am gynnwys cysylltiadau allanol neu wefannau. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus.

Hawlfraint 2025 Mark Isherwood AS . Cedwir pob hawl.
Powered by Bluetree