Mae’r Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, Mark Isherwood, wedi galw am Ddatganiad gan yr Ysgrifennydd Iechyd yn cadarnhau pryd y bydd y Cyffur Ffibrosis Systig Alyftrek ar gael yn rheolaidd ar y GIG yng Nghymru.
Mae Alyftrek, sydd wedi bod ar gael yn Lloegr ers yr haf, yn cynrychioli'r cynnydd diweddaraf mewn triniaethau sy'n trawsnewid gofal Ffibrosis Systig trwy dargedu achos sylfaenol y clefyd yn hytrach na rheoli symptomau yn unig.
Yn siarad yn Siambr y Senedd heddiw, mynegodd Mr Isherwood bryder nad yw'r cyffur ar gael i gleifion Cymru o hyd a galwodd am ddiweddariad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
Meddai:
“Rwy'n galw am ddau ddatganiad gan Lywodraeth Cymru—yn gyntaf, ar argaeledd triniaethau ffibrosis systig.
“Nid yw'r feddyginiaeth a gymeradwywyd yn ddiweddar, Alyftrek, ar gael yng Nghymru o hyd, er ei bod ar gael yn Lloegr ers yr haf ac yn gynwysedig yng nghanllawiau'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal, NICE. Er bod meddyginiaeth ar gael yng Nghymru fel arfer o fewn 60 diwrnod ar ôl ei chymeradwyo gan NICE, nid yw hynny wedi digwydd gydag Alyftrek.
“Mae'r Ymddiriedolaeth Ffibrosis Systig a thimau clinigol wedi codi pryderon am drafodaethau masnachol estynedig, ac mae'r ymddiriedolaeth yn deall bod Llywodraeth Cymru yn ceisio cytundeb ehangach i gynnwys cleifion y tu hwnt i feini prawf NICE, sy'n gohirio argaeledd yn ddiangen i'r rhai sy'n bodloni'r canllawiau eisoes.
“Mae prif swyddog gweithredol yr Ymddiriedolaeth Ffibrosis Systig wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd iechyd yma, yn annog argaeledd ar unwaith i gleifion cymwys. Felly, mae angen datganiad gan yr Ysgrifennydd Iechyd yn cadarnhau pryd y bydd Alyftrek ar gael yn rheolaidd ar y GIG yng Nghymru i'r rhai sy'n bodloni meini prawf NICE, a pha gamau sy'n cael eu cymryd i sicrhau ei bod ar gael mewn da bryd i'r rhai sydd â'r angen mwyaf.”
Mewn ymateb, dywedodd y Trefnydd, Jane Hutt AS:
“Yn amlwg, rydych chi wedi ymgysylltu o ran argaeledd hollbwysig y feddyginiaeth newydd honno i bobl â ffibrosis systig. Rwy'n siŵr eich bod chi'n deall mai da o beth yw i Lywodraeth Cymru fod yn edrych hefyd ar gleifion y tu draw i feini prawf NICE, ond mae hi'n amlwg fod angen i ni anfon gwybodaeth yn ôl, yn enwedig felly, i'r teuluoedd hynny a'r rhai sydd â ffibrosis systig o ran yr amserlenni ar gyfer hyn. Yn sicr, fe fyddaf i'n rhannu hyn ac yn codi hyn gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ac fe fydd ef yn cysylltu â chi, ac yn wir yn rhannu hynny gyda'r Senedd.”