Mae Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru a Chadeirydd Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar Awtistiaeth, Mark Isherwood, wedi galw am ailwampio gwasanaethau niwrodatblygiad yng Nghymru, gan dynnu sylw at yr heriau difrifol y mae teuluoedd yn eu profi wrth gael gafael ar gymorth digonol ar gyfer cyflyrau niwroddatblygiadol gan gynnwys Syndrom Tourette, Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd ac Awtistiaeth.
Wrth holi'r Prif Weinidog yng nghyfarfod y Senedd heddiw, dywedodd Mr Isherwood fod nifer cynyddol o rieni yn adrodd bod uwch swyddogion cyhoeddus yn methu â deall neu fynd i'r afael yn llawn â'r rhwystrau sy'n wynebu teuluoedd sy'n delio â chyflyrau niwroddatblygiad.
Meddai:
“Mae syndrom Tourette, anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd ac awtistiaeth yn anhwylderau niwroddatblygiadol gwahanol a all gyd-ddigwydd, gan ddangos rhai symptomau a nodweddion sy'n gorgyffwrdd.
“Er gwaethaf cefnogaeth arwynebol Llywodraeth Cymru i hyn, mae teuluoedd sy'n cael eu gwthio i argyfwng gan uwch swyddogion cyhoeddus sy'n gwrthod deall y rhwystrau y maen nhw'n eu hwynebu yn parhau i gysylltu â mi bron bob dydd.
“Dim ond yr wythnos hon, er enghraifft, cysylltodd rhiant i ddau blentyn sydd wedi cyflwyno â phroblemau niwroddatblygiadol eglur dros y 10 mlynedd diwethaf â mi. Bu'n rhaid i'r ddau gyrraedd pwynt argyfwng cyn i'r bwrdd iechyd gymryd unrhyw gamau sylweddol i'w helpu. Fe'u gorfodwyd i gael asesiad preifat ar gyfer un, yn dangos bod ganddo awtistiaeth ac ADHD diffyg canolbwyntio, ochr yn ochr â syndrom Tourette y cafwyd diagnosis ohono eisoes. Nid oedd byth yn mynd i ddysgu trwy ddulliau safonol, ac roedd angen llawer o gymorth arno yn llawer cynt.
“Cafodd y llall ei anfon adref o'r ysgol ym mis Mehefin gyda blinder a phryderon am ei fwyta. Cafodd ei weld gyntaf gan CAMHS ynglŷn ag anhwylder bwyta tybiedig ym mis Ionawr 2020. Yn fwyaf diweddar, cafodd apwyntiad brys gan CAMHS, a ddangosodd fod ei bwysau yn agos at lefelau peryglus o isel gyda risg o fethiant organau.
“Pryd, os o gwbl, wnewch chi ail-ddylunio gwasanaethau gyda'r teuluoedd hyn o'r diwedd er mwyn mynd i'r afael â'r diwylliant o feio, bwlio a labelu, sy'n parhau i'w gwthio i argyfwng?”
Wrth ymateb, dywedodd y Prif Weinidog:
“Rydym ni'n cydnabod bod y ddarpariaeth o wasanaethau yn y maes hwn yn amrywio, a chynigir cymorth trwy wasanaethau niwrowahaniaeth neu CAMHS. Ceir cod ar gyfer awtistiaeth, ac mae hwnnw'n cydnabod yr angen am wasanaethau i gynorthwyo unigolion. Bydd y cod newydd hwnnw'n cynnwys syndrom Tourette. Rwy'n credu yn ôl pob tebyg ei bod hi'n werth nodi hefyd bod y rhaglen gwella niwrowahaniaeth yn gweithio gyda Tourettes Action a phartneriaid trydydd sector i godi ymwybyddiaeth ac i wella dealltwriaeth broffesiynol i wella gwasanaethau ac ymwybyddiaeth o syndrom Tourette. Felly, rydym ni'n gwybod bod mwy o waith i'w wneud yn y maes hwn, ac rydym ni'n gweithio gyda'r arbenigwyr yn eu maes i'n helpu i ddatblygu cynnig gwell i bobl Cymru.”
Yn siarad wedyn, dywedodd Mr Isherwood:
"Rwyf wedi amlinellu'r niwed y mae hyn yn ei achosi i deuluoedd dro ar ôl tro ac wedi galw am weithredu, ond mae'n dal i ddigwydd dro ar ôl tro.
"Rwy'n falch bod y Prif Weinidog yn cydnabod bod angen gwneud mwy, ond mae angen gweithredu cyflym i roi terfyn ar y dioddefaint dyddiol i'r teuluoedd hyn."