
Gyda llai o Therapyddion Iaith a Lleferydd y pen o'r boblogaeth yng Nghymru nag mewn unrhyw ran arall o'r DU, a'r Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid yn nodi bod 71% o blant a ddedfrydwyd ag anghenion lleferydd, iaith neu gyfathrebu, cyflwynodd Mark Isherwood, AS Gogledd Cymru, gynnig gan y Ceidwadwyr Cymreig ddoe yn cefnogi galwadau gan Goleg Brenhinol y Therapyddion Iaith a Lleferydd i gynyddu nifer y Therapyddion Iaith a Lleferydd yng Nghymru a gwella cynllunio'r gweithlu ar gyfer y proffesiwn.
Roedd y cynnig yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) sefydlu model cyllido clir a chynaliadwy ar gyfer therapyddion lleferydd ac iaith mewn timau cyfiawnder ieuenctid ar draws Cymru; a b) gweithio gyda Llywodraeth y DU i fandadu presenoldeb therapydd lleferydd ac iaith ym mhob tîm cyfiawnder ieuenctid fel gofyniad statudol
Wrth arwain y ddadl, dywedodd Mr Isherwood:
“Ar ôl i mi'n bersonol fod yn brwydro 24 mlynedd yn ôl i sicrhau therapi lleferydd ac iaith i un o fy mhlant, rwy'n gwybod pa mor hanfodol yw therapi o'r fath i fywydau ifanc a chyfleoedd bywyd.
“Ceir tystiolaeth ryngwladol gref fod nifer yr achosion o anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu yn llawer mwy cyffredin ymysg troseddwyr nag yn y boblogaeth gyffredinol, ac fel y noda ein cynnig, mae ystadegau diweddaraf y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid yn dangos bod gan 71% o blant a ddedfrydwyd yn y system cyfiawnder ieuenctid yng Nghymru a Lloegr anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu, o'i gymharu â 10% amcangyfrifedig o blant a phobl ifanc yn gyffredinol. Mae hyn yn cymharu ag amcangyfrif o 10% ar gyfer plant a phobl ifanc yn gyffredinol.
“Mae'r rhai sy'n mynd i mewn i'r system cyfiawnder ieuenctid yn aml yn gwneud hynny o leoliadau lle na chafodd eu hanghenion cyfathrebu eu nodi'n flaenorol. Nid oedd ond 5% wedi cael eu hanghenion cyfathrebu wedi'u nodi cyn iddynt fynd i mewn i'r system cyfiawnder ieuenctid. Gall y goblygiadau fod yn ddwys i unigolyn ifanc sydd ag anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu o fewn y system cyfiawnder ieuenctid."
Ychwanegodd Mr Isherwood:
“Roedd mynediad at gymorth lleferydd, iaith a chyfathrebu i blant yn thema ar draws adroddiadau arolygu diweddar o Gonwy a sir Ddinbych, Gwynedd ac Ynys Môn, a sir y Fflint. Derbyniodd pob un o'r tair partneriaeth cyfiawnder ieuenctid argymhellion uniongyrchol i fynd i'r afael â'r bwlch a nodwyd yn y ddarpariaeth hon a sicrhau bod gwasanaethau'n cael eu darparu sy'n asesu ac yn ymateb i anghenion cyfathrebu plant. Geilw hyn am fuddsoddiad brys a gwaith hirdymor ar gynllunio'r gweithlu, y dylem fod wedi'i gael 20 mlynedd yn ôl, i roi diwedd ar y loteri cod post o wasanaethau ledled Cymru ar gyfer rhai o'n pobl ifanc fwyaf agored i niwed.”
Aeth Mr Isherwood ymlaen i gyfeirio at adroddiad diweddar 'State of the Nation' y Coleg Brenhinol ar y gweithlu therapi iaith a lleferydd yng Nghymru, a ddatgelodd fod y galw am therapi lleferydd ac iaith i blant ac oedolion yn tyfu'n sylweddol. Pwysleisiodd mai dim ond 55 o Therapyddion Iaith a Lleferydd sy'n cael eu hyfforddi yma yng Nghymru y flwyddyn ar draws dau sefydliad addysg uwch.
Aeth Mr Isherwood ymlaen i restru galwadau'r Coleg Brenhinol, sy'n cynnwys "cyllid cynaliadwy ar gyfer gwasanaethau therapi lleferydd ac iaith i ateb galw cynyddol; a chynlluniau gweithlu gwell, mwy soffistigedig ar gyfer y proffesiwn fel rhan o'r agenda ataliol, gan ystyried yr angen i fodloni safonau a galw gan sectorau, gan gynnwys cyfiawnder.”