Yn lansiad "Rhwydwaith Llawr Gwlad Mynediad at Wleidyddiaeth: Siarter" Anabledd Cymru heddiw, pwysleisiodd AS Gogledd Cymru a Chadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Anabledd, Awtistiaeth a Materion Pobl Fyddar, Mark Isherwood, na ellir "anwybyddu diffyg cynrychiolaeth pobl anabl ar lefel y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig".
Pwysleisiodd Mr Isherwood: "gyda heriau dybryd, fel Addysg Gynhwysol, Trafnidiaeth Hygyrch, Gofal Cymdeithasol a Diwygio Lles, i gyd yn gofyn am atebion yn ystod tymor nesaf y Senedd, mae'n hanfodol bod pobl anabl yn cael eu cynrychioli'n ddigonol".
Siaradodd am brosiect Access to Politics Grassroots, sy'n ceisio hyrwyddo mwy o gyfranogiad gwleidyddol ymhlith pobl anabl, codi ymwybyddiaeth o gyfleoedd ar gyfer cyfranogiad gwleidyddol, yn ogystal â hyrwyddo cydraddoldeb i bobl anabl a chynhwysiant mewn cynrychiolaeth wleidyddol ar bob lefel o lywodraeth.
Meddai:
"Ffurfiodd y prosiect rwydwaith ar lawr gwlad ar gyfer pobl anabl sydd â diddordeb a/neu sy'n ymwneud â gwleidyddiaeth; a, gydag aelodau, cyd-luniodd y Siarter Mynediad at Wleidyddiaeth, gan nodi camau ymarferol i bleidiau gwleidyddol eu dilyn, gan sicrhau bod mwy o bobl anabl yn cael eu cynnwys o fewn strwythurau pleidiau.
"Fel y dywed y Siarter, mae pobl anabl yn cynrychioli un rhan o bump o boblogaeth Cymru, ond nid yw hyn yn cael ei adlewyrchu ymhlith aelodau etholedig ledled Cymru. Mae diffyg pobl anabl mewn rolau gwneud penderfyniadau yn golygu nad yw polisïau a gwasanaethau yn cael eu llywio gan brofiad bywyd."
Ychwanegodd:
"Cyn Etholiad Cyffredinol y DU 2024, canfu'r elusen anabledd Sense fod bron i hanner y bobl anabl yn y DU yn teimlo nad oedden nhw'n bwysig i bleidiau gwleidyddol, gydag un o bob pedwar ddim yn obeithiol y byddai bywyd yn gwella i bobl anabl o dan Lywodraeth newydd.
"Ni ellir anwybyddu diffyg cynrychiolaeth pobl anabl ar lefel y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig, a rhaid i bleidiau gwleidyddol, Llywodraethau a'r awdurdodau Seneddol gymryd camau i wella'r darlun hwn.
"Gyda heriau dybryd, fel Addysg Gynhwysol, Trafnidiaeth Hygyrch, Gofal Cymdeithasol a Diwygio Lles, i gyd yn gofyn am atebion yn ystod tymor nesaf y Senedd, mae'n hanfodol bod pobl anabl yn cael eu cynrychioli'n ddigonol."
Aeth Mr Isherwood ymlaen i bwysleisio nad yw'r broblem o ddiffyg cynrychiolaeth yn stopio gydag Aelodau etholedig.
Meddai:
"Mae heriau i sicrhau bod penodiadau cyhoeddus yn adlewyrchu'r boblogaeth ehangach yng Nghymru. Er enghraifft, mae data a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2025 gan Lywodraeth Cymru yn awgrymu bod diffyg cynrychiolaeth o bobl anabl ar Fyrddau Sector Cyhoeddus.
"Yn 2022, lansiodd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus y Senedd, yr wyf yn gadeirydd arno, ymchwiliad i benodiadau cyhoeddus. Aeth y Pwyllgor ati i ystyried, ymhlith pethau eraill, rwystrau i sicrhau amrywiaeth mewn penodiadau cyhoeddus.
"Yn ei adroddiad dilynol yn 2025, cododd y Pwyllgor sawl pryder yn ymwneud â diffyg amrywiaeth ymgeiswyr ar gyfer rolau cyhoeddus a hygyrchedd y broses benodi.
"Mae'r Siarter yn galw am fabwysiadu'r Model Cymdeithasol o Anabledd mewn polisi ac ymarfer. Dros nifer o flynyddoedd, rydw i wedi annog Cyrff Cyhoeddus cenedlaethol a lleol i ymgorffori'r Model Cymdeithasol o Anabledd ym mhopeth maen nhw'n ei wneud, o ddeddfwriaeth i gynllunio gwasanaethau— gan gydnabod nad eu hamhariadau sy’n gwneud pobl yn anabl, ond y rhwystrau i fynediad a chynhwysiant y mae cymdeithas yn eu gosod yn eu ffordd, a bod rhaid i ni weithio gyda phobl anabl i gael gwared ar y rhain, gan weld y byd trwy eu llygaid nhw, a rhoi'r llais, y dewis, y rheolaeth a'r annibyniaeth maen nhw am eu cael ac yn eu haeddu.
"Pleser oedd cael cymryd rhan yn y rhaglen fentora traws-gydraddoldeb ‘Pŵer Cyfartal Llais Cyfartal’ i gynyddu cynrychiolaeth amrywiol ym mywyd cyhoeddus a gwleidyddol yng Nghymru.
"O safbwynt personol, rwy'n croesawu'r Siarter hon ac yn canmol ei nodau. Wrth siarad ar ran fy Mhlaid, rwy'n gwybod y byddan nhw'n cytuno â llawer ohoni, a thrwy ddefnyddio'r Siarter hon, gallwn sicrhau bod gwleidyddiaeth Cymru yn adlewyrchu amrywiaeth, talent a phrofiad bywyd yr holl bobl rydyn ni'n eu cynrychioli."