
Er gwaethaf gwneud galwadau dro ar ôl tro dros ddau ddegawd am wrando ar brofiadau menywod a merched ag Awtistiaeth ac ADHD a gweithredu ar eu sail, mae AS Gogledd Cymru, Mark Isherwood, wedi siarad am ei rwystredigaeth ddoe eu bod yn dal i gael eu methu.
Wrth siarad yn y Ddadl Fer 'Meddwl yn Wahanol: Menywod a Merched Awtistig ac ADHD’ yn ystod cyfarfod y Senedd ddydd Mercher, cyfeiriodd Mr Isherwood, sy'n cadeirio Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar Awtistiaeth at adroddiadau sy'n dangos nad yw menywod a merched â'r cyflyrau niwroamrywiol hyn yn dal i dderbyn y gefnogaeth sydd ei hangen arnyn nhw.
Wrth siarad yn y Ddadl, dywedodd Mr Isherwood:
“Wel, fel y dywed Sefydliad y Merched, ers gormod o amser, mae profiadau menywod a merched o awtistiaeth ac ADHD wedi cael eu diystyru a'u methu. Dim ond ers dau ddegawd y bûm yn codi hyn yma
“Canfu eu hadroddiad yn 2024, 'Understanding the Experiences of Autistic and ADHD Women', fod 75 y cant yn teimlo nad oes digon o gefnogaeth ar gael i unigolion awtistig a'u teuluoedd
“Canfu adroddiad 2023 yr elusen KIM Inspire 'Supporting Neurodivergent Girls and Young Women across North-east Wales' fod awtistiaeth ac ADHD mewn merched a menywod ifanc yn parhau i gael eu diystyru gan wasanaethau statudol, fod beio rhieni'n digwydd yn aml, a bod hyn yn arwain at drallod, lefelau isel o hunan-barch ac ymddygiadau hunan-niweidiol.
“Nododd ymchwil gan ysgol y gyfraith Prifysgol Leeds fod mamau plant awtistig 100 gwaith yn fwy tebygol o gael eu harchwilio am salwch wedi'i ffugio neu ei achosi gan eraill—creu neu orliwio anawsterau eu plentyn—gan wasanaethau plant, a bod hyn o leiaf yr un mor gyffredin yng Nghymru. A'r wythnos diwethaf, cefais yr anrhydedd o fynychu ymgynghoriad yn St George's House, Castell Windsor, ar yr argyfwng hwn. Mae pawb yn galw am weithredu gan y rhai sy'n gwneud penderfyniadau—mae'n hen bryd.”