Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • Cefndir Mark Isherwood
  • Newyddion
  • Cysylltu
  • ENG
  • Senedd Cymru
Site logo

Pryderon Mawr ynghylch Diwygiadau Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) Llywodraeth Cymru

  • Tweet
Dydd Mercher, 14 Mai, 2025
  • Local News
Pryderon Mawr ynghylch Diwygiadau Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) Llywodraeth Cymru

Heddiw, dywedodd AS Gogledd Cymru, Mark Isherwood, wrth Lywodraeth Cymru fod y system Anghenion Dysgu Ychwanegol yng Nghymru yn methu teuluoedd.

Wrth alw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i rannu’r wybodaeth ddiweddaraf am ddiwygiadau Anghenion Dysgu Ychwanegol Llywodraeth Cymru, dywedodd Mr Isherwood fod plant a’u rhieni yn cael eu methu gan y system newydd.

Wrth siarad yn Siambr y Senedd, dywedodd:

“Y llynedd, dywedodd ymgyrch Diwygio ADY Cymru wrthyf nad yw’r system newydd yn gweithio o gwbl, eu bod wedi cael straeon di-ri am blant a fethwyd neu a adawyd ar ôl gan y system newydd, fod plant a rhieni’n cael eu beio a’u cosbi, a bod trawma’n dod o’r ysgol am nad oedd athrawon ac ysgolion yn cael eu hyfforddi a’u cefnogi.

“Flwyddyn yn ôl, dywedodd Undeb Addysg Cenedlaethol Cymru, er eu bod yn croesawu Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 yn gyffredinol, a bod eu haelodau’n awyddus i ganolbwyntio ar blant a’u dysgu, fod y system yn gorfodi athrawon o’r ystafell ddosbarth.”

“Eleni, dywedodd Cymdeithas Genedlaethol yr Ysgolfeistri ac Undeb yr Athrawesau wrthyf, er eu bod yn cefnogi’r egwyddorion y tu ôl i’r ddeddfwriaeth, mai dim ond os nad yw gweithwyr addysg proffesiynol yn treulio amser gwerthfawr yn cwblhau gwaith papur y mae ymyriadau effeithiol yn bosibl, fod adroddiad Estyn ym mis Rhagfyr wedi tynnu sylw at bryderon mawr ynghylch gweithredu’r Ddeddf, a bod angen i bobl wybod sut y gallent gyfrannu at adolygiad deddfwriaethol Llywodraeth Cymru, sydd bellach wedi’i gwblhau.

“O ystyried bod disgwyl diwygiadau mawr i’r ddarpariaeth anghenion addysgol arbennig yn Lloegr, gyda Llywodraeth y DU yn edrych ar yr hyn a ddigwyddodd i’r diwygiadau ADY yng Nghymru, beth fyddwch chi’n ei ddweud wrthynt ynglŷn â hyn?”

Yn ei hymateb, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet fod “ein diwygiadau o fudd i lawer o ddysgwyr a theuluoedd”, a bod “adolygiad diweddar Estyn yn dangos gwelliannau yn y ddarpariaeth ADY ac ymarfer da iawn ledled Cymru.”

Wrth siarad ar ôl y cyfarfod, dywedodd Mr Isherwood:

“I roi sylwadau’r Ysgrifennydd Cabinet mewn cyd-destun, dywedwyd wrthyf fod adroddiad Estyn ym mis Rhagfyr yn cydnabod bod y Ddeddf yn cael ei gweithredu yn anghyson ledled Cymru; bod angen cefnogaeth staff ar Gydlynwyr Anghenion Dysgu Ychwanegol, ond nad oes gan staff amser i gefnogi ymyriadau unigol, yn enwedig mewn ysgolion uwchradd; ac nad yw Cod ADY Statudol Cymru yn manylu bod angen partneriaeth amlasiantaeth a sut y dylai weithio.”

You may also be interested in

AS yn cyflwyno Datganiad Barn i gyd-fynd â Diwrnod Ymwybyddiaeth Cam-drin Henoed y Byd

AS yn cyflwyno Datganiad Barn i gyd-fynd â Diwrnod Ymwybyddiaeth Cam-drin Henoed y Byd

Dydd Llun, 16 Mehefin, 2025
Mae AS Gogledd Cymru, Mark Isherwood, wedi cyflwyno Datganiad Barn yn y Senedd i gyd-fynd â Diwrnod Ymwybyddiaeth Cam-drin Henoed y Byd.Mae Mr Isherwood wedi cyflwyno'r Datganiad Barn canlynol a galwodd ar Aelodau o’r Senedd i'w gefnogi:Mae’r Senedd hon:Yn nodi mai 15 Mehefin 2025 yw’r Diwrnod Ymwyb

Show only

  • Local News
  • Newsletters
  • Senedd News
  • Speeches

Mark Isherwood AS

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • Cefndir Mark Isherwood
Welsh ParliamentHyrwyddir gan Mark Isherwood.

Nid yw Senedd Cymru, neu Mark Isherwood yn gyfrifol am gynnwys cysylltiadau allanol neu wefannau. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus.

Hawlfraint 2025 Mark Isherwood AS . Cedwir pob hawl.
Powered by Bluetree