
Mae AS Gogledd Cymru, Mark Isherwood, sy’n cadeirio Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar Awtistiaeth a’r Grŵp Trawsbleidiol ar Anabledd, wedi dweud bod yn rhaid dileu’r rhwystrau i gyflogaeth i bobl anabl ac awtistig.
Yn y ‘Ddadl Frys: Effaith Diwygiadau Lles Diweddar y Canghellor’ ddoe, dywedodd Mr Isherwood fod pobl anabl ac awtistig wedi dweud wrtho eu bod eisiau gweithio ond eu bod yn cael eu hatal rhag gwneud hynny.
Ar ôl gofyn i Hefin David AS ildio, dywedodd:
“Gan eich bod yn gyd-aelod o’r grŵp awtistiaeth trawsbleidiol, sydd hefyd yn mynychu’r grŵp trawsbleidiol ar anabledd o bryd i’w gilydd, a wnewch chi gadarnhau fy natganiad ein bod wedi cymryd tystiolaeth yn y ddau grŵp trawsbleidiol hynny ar anabledd a chyflogaeth, ac mae pobl anabl ac awtistig yn dweud wrthym eu bod eisiau gweithio, y broblem yw’r rhwystrau y maent yn eu hwynebu i gyflogaeth a hygyrchedd budd-daliadau?”
Cadarnhaodd Hefin David fod hynny’n wir, gan ddweud:
“Clywais bobl ag anabledd dysgu a phobl awtistig yn dweud hynny, ac rydym wedi gweld hynny drwy Engage to Change.”
Wrth siarad ar ôl y ddadl, ychwanegodd Mr Isherwood:
“Mae’n hanfodol bod rhwystrau i gyflogaeth sy’n cyfyngu ar ddewisiadau bywyd i bobl anabl ac awtistig yn cael eu dileu fel y gall pawb fod yn annibynnol ac yn gyfartal mewn cymdeithas. Mae hyn yn rhywbeth rydw i wedi bod yn galw amdano ers blynyddoedd lawer a byddaf yn parhau i wneud hynny.
“Fel y nododd Adroddiad Scope, ‘Enabling work: disabled people, employment and the UK economy’, yn ôl yn 2015, mae bod mewn gwaith yn ymwneud â mwy na dim ond cyflog. Mae’n ymwneud â bod yn annibynnol, rhyngweithio â’ch cyfoedion, a gallu cyflawni eich nodau a’ch dyheadau. Ond i ormod o bobl anabl mae rhwystrau i ddechrau gweithio, aros mewn gwaith, a symud ymlaen yn y gwaith. Mae hyn nid yn unig yn broblem i’r unigolion dan sylw, ond yn broblem i gymdeithas yn gyffredinol. Mae methu â mynd i’r afael â’r rhwystrau i waith y mae pobl anabl yn eu hwynebu yn fethiant i gydnabod y cyfraniad y mae pobl anabl yn ei wneud ac y gallent ei wneud i economi a chymdeithas Prydain.”