Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • Cefndir Mark Isherwood
  • Newyddion
  • Cysylltu
  • ENG
  • Senedd Cymru
Site logo

“Rhaid i Gwricwlwm newydd Llywodraeth Cymru esblygu ochr yn ochr â newid gwyddonol a thechnolegol”

  • Tweet
Dydd Mercher, 14 Mai, 2025
  • Local News
“Rhaid i Gwricwlwm newydd Llywodraeth Cymru esblygu ochr yn ochr â newid gwyddonol a thechnolegol”

Ar ôl cyd-noddi a mynychu’r 21ain ‘Digwyddiad Gwyddoniaeth yn y Senedd 2025’ blynyddol ddoe, mae AS Gogledd Cymru, Mark Isherwood, yn galw am i Gwricwlwm i Gymru newydd Llywodraeth Cymru esblygu ochr yn ochr â chyflymder y newid gwyddonol a thechnolegol.

Trefnwyd y digwyddiad gan y Gymdeithas Gemeg Frenhinol mewn cydweithrediad â chymuned wyddonol a pheirianneg Cymru. Thema eleni oedd “Addysg a’r Gweithlu yn y Dyfodol”.

Wrth siarad ar ôl y digwyddiad, dywedodd Mr Isherwood:

“Rydyn ni ar gyrion trawsnewidiad cymdeithasol pellgyrhaeddol. Mae deallusrwydd artiffisial, newid hinsawdd, biotechnoleg, a throsglwyddo ynni yn ail-siapio ein bywydau ar hyn o bryd. Bydd sut rydyn ni’n addysgu heddiw yn dylanwadu ar sut fyddwn ni’n ffynnu yfory.

“Os ydyn ni am adeiladu gweithlu yn y dyfodol sy’n hyblyg, cynhwysol a blaengar, mae’n rhaid i ni adeiladu system addysg sy’n nodweddu hynny hefyd. 

“Mae’n rhaid i ni sicrhau bod Cwricwlwm i Gymru newydd Llywodraeth Cymru yn esblygu ochr yn ochr â newid gwyddonol a thechnolegol.

“Fel yr awgrymwyd yn y Grŵp Trawsbleidiol ar Wyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, Mathemateg a Meddygaeth, STEMM, efallai ei bod hi’n bryd ailedrych ar sut mae’r cwricwlwm hwn yn cysylltu’n uniongyrchol ag anghenion y farchnad lafur - gyda ffocws penodol ar y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer yr economi werdd, gweithgynhyrchu uwch, ac arloesi digidol: gan integreiddio meysydd datblygol fel Deallusrwydd Artiffisial, gwyddor data, a thechnolegau gwyrdd, ymwreiddio cyfleoedd ar gyfer dysgu rhyngddisgyblaethol, a chefnogi athrawon gyda’r datblygiad proffesiynol, yr amser a’r adnoddau i wireddu’r weledigaeth hon.

“Mae cyflwyniadau i’r Grŵp Trawsbleidiol hefyd wedi tynnu sylw at effaith carlam Deallusrwydd Artiffisial ar addysg a diwydiant.

“Er mwyn paratoi ar gyfer hyn, mae’n rhaid i ni: ymwreiddio llythrennedd Deallusrwydd Artiffisial ar draws y cyflenwad addysg, uwchsgilio ein gweithlu presennol gyda hyfforddiant parhaus a hygyrch, sicrhau nad yw moeseg, tegwch ac atebolrwydd yn agweddau atodol ond yn elfennau craidd o sut rydyn ni’n addysgu ac yn cymhwyso Deallusrwydd Artiffisial, a sicrhau bod technolegau datblygol yn cael eu deall, eu herio a’u defnyddio i adeiladu cymdeithas well.

“Er bod graddau Prifysgol yn aml yn cael eu hystyried fel y prif lwybr ar gyfer gyrfaoedd STEMM, mae economi wyddoniaeth a thechnoleg fodern yn cael ei phweru i’r un graddau gan dechnegwyr, prentisiaid ac arbenigwyr galwedigaethol ag y mae gan ymchwilwyr PhD - ac mae’n rhaid i ni drin pob llwybr i mewn i STEMM gyda’r un dilysrwydd, a’u cefnogi a’u dathlu yn yr un modd.”

You may also be interested in

AS yn cyflwyno Datganiad Barn i gyd-fynd â Diwrnod Ymwybyddiaeth Cam-drin Henoed y Byd

AS yn cyflwyno Datganiad Barn i gyd-fynd â Diwrnod Ymwybyddiaeth Cam-drin Henoed y Byd

Dydd Llun, 16 Mehefin, 2025
Mae AS Gogledd Cymru, Mark Isherwood, wedi cyflwyno Datganiad Barn yn y Senedd i gyd-fynd â Diwrnod Ymwybyddiaeth Cam-drin Henoed y Byd.Mae Mr Isherwood wedi cyflwyno'r Datganiad Barn canlynol a galwodd ar Aelodau o’r Senedd i'w gefnogi:Mae’r Senedd hon:Yn nodi mai 15 Mehefin 2025 yw’r Diwrnod Ymwyb

Show only

  • Local News
  • Newsletters
  • Senedd News
  • Speeches

Mark Isherwood AS

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • Cefndir Mark Isherwood
Welsh ParliamentHyrwyddir gan Mark Isherwood.

Nid yw Senedd Cymru, neu Mark Isherwood yn gyfrifol am gynnwys cysylltiadau allanol neu wefannau. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus.

Hawlfraint 2025 Mark Isherwood AS . Cedwir pob hawl.
Powered by Bluetree