Mae AS Gogledd Cymru, Mark Isherwood, wedi dod yn Hyrwyddwr Seneddol i Bowel Cancer UK.
Yn y rôl hon, bydd Mr Isherwood yn gweithio gyda Bowel Cancer UK i edrych ar ffyrdd o wella diagnosis cynnar a’r gallu i gael y driniaeth a'r gofal gorau yn y Gogledd.
Bydd hefyd yn cyfrannu at godi ymwybyddiaeth o ganser y coluddyn ac yn cynrychioli anghenion cleifion y Gogledd yn y Senedd i helpu i leihau marwolaethau o ganser y coluddyn ledled Cymru.
Meddai Mr Isherwood:
"Rwy'n hynod falch o gael y cyfle hwn i helpu i godi ymwybyddiaeth a gwella diagnosis cynnar o ail ganser mwyaf marwol y DU.
"Canser y coluddyn yw'r pedwerydd canser mwyaf cyffredin yn y DU, gyda thros 16,000 o bobl yn marw o'r clefyd bob blwyddyn, gan gynnwys dros 900 o bobl yng Nghymru.
"Fodd bynnag, mae’n bosibl newid hynny, gan y byddai bron pawb yn goroesi o gael diagnosis yn ystod y cam cynharaf, o'i gymharu â dim ond un o bob deg yn ystod y cam diweddaraf.
"Mae diagnosis cynnar yn hanfodol ar gyfer goroesi canser y coluddyn, ac eto dim ond 39% o gleifion sy'n cael diagnosis yn ystod camau 1 neu 2 ar hyn o bryd.
"Mae ymwybyddiaeth o symptomau a sicrhau bod pobl yn gwybod pryd i weld eu meddyg teulu yn rhan bwysig o wella diagnosis cynnar.
"Ym mis Ionawr 2025, cyhoeddodd Archwilio Cymru adroddiad a oedd yn dangos bod cleifion canser y coluddyn yn aros yn llawer rhy hir am ddiagnosis.
"Er ehangu sgrinio coluddion i gynnwys miloedd yn fwy o bobl ledled Cymru, dim ond 21% o gleifion gafodd gynnig colonosgopi amserol yn ôl yr angen, ymhell islaw’r targed o 90%.
"Mae llai na hanner cleifion canser y coluddyn yn dechrau cael triniaeth o fewn y targed o 62 diwrnod, tra bod chwarter cleifion canser y coluddyn yn aros dros 106 diwrnod i ddechrau triniaeth ar gyfer eu canser.
"Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda Bowel Cancer UK i wella diagnosis cynnar, i sicrhau bod cleifion yn gallu cael y driniaeth a'r gofal gorau ac i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd sgrinio canser y coluddyn."
Meddai Genevieve Edwards, Prif Weithredwr Bowel Cancer UK:
"Rydyn ni’n falch iawn o gael Mark fel un o'n Hyrwyddwyr Seneddol Canser y Coluddyn yn y DU.
"Bydd cefnogaeth Mark yn amhrisiadwy wrth i ni weithio i sicrhau bod anghenion cleifion canser y coluddyn wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau. Bydd hyn yn ein helpu i gyflawni ein gweledigaeth o ddyfodol lle nad oes neb yn marw o ganser y coluddyn."