
Mae AS Gogledd Cymru a Chadeirydd Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar Dlodi Tanwydd ac Effeithlonrwydd Ynni, Mark Isherwood, wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ddysgu gan brosiect ynni domestig sy'n cael ei gyflawni mewn dwy Sir yng Ngogledd Cymru ac adeiladu arno.
Mewn cwestiwn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans AS, yng nghyfarfod y Senedd heddiw, siaradodd Mr Isherwood am y ffordd y mae Tîm Effeithlonrwydd Ynni Domestig Sir y Fflint, gan weithio mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ddinbych, yn darparu cyngor, gwybodaeth a chymorth i drigolion gyda phwyslais penodol ar liniaru tlodi tanwydd.
Meddai:
“Wrth siarad yng nghyfarfod y grŵp trawsbleidiol ar dlodi tanwydd ac effeithlonrwydd ynni ym mis Tachwedd 2023, dywedodd tîm ynni domestig sir y Flint—sydd bellach yn un o wasanaethau'r cyngor, ond yn wreiddiol, yn bartneriaeth â Chanolfan Cyngor Ynni Gogledd Cymru yn yr Wyddgrug, elusen—fod 'aelod o’r tîm yn rhedeg cynllun ECO Flex ar ein cyfer mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ddinbych. Mae'n ddefnyddiol dod ag ychydig o gynghorau ynghyd i'w redeg ar eich rhan. Mae'n bosibl monitro'r cynllun felly a rhoi'r cwsmer yn gyntaf. Rydym hefyd yn dod â sylfaen ardal ynghyd, gan ymgysylltu â pherchen-feddianwyr a rhentwyr preifat i geisio mynd i'r afael â materion yn yr ardal ehangach. Mae hwn yn brosiect sy'n gweithio'n dda iawn. Mae hyn yn mynd at wraidd beth yw awdurdodau lleol a'r hyn y gallant ei wneud, gan wneud y mwyaf o'r cynllun. Byddwn yn codi hyn yng nghyfarfodydd aelodau ein cabinet gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i rannu'r arferion da hyn.
“Gan ddysgu o hyn, pa gamau, os o gwbl, y byddwch yn eu cymryd, felly, i gyflwyno rhaglen draws-sector arbed ynni Cymru ar gyfer cartrefi tlawd o ran tanwydd ar sail ranbarthol ledled Cymru?
Wrth ymateb, diolchodd Ysgrifennydd y Cabinet i Mr Isherwood am yr enghraifft o brosiect sy'n gweithio'n dda a dywedodd "mae'n sicr yn swnio fel rhywbeth y dylid adeiladu arno".
Ychwanegodd:
“Rwy'n credu mai'r hyn sy'n gwneud y prosiect hwnnw mor llwyddiannus yw'r gwaith cydweithredol a thrawsffiniol sy'n mynd rhagddo. Ac mae'n dangos hefyd pa mor bwysig yw cyngor da ar ynni.