Er gwaethaf dyletswyddau cyfreithiol clir a nodir yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, mae AS Gogledd Cymru, Mark Isherwood, wedi codi pryderon heddiw bod hawliau sylfaenol pobl Awtistig yn cael eu hanwybyddu, adolygiadau’n cael eu gohirio ac unigolion wedi'u heithrio o benderfyniadau am eu gofal eu hunain.
Fel Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Awtistiaeth, mae Mr Isherwood wedi tynnu sylw dro ar ôl tro at fethiannau yn y system ac, ar ôl cwrdd yr wythnos hon ag etholwr Awtistig arall sydd hefyd yn cael problemau, cododd y mater gyda'r Prif Weinidog yn Siambr y Senedd heddiw.
Meddai:
“Ddoe, roeddwn i'n bresennol yng nghynllun gofal a chymorth etholwr awtistig arall eto yn sir y Fflint, ar ei gais.
“Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a'i chod ymddygiad yn datgan bod yn rhaid i unigolyn deimlo ei fod yn bartner cyfartal yn ei berthynas â gweithwyr proffesiynol, bod yn rhaid i gynlluniau gofal a chymorth gynnwys dyddiad eglur, y cytunwyd arno gyda'r unigolyn, y bydd y cynllun yn cael ei adolygu yn ei erbyn. Yn achos oedolyn, mae'n rhaid nad yw dyddiad yr adolygiad yn hwy na 12 mis. Roedd hwn yn ddwy flynedd. Ym mhob achos lle bo'n briodol, gyda chytundeb yr unigolyn dan sylw, dylai'r awdurdod lleol hefyd gynnwys pobl eraill penodol, gan gynnwys ymarferwyr a gweithwyr proffesiynol eraill ag arbenigedd yn amgylchiadau neu anghenion yr unigolyn dan sylw, a phan fo anghenion gofal a chymorth cymwys wedi cael eu nodi, a phan fo'r unigolyn yn mynegi dymuniad i dderbyn un, bod yn rhaid i daliadau uniongyrchol fod ar gael ym mhob achos lle maen nhw'n galluogi canlyniadau personol i gael eu cyflawni.
“Ond mae'r gofynion hyn yn cael eu hanwybyddu fel mater o drefn.
“Beth yw pwrpas deddfwriaeth Llywodraeth Cymru os nad yw'n cael ei monitro a, phan fo angen, ei gorfodi, neu o leiaf rhoi cymorth ar waith, i sicrhau bod yr ymarferwyr yn ei wneud yn iawn?”
Yn ei hymateb, dywedodd y Prif Weinidog:
"Rydych chi'n gwbl gywir: mae angen i ni wneud yn siŵr bod y dyletswyddau statudol yr ydym ni'n eu cyflwyno yn y gyfraith yn cael eu deddfu mewn gwirionedd, ac mae gennym ni sefydliadau i wneud yn siŵr bod hynny'n digwydd.”
Ar ôl y cyfarfod, dywedodd Mr Isherwood:
"Wythnos ar ôl wythnos, fis ar ôl mis, flwyddyn ar ôl blwyddyn, mae etholwyr awtistig a'u teuluoedd yn dweud wrthyf fod y ddeddfwriaeth hon a Chod Ymarfer Statudol Llywodraeth Cymru ar Ddarparu Gwasanaethau Awtistiaeth yn cael eu torri gan gyrff cyhoeddus, er gwaethaf datganiad Llywodraeth Cymru y byddai'r Cod yn atgyfnerthu dyletswyddau presennol Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Deddf y GIG (Cymru) 2006 fel dewis arall yn lle Bil Awtistiaeth ar wahân."