Mae rhybuddion gan AS Gogledd Cymru, Mark Isherwood, y byddai'r Terfyn Cyflymder cyffredinol o 20mya yng Nghymru, a gyflwynwyd gan Lywodraeth Lafur Cymru ddwy flynedd yn ôl, yn gwneud fawr ddim i leihau anafiadau ar y ffyrdd, wedi cael eu gwireddu.
Cyn i'r terfyn cyflymder newydd gael ei gyflwyno ym mis Medi 2023, rhybuddiodd Mr Isherwood dro ar ôl tro yn erbyn newid, gan nodi y byddai'r polisi yn syml yn trosglwyddo cyfran yr anafiadau ar y ffyrdd yn hytrach na'u lleihau, a nawr mae ei bryderon wedi'u hategu gan ddata a gyhoeddwyd yn ddiweddar.
Gan godi'r mater wrth drafod gyda’i gydweithiwr Gareth Davies AS yn Nadl y Ceidwadwyr Cymreig ar yr Economi heddiw, dywedodd Mr Isherwood:
“Cyn i Lywodraeth Lafur Cymru gyflwyno'r terfynau diofyn 20 mya—gyda chefnogaeth Plaid Cymru, wrth gwrs—rhybuddiais y byddai newid terfynau 30 mya i derfynau 20 mya yn trosglwyddo cyfran yr anafiadau ffyrdd o'r naill i'r llall, gan symud gyrwyr, ac felly anafiadau ffyrdd, i'r rhwydwaith ffyrdd ehangach.
“Mae'r data ar gyfer y chwe mis cyntaf ar ôl cyflwyno hyn yn dangos bod nifer cyffredinol y bobl a laddwyd neu a anafwyd yn ddifrifol ar ein ffyrdd wedi cynyddu 10 y cant, ac roedd niferoedd diweddaraf yr anafiadau ffyrdd a gofnodwyd gan yr heddlu ar gyfer mis Ionawr i fis Mawrth eleni, ac a gyhoeddwyd ym mis Awst, yn dangos bod nifer yr anafiadau ffyrdd 6 y cant yn uwch na'r un chwarter yn 2024. A ydych chi'n rhannu fy mhryder eu bod wedi anwybyddu fy rhybuddion?
Wrth ymateb, diolchodd Gareth Davies AS i Mr Isherwood am dynnu sylw at y data, gan ddweud: “Rwy'n siŵr y bydd pobl Cymru eisiau gwybod yr ystadegau hynny cyn yr etholiad y flwyddyn nesaf. Os ydym o ddifrif am achub bywydau, mae angen i ni fuddsoddi'r arian hwnnw yn y gwasanaeth iechyd a buddsoddi yn ein staff rheng flaen—mwy o feddygon a nyrsys ac nid mwy o wleidyddion.”