
Cyhoeddodd y Coleg Nyrsio Brenhinol (RCN) adroddiad ym mis Ionawr, 'Rhoi diwedd ar ofal mewn coridorau yng Nghymru', a oedd yn cynnig wyth argymhelliad i Lywodraeth Cymru, a ddisgrifiwyd fel "synnwyr cyffredin" gan y Ceidwadwyr Cymreig.
Cyflwynodd y Ceidwadwyr Cymreig yr argymhellion hyn gerbron y Senedd ddydd Mercher (19/02/25) am bleidlais. Ni phasiodd y bleidlais wrth i Aelodau Llafur bleidleisio yn erbyn y cynnig.
Fodd bynnag, nodwyd gan y Ceidwadwyr Cymreig nad oedd mwyafrif llethol y 30 Aelod o'r Senedd Lafur hyd yn oed yn bresennol yn y ddadl, a chododd hyn gryn stŵr ar y cyfryngau cymdeithasol.
Wrth wneud sylw, dywedodd Mark Isherwood, AS Rhanbarthol dros Ogledd Cymru i’r Ceidwadwyr Cymreig:
“Dylai trwsio GIG Cymru a dod â'r argyfwng gofal coridor i ben fod yn brif flaenoriaeth i Aelodau o’r Senedd, ond mae'n amlwg bod Llafur yn anghytuno.
“Roedd wyth argymhelliad yr RCN a gyflwynwyd gan y Ceidwadwyr Cymreig yn synnwyr cyffredin a doedden nhw ddim yn ddadleuol. Eto i gyd, pleidleisiodd Aelodau o’r Senedd y Blaid Lafur yn eu herbyn, gyda'r rhan fwyaf ohonyn nhw ddim hyd yn oed yn trafferthu dod i’r ddadl.
"Ydy Llafur hyd yn oed yn malio am y GIG yng Nghymru?”