
Dywedodd AS Gogledd Cymru, Mark Isherwood, “Ni ddylai unrhyw unigolyn, corff, Llywodraeth na phlaid sy’n bwriadu dweud y gwir, felly, wrthwynebu tyngu llw neu roi cadarnhad wrth roi tystiolaeth i Bwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad COVID-19 Cymru.“
Ychydig ddyddiau ar ôl pumed pen-blwydd dyfodiad y cyfyngiadau symud yn ystod pandemig Covid-19, cyflwynodd y Ceidwadwyr Cymreig gynnig yng nghyfarfod y Senedd ddoe yn galw am ddiwygio Rheolau Sefydlog y Senedd er mwyn rhoi pŵer disgresiwn i Bwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad COVID-19 Cymru fynnu bod tystion yn tyngu llw neu’n rhoi cadarnhad wrth roi tystiolaeth.
Wrth siarad yn y Ddadl, dywedodd Mr Isherwood:
“Fel y dywedodd COVID-19 Bereaved Families for Justice Cymru wrthyf, mae pwyllgor y Senedd yn ymateb uniongyrchol i ymchwiliad y DU, a’i ddiben yw nodi bylchau yn ystyriaeth ymchwiliad y DU o faterion Cymreig. O dan yr amgylchiadau hyn, meddent—ac o ystyried bod yr holl dystiolaeth yn ymchwiliad y DU dan lw—er mwyn i’r pwyllgor fod yn gredadwy ac am resymau'n ymwneud â chydraddoldeb, rhaid ei fod yn dilyn y dylid rhoi pŵer yn ôl disgresiwn i’r pwyllgor ei gwneud yn ofynnol i dystion dyngu llw.
“Fel y dywedasant hefyd:
“Y cwestiwn mwy yw pam nad yw Llywodraeth Cymru eisiau hyn. Fe wnaethant wrthod ymchwiliad i Gymru, nid ydynt wedi gwthio am fwy o gynrychiolaeth i Gymru yn ymchwiliad y DU, ac a dweud y gwir, maent wedi elwa o'r craffu lleiaf posibl. Er enghraifft, meddent, ym modiwl 4—brechlynnau—ni ofynnwyd yr un cwestiwn gan yr ymchwiliad i un tyst yn Llywodraeth Cymru, er bod pentyrrau o ddatgeliadau ynghylch sut yr aeth Llywodraeth Cymru ati i ohirio brechlynnau mewn cartrefi gofal am bedair wythnos. Gyda phwyllgor ymchwiliad wedi'i osod yn llawn yn y maes gwleidyddol, meddent, yn hytrach nag ymchwiliad cyhoeddus annibynnol yng Nghymru, nid yw Llywodraeth Cymru am i dystion roi tystiolaeth lafar dan lw. Ni allwn danamcangyfrif effaith niweidiol bosibl y methiant i roi’r pŵer i’r pwyllgor ei gwneud yn ofynnol i dystion dyngu llw neu roi cadarnhad, meddent, gan ychwanegu, 'ac mae hyn yn bwysig’.
“Ni waeth beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei gredu, crib hollbwysig y rhewfryn yw mater llw.
“Er i Lywodraeth y DU gyhoeddi ymchwiliad cyhoeddus annibynnol i’r modd y cafodd pandemig COVID-19 ei drin yn y DU ym mis Mai 2021, ac er i Brif Weinidog yr Alban gyhoeddi dri mis yn ddiweddarach eu bod yn creu ymchwiliad penodol i'r Alban ar effaith penderfyniadau Llywodraeth yr Alban ar sut y cafodd y pandemig ei drin, fe wnaeth Llywodraeth Cymru wrthod ein ceisiadau dro ar ôl tro am ymchwiliad cyhoeddus annibynnol i’r modd y cafodd y pandemig ei drin yng Nghymru.
Ychwanegodd:
“Cyn gwrandawiad modiwl 1 cyntaf ymchwiliad COVID-19 y DU, cadarnhaodd tîm cyfreithiol yr ymchwiliad COVID-19 fod Llywodraeth Cymru wedi methu datgelu’r holl ddogfennau perthnasol i’r ymchwiliad yn nrafft cyntaf eu datganiad tyst a bod yn rhaid i’r ymchwiliad fynd yn ôl at Lywodraeth Cymru am yr eildro i ofyn am ddatgeliad llawn. Mae’r rhain, ac enghreifftiau di-rif eraill, yn atgyfnerthu’r angen i Lywodraeth Cymru ddangos nad oes arnynt ofn atebolrwydd i Bwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad COVID-19 Cymru, ac felly, i bobl Cymru. Ac os byddant yn parhau i rwystro cais y pwyllgor am bŵer yn ôl disgresiwn i'w gwneud yn ofynnol i dystion dyngu llw neu roi cadarnhad, bydd y bobl yn gofyn, 'A oes arnynt ofn?'
Trechodd Llafur y cynnig o 1 bleidlais.