
Wrth siarad yn nigwyddiad briffio Cronfa’r Teulu yn y Senedd heddiw, pwysleisiodd AS Gogledd Cymru, Mark Isherwood, noddwr y digwyddiad, bod angen sicrhau nad yw teuluoedd anabl yn cael eu hanghofio mwyach.
Cymeradwyodd Cronfa’r Teulu ac elusennau eraill am ddarparu "achubiaeth hanfodol" i deuluoedd sy'n magu plant anabl neu ddifrifol wael, ond pwysleisiodd mai dim ond canran fach o'r rhai mewn angen y mae’r gefnogaeth yn eu cyrraedd ar hyn o bryd.
Wrth siarad yn y digwyddiad, a lansiodd adroddiad 'The Cost of Caring 2025' yr elusen, dywedodd Mr Isherwood, sy'n Gadeirydd Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar Anabledd:
"Mae teuluoedd anabl yn dal i wynebu rhwystrau bob dydd, boed hynny'n gorfforol neu o safbwynt agwedd, cyfathrebu, cymdeithasol neu bolisi. Mae elusennau fel Cronfa’r Teulu yn darparu achubiaeth hanfodol i'r teuluoedd hyn.
"Mae'r gwasanaeth maen nhw'n ei ddarparu yn helpu gydag ymyrraeth gynnar ac atal, gan dynnu rhywfaint o'r pwysau oddi ar y teuluoedd hynny ac arbed miliynau i Wasanaethau Cyhoeddus yng Nghymru bob blwyddyn.
"Fodd bynnag, er gwaethaf eu hymroddiad, ar hyn o bryd dim ond cyfran fach o'r rhai mewn angen y mae eu cefnogaeth yn eu cyrraedd.
"Mae'r galw am grantiau yn cynyddu wrth i fwy o deuluoedd wynebu incwm annigonol, diffyg diogeledd bwyd, ac opsiynau cyflogaeth cyfyngedig oherwydd cyfrifoldebau gofalu.
"Yn ogystal â chostau byw sylfaenol, mae teuluoedd â phlant anabl hefyd yn wynebu costau arbenigol sylweddol - ar gyfer eitemau fel adnoddau wedi'u haddasu, therapïau, ac offer synhwyraidd.
"Mae saith deg chwech y cant yn adrodd eu bod wedi gorfod talu am y rhain o’u harian eu hunain heb unrhyw gefnogaeth ariannol."
Ychwanegodd:
"Mae adroddiad Cost of Caring 2025 heddiw yn rhoi mewnwelediad hanfodol i Lywodraeth Cymru wrth lunio polisïau tlodi plant ac yn archwilio pam mae teuluoedd sy'n magu plant anabl neu ddifrifol wael yn cael eu heffeithio'n anghymesur gan galedi ariannol, gan archwilio ffactorau allweddol megis; annigonolrwydd incwm; rôl gwaith â thâl fel llwybr posibl allan o dlodi; y rhwystrau unigryw y mae rhieni/gofalwyr yn eu hwynebu wrth gael mynediad at gyflogaeth; a sut mae anfanteision lluosog yn gwaethygu'r heriau hyn.
"Roedd canfyddiadau'r Adroddiad yn cynnwys bod bron i hanner y teuluoedd yn profi incwm annigonol ac nad yw bron i 90% o rieni-ofalwyr yn gallu gweithio cymaint o oriau ag yr hoffent oherwydd cyfrifoldebau gofalu, gyda dwy ran o dair yn dweud bod eu sefyllfa ariannol wedi effeithio ar les emosiynol eu plentyn.
"Does neb yn dewis Anabledd, ni ddylai unrhyw riant orfod aberthu ei iechyd ei hun i gadw ei blentyn yn ddiogel ac yn gynnes, ac ni ddylai unrhyw blentyn fynd heb degan, pryd o fwyd, annibyniaeth - dim ond oherwydd bod ganddo gyflyrau iechyd neu amhariad.
"Mae angen i ni sicrhau nad yw teuluoedd anabl yn cael eu hanghofio mwyach. Mae'n rhaid i ni sicrhau eu bod yn cael eu clywed, eu gweld, eu cefnogi a'u gwerthfawrogi. Nid yn unig gyda geiriau, ond gyda gweithredu go iawn."
Wrth siarad wedyn, dywedodd Mr Isherwood:
"Fel y dywedodd mynychwyr sy'n cynrychioli Elusennau sy'n darparu gwasanaethau allweddol, 'Mae'n bryd siarad am yr argyfwng go iawn rydyn ni ynddo fo i blant ac oedolion anabl yng Nghymru'".
Gall teuluoedd yng Nghymru wneud cais am grant Cronfa’r Teulu bob 24 mis ac maen nhw’n gymwys:
- os mai nhw yw'r prif ofalwr ar gyfer plentyn anabl neu ddifrifol wael, 17 oed neu iau
- a’u bod ar incwm isel o ran gwaith neu fudd-daliadau.