Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • Cefndir Mark Isherwood
  • Newyddion
  • Cysylltu
  • ENG
  • Senedd Cymru
Site logo

Y Ceidwadwyr Cymreig yn gwrthwynebu datganoli Ystad y Goron

  • Tweet
Dydd Mercher, 1 Hydref, 2025
  • Local News

Gyda Llywodraeth Cymru yn parhau i eirioli dros ddatganoli Ystad y Goron, mae AS Gogledd Cymru, Mark Isherwood, wedi eu herio ynghylch y datganiad gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn Llywodraeth y DU "na fyddai'n arwain yn awtomatig at fwy o arian i Lywodraeth Cymru".

Yng nghyfarfod y Senedd ddoe, rhoddodd y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig ddatganiad ar 'Ddyfodol Ystad y Goron yng Nghymru'.

Dechreuodd trwy ddatgan:

“Heddiw hoffwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau ar ein dull arfaethedig ar gyfer gweddill y tymor seneddol hwn o ran hyrwyddo achos dros ddatganoli Ystad y Goron i Gymru.

“Rydyn ni'n glir y dylai Ystad y Goron fod yn gyfrifoldeb i'r Llywodraeth ddatganoledig yng Nghymru.”

Wrth ymateb i'r Datganiad, dywedodd Mr Isherwood:

“Ym mis Mehefin, dywedodd Aelod Seneddol Llafur Dwyrain Caerdydd, Jo Stevens, sy'n digwydd bod yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru, wrth Senedd y Deyrnas Unedig, ac rwy'n dyfynnu, 'Hyd yn oed'—y gellid datganoli Ystad y Goron—'heb beryglu'r refeniw, ni fyddai hynny'n arwain at fwy o arian i Lywodraeth Cymru yn awtomatig, oherwydd fe wneid iawn mae'n debyg am unrhyw refeniw a gedwid drwy leihau'r grant blog, fel a wneir yn yr Alban. Oedd hi'n iawn?”

Ymatebodd Ysgrifennydd y Cabinet: “Dyma'n union pam rydym ni wedi sefydlu'r grŵp, i wyntyllu'r ystyriaethau ariannol, llywodraethu a phob ystyriaeth ymarferol arall.”

Meddai Mr Isherwood:

"Rydyn ni’n gwrthwynebu'r datganoli pŵer pellach hwn i Lywodraeth Cymru. Mae'n ddiangen ac yn anniogel!"

You may also be interested in

Mark Isherwood AS: Cefnogi Lleisiau Mwy Amrywiol ym Mywyd Cyhoeddus Cymru

Dydd Gwener, 21 Tachwedd, 2025
Yn siarad yn y digwyddiad 'Pŵer Cyfartal Llais Cyfartal' yn y Senedd yr wythnos diwethaf, pwysleisiodd yr Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, Mark Isherwood, bwysigrwydd cynrychiolaeth, cyfranogiad y cyhoedd, a mentora i gefnogi lleisiau mwy amrywiol ym mywyd cyhoeddus Cymru.Mae 'Pŵer Cyfartal Llais

Show only

  • Local News
  • Newsletters
  • Senedd News
  • Speeches

Mark Isherwood AS

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • Cefndir Mark Isherwood
Welsh ParliamentHyrwyddir gan Mark Isherwood.

Nid yw Senedd Cymru, neu Mark Isherwood yn gyfrifol am gynnwys cysylltiadau allanol neu wefannau. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus.

Hawlfraint 2025 Mark Isherwood AS . Cedwir pob hawl.
Powered by Bluetree