
Ymunodd Mark Isherwood, AS Rhanbarthol dros Ogledd Cymru, â staff a gwirfoddolwyr Marie Curie mewn digwyddiad yn y Senedd yr wythnos hon i alw ar bobl y gogledd i gefnogi apêl godi arian flynyddol fwyaf Marie Curie er mwyn sicrhau bod pawb yn cael y gofal diwedd oes gorau posibl.
Mae'r elusen angen gwirfoddolwyr yn y gogledd i roi dim ond dwy awr o'u hamser i ddosbarthu'r pinnau cennin Pedr eiconig yn gyfnewid am rodd ariannol.
Bob pum munud, mae rhywun yn marw heb y gofal sydd ei angen arno. Mae Apêl Fawr y Cennin Pedr yn annog pawb i wisgo eu pinnau cennin Pedr a chyfrannu at yr elusen ddiwedd oes gydol fis Mawrth er mwyn helpu Marie Curie i ddod â gofal diwedd oes arbenigol i fwy o bobl.
Mae Marie Curie yn ddibynnol ar roddion cyhoeddus a'r llynedd fe wnaeth cefnogwyr helpu'r elusen i ddarparu gofal uniongyrchol i bron i 40,000 o bobl ledled y DU drwy ei naw hosbis a thrwy ofal nyrsio ar yr aelwyd.
Mae'r arian a godir hefyd yn ariannu llinell gymorth a gwe-sgwrs am ddim yr elusen sydd ar gael i unrhyw un sydd â salwch maen nhw'n debygol o farw ohono, a'u hanwyliaid. Maen nhw’n cynnig cymorth ymarferol ac emosiynol ar bopeth o reoli symptomau, llywio gofal i wybodaeth ariannol, gan gynnwys sut i gael help gyda biliau ynni, a chymorth profedigaeth.
Dywedodd Mr Isherwood:
“Rydyn ni angen gwaith Marie Curie nawr yn fwy nag erioed. Dyna pam rwy'n annog pobl ledled y gogledd i ddangos eu cefnogaeth i Apêl Fawr y Cennin Pedr mewn unrhyw ffordd y gallant. Mae pob rhodd yn golygu bod Marie Curie yn gallu bod yno i bobl a'u teuluoedd a'u gofalwyr pan fydd ei angen fwyaf arnynt.”
Dywedodd Nathan Sherratt, Gweithiwr Codi Arian Cymunedol ar gyfer Gogledd Cymru a Gogledd Powys:
“Rydyn ni'n credu bod pawb yn haeddu'r gofal diwedd oes gorau posib. Mae Apêl Fawr y Cennin Pedr, sydd bellach yn ei 39ain flwyddyn, yn ffordd hawdd a hwyliog o ymuno a rhoi yn ôl i'n cymuned leol yma yn y gogledd wrth ein helpu i barhau i ddod â gofal hosbis hanfodol i fwy o bobl.
“Mae gwirfoddoli yn rhoi cymaint o foddhad, a bydd ein tîm cyfeillgar wrth law i'ch cynorthwyo bob cam o'r ffordd. Byddan nhw'n sicrhau bod popeth sydd ei angen arnoch ar gael – gan gynnwys yr het felen fawr – a'ch bod yn cael y profiad gwirfoddoli gorau posib!
“Felly beth am fod yn rhan o rywbeth anhygoel a gwirfoddoli i gasglu arian ar gyfer Apêl Fawr y Cennin Pedr ym mis Mawrth? Drwy roi o'ch amser byddwch yn helpu Marie Curie i barhau i ddarparu gofal a chymorth diwedd oes arbenigol i bobl ag unrhyw salwch angheuol."
I wybod mwy am sut y gallwch chi helpu i roi'r gofal arbenigol sydd ei angen ar bobl ym mis Mawrth, ewch i: Mariecurie.org.uk/daffodil neu cysylltwch â'ch Swyddog Codi Arian Cymunedol, Nathan Sherratt ar 01745 352910 neu [email protected]
I gefnogi Apêl Fawr y Cennin Pedr yn 2025 gallwch hefyd brynu pin cennin Pedr eiconig yn siopau Morrisons, Superdrug, Savers a SPAR ym mis Mawrth. Am ragor o wybodaeth neu i gyfrannu ewch i Mariecurie.org.uk/daffodil