
Wrth i'r Loteri Genedlaethol (y Loteri) nodi ei phen-blwydd yn 30 oed eleni, mae’r Aelod Rhanbarthol o’r Senedd dros Ogledd Cymru, Mark Isherwood, yn annog etholwyr i gymryd rhan yn Wythnos Agored y Loteri 2025, dathliad blynyddol o arian y Loteri.
Rhwng dydd Sadwrn 15 a dydd Sul 23 Mawrth 2025, gall chwaraewyr y Loteri fanteisio ar gynigion arbennig mewn cannoedd o leoliadau wedi’u hariannu trwy gyflwyno unrhyw docyn ar-lein neu docyn papur dilys ar gyfer y Loteri, Scratchcard neu Instant Win.
Mae'r cynigion yn cynnwys mynediad rhad ac am ddim i amgueddfeydd a safleoedd treftadaeth, teithiau y tu ôl i'r llenni o leoliadau chwaraeon, lluniaeth am ddim, a mynediad arbennig i berfformiadau diwylliannol.
Y llynedd, fe wnaeth 56,000 o bobl fanteisio ar gynigion arbennig mewn bron i 500 o leoliadau wedi’u hariannu ledled y DU, o dai hanesyddol a gwarchodfeydd natur i orielau celf a theatrau. Roedd y sefydliadau a gymerodd ran yn cynnwys yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, The Imperial War Museum a'r Eden Project.
Eleni, bydd dros 400 o leoliadau yn agor eu drysau i'r cyhoedd, ac mae rhywbeth at ddant pawb, boed yn:
- ymchwilio i'r gorffennol mewn tai hanesyddol, cestyll ac amgueddfeydd
- cofleidio natur yn ei holl ogoniant mewn safleoedd bywyd gwyllt
- ail-fyw eiliadau eiconig mewn lleoliadau chwaraeon enwog neu,
- mwynhau dôs o ddiwylliant mewn amryw o orielau celf, theatrau a mannau creadigol eraill
Ers lansio'r National Lottery ym 1994, mae swm anhygoel o £50 biliwn wedi'i godi at achosion da, gyda 700,000 o grantiau unigol wedi’u dyfarnu ym meysydd y celfyddydau, chwaraeon, cymunedau a threftadaeth.
Mae llu o sefydliadau’r gogledd wedi derbyn arian hanfodol gan y National Lottery, gyda llawer o grantiau yn cefnogi elusennau llawr gwlad a grwpiau cymunedol sydd ag incwm blynyddol o dan £500,000. Mae'r cyllid hwn wedi helpu i fynd i'r afael â heriau dybryd gan gynnwys y pwysau costau byw, cefnogi cynaliadwyedd amgylcheddol, meithrin talent greadigol, cefnogi'r henoed, a chreu cyfleoedd i bobl ifanc.
Gyda chyllid y Loteri yn trawsnewid bywydau o Sir Fôn i Sir y Fflint, mae Mr Isherwood yn cefnogi Wythnos Agored 2025 ac yn annog ei etholwyr i archwilio'r llond gwlad o gynigion sydd ar gael rhwng dydd Sadwrn 15 a dydd Sul 23 Mawrth 2025.
Dywedodd:
"Mae'r Loteri wedi cael effaith drawsnewidiol ar ardaloedd y gogledd. O hybu canolfannau cymuned i ddiogelu ein treftadaeth werthfawr a phweru timau chwaraeon lleol, mae'r cyllid hanfodol hwn wedi helpu i greu cymunedau mwy cryf a chadarn.
"Mae’r cyllid hwn yn cyrraedd calon ein cymuned, gan gefnogi elusennau lleol a sefydliadau llawr gwlad yn y gogledd. Er mai enillwyr jacpot y Loteri sy'n hawlio'r penawdau, y sefydliadau sydd ar eu hennill go iawn, gyda grantiau bach yn gallu gwneud byd o wahaniaeth, am eu bod yn deall yn union beth sydd ei angen ar ein cymuned.
"Gyda £30 miliwn yn cael ei godi bob wythnos ar gyfer achosion da ledled y DU, mae’n iawn i ni ddiolch i chwaraewyr y Loteri am eu cefnogaeth barhaus. Rwy’n annog pawb i archwilio'r cynigion sydd ar gael yn ystod Wythnos Agored y Loteri, a dathlu cyfraniadau amhrisiadwy gwirfoddolwyr sy'n chwarae rhan hanfodol wrth gyflawni'r prosiectau hyn.”
I weld yr holl leoliadau a’r cynigion sydd ar gael gydol Wythnos Agored y Loteri, ewch i www.nationallotteryopenweek.com.
Bydd amodau a thelerau a chyfarwyddiadau archebu ar draws cynigion arbennig yn amrywio. Gwiriwch y cynigion unigol ar y rhestr am fanylion.