Heddiw, mae AS Gogledd Cymru, Mark Isherwood, wedi tynnu sylw at dystiolaeth sy'n dangos bod cŵn anwes domestig yr un mor debygol o gael eu hanafu ar ffyrdd y DU ac mewn ymosodiadau cŵn ar gŵn â chŵn milgwn ar y trac rasio.
Wrth ymateb i Ddatganiad heddiw gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: 'Bil Gwahardd Rasio Milgwn (Cymru)', nododd Mr Isherwood hefyd fod 98.93 y cant o’r cŵn a fu’n rasio mewn stadiwms a reoleiddir gan Fwrdd Milgwn Prydain Fawr heb eu hanafu yn 2023.
Dywedodd:
"Mae e-bost yr Ymgyrch 'Cut The Chase' sy'n cefnogi diwedd ar rasio milgwn yng Nghymru yn nodi bod ffigyrau'r diwydiant ei hun yn tystio'r risgiau, gyda 359 o gŵn sy'n ymwneud â rasio mewn stadia a reoleiddir gan Fwrdd Milgwn Prydain Fawr, GBGB, yn marw yn 2023, a mwy na 4,000 wedi'u hanafu dros yr un cyfnod. Fodd bynnag, mae'r un ffigurau'n dangos nad oedd 99.97 y cant wedi marw ac nad oedd 98.93 y cant wedi'u hanafu, bod y gyfradd anafiadau trac wedi gostwng i 1.07 y cant yn 2024, yr isaf erioed, a bod y gyfradd marwolaethau wedi haneru i 0.03 y cant rhwng 2020 a 2024.
"Felly, os ydych chi'n credu mewn polisi dan arweiniad tystiolaeth yn hytrach na thystiolaeth a arweinir gan bolisi, pa ystyriaeth ydych chi felly wedi'i roi i'r ffeithiau hyn, neu i'r realiti ystadegol, er enghraifft, bod cŵn anifeiliaid anwes domestig yr un mor debygol o gael eu hanafu ar ffyrdd y DU ac mewn ymosodiadau cŵn ar gŵn, ac, er enghraifft, bod y gyfradd marwolaethau cŵn anwes domestig o ymosodiadau cŵn ar gŵn, ar 0.47 y cant, a yw'n llawer uwch na'r gyfradd marwolaethau o 0.03 y cant ar y traciau? Yn ôl pob tebyg, nid ydych chi'n bwriadu gwahardd cŵn anwes domestig!"
Holodd Mr Isherwood Ysgrifennydd y Cabinet hefyd am yr hawliad am adolygiad barnwrol a gyhoeddwyd gan GBGB yng Nghymru ym mis Mai, gan ddweud "Rwy'n gwerthfawrogi na allwch rannu cyngor neu safbwynt cyfreithiol Llywodraeth Cymru ar hyn, ond a allwch chi roi gwybod a yw'r hawliad hwnnw wedi'i dderbyn, ac a yw'r weithred yn mynd rhagddo?"
Wrth ymateb, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet ei fod yn "fater i'r Llysoedd ei benderfynu, ac rydym yn aros am eu penderfyniad ynghylch a fydd yn mynd rhagddo neu beidio".
Ymhellach, wrth gyflwyno'r achos dros waharddiad, dywedodd nad yw'r ystadegau’n dweud celwydd.
Wrth siarad y tu allan i'r Siambr, dywedodd Mr Isherwood:
"Unwaith eto, gwybodaeth ddethol yn hytrach na ffeithiau sy'n seiliedig ar dystiolaeth sy’n llywio penderfyniadau Llywodraeth Cymru. I roi hyn mewn cyd-destun, amcangyfrifir bod 80,000 o gŵn yn cael eu taro gan gar ar ffyrdd y DU bob blwyddyn, amcangyfrifir bod 64,000 o gŵn yn cael eu lladd a 44,000 o rai eraill yn cael eu hanafu'n ddifrifol gan ymosodiadau cŵn ar gŵn yn y DU bob blwyddyn, a chofnododd yr Heddlu fod ymosodiadau cŵn ar bobl yng Nghymru a Lloegr wedi cynyddu i 32,568 y llynedd, felly ydyn ni'n mynd i wahardd cŵn anwes domestig hefyd?!"