Wrth siarad yn Nadl y Senedd heddiw ar 'Cymru a Llywodraeth nesaf y DU', dywedodd yr AS dros Ogledd Cymru, Mark Isherwood, fod perfformiad Llywodraeth Cymru hyd yma yn dangos pam na ddylid rhoi rhagor o bwerau i Gymru ar hyn o bryd.
Siaradodd hefyd yn erbyn galwad Plaid Cymru am ddileu swydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, gan ddweud mai "Swyddfa Cymru yw eiriolwr gorau Cymru yn San Steffan".
Hefyd, croesawodd Mr Isherwood ymrwymiad Llywodraeth y DU i drydaneiddio rheilffordd y Gogledd a'r ffaith mai Cymru yw unig wlad y Fargen Twf yn y DU.
Wrth wrthwynebu galwadau Plaid Cymru am fwy o bwerau i Gymru, dywedodd:
"Ar ôl chwarter canrif o Lafur Cymru yn methu defnyddio'r pwerau sydd ganddynt eisoes yn effeithiol, mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn sefyll yn gadarn yn erbyn rhagor o ddatganoli cynyddol nawr.
"Nid yw datganoli cyfrifoldeb yn fecanwaith sy’n siŵr o wella pethau, ddim o bell ffordd.
“Edrychwch ar y GIG yng Nghymru, gyda mwy nag un mil ar hugain o bobl yn aros dros ddwy flynedd am driniaeth, o gymharu ag oddeutu 200 yn Lloegr, gyda phoblogaeth ugain gwaith yn fwy o faint; a’n sector addysg, sydd wedi dod yn adnabyddus am dangyflawni’n gyson ac yn ddifrifol o gymharu â gweddill y DU, er gwaethaf ymroddiad y staff.
"Nid yw Plaid Lafur y DU eu hunain wedi ymrwymo i ddatganoli'r Heddlu a Chyfiawnder Oedolion, gydag Ysgrifennydd yr Wrthblaid dros Gymru, Jo Stevens AS, yn datgan bod y problemau presennol gyda throseddu yn rhy bwysig i ddechrau ffidlan gyda chyfrifoldebau’r heddlu, llysoedd a charchardai yng Nghymru, gyda Maniffesto Llafur y DU ond yn datgan y 'byddwn yn gweithio gyda Llywodraeth Lafur Cymru i ystyried datganoli cyfiawnder ieuenctid'.
"Yn y cyd-destun hwn, dylid nodi, pan adawodd Llywodraeth Lafur ddiwethaf y DU, fod troseddu’n rhemp, ond fod cyfraddau troseddu wedi mwy na haneru o dan reolaeth Lywodraethau Ceidwadol y DU ers 2010.
"Fel y nodais dro ar ôl tro wrth y Cwnsler Cyffredinol, mae nifer o ffactorau sy'n cael eu hanwybyddu'n rhy aml mewn trafodaethau ar ddatganoli cyfiawnder, yn enwedig mater real iawn troseddau trawsffiniol."
Ychwanegodd:
"Fel y dywedodd fy nghyd-Aelod, Janet Finch Saunders AS, flwyddyn yn ôl wrth y rheini sy’n dal i fynnu cipio mwy o rym, peidiwch â gwastraffu amser y Senedd yn parablu am fwy o ddatganoli pan allem fod yn gwneud y defnydd gorau yn lle hynny o'r pwerau sydd gennym eisoes a sicrhau bod Cymru’n llwyddiant.
"O ran swydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, mae'n ddiflas fod yr un testun siarad cenedlaetholgar wedi codi ei ben unwaith eto, wedi'i ysgogi gan ddyhead ac awydd Plaid Cymru i hollti ac ansefydlogi. Swyddfa Cymru yw eiriolwr gorau Cymru yn San Steffan.
"Ni all Plaid Cymru ddadlau nad yw Llywodraeth y DU yn gwrando digon ar Gymru gydag un anadl, a dadlau wedyn dros dawelu ei llais yng Nghabinet y DU gyda’r anadl nesaf.
"Nid oes ond angen inni edrych ar drafnidiaeth, gyda mwy na £2.3 biliwn o fuddsoddiad gan y DU yn rheilffyrdd Cymru ers 2019, y mwy na £2.5 biliwn o gyllid Ffyniant Bro sydd wedi’i wasgaru ledled Cymru, a’r parodrwydd i weithio gyda chymunedau lleol i helpu i'w grymuso i wrthwynebu agendâu digroeso fel y mandadau 20 mya gan Lywodraeth Cymru, i weld manteision diweddaraf cael eiriolwr cryf o blaid Gymru yn eistedd wrth fwrdd y Cabinet yn San Steffan.
"Fe fyddwn ni felly yn pleidleisio yn erbyn cynnig Plaid Cymru yn ogystal â gwelliant Llywodraeth Cymru".
Wrth siarad wedyn, ychwanegodd Mr Isherwood: "Er bod Llywodraethau Ceidwadol y DU wedi darparu pwerau deddfu, pwerau codi trethi a model cadw pwerau, gan droi'r lle hwn yn Senedd gadarn, rydyn ni’n cydnabod nad oes angen datganoli pwerau yn awr nac yn y dyfodol agos ac y byddai hynny’n anniogel".