Heddiw, mae’r Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru a Chadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Anabledd, Mark Isherwood, wedi noddi ac agor digwyddiad pen-blwydd Family Fund yn 50 oed.
Family Fund yw elusen darparu grantiau mwyaf y DU ar gyfer teuluoedd incwm isel sy’n magu plentyn anabl neu ddifrifol wael.
Wrth agor eu digwyddiad dathlu yn y Senedd yn gynharach heddiw, siaradodd Mr Isherwood am y gwaith gwych maen nhw’n ei wneud yng Nghymru.
Meddai:
“Mae Family Fund yn credu y dylai teuluoedd sy’n magu plant a phobl ifanc anabl neu ddifrifol wael gael yr un dewisiadau, ansawdd bywyd, cyfleoedd a dyheadau â theuluoedd eraill.
“Am hanner can mlynedd, prif swyddogaeth Family Fund yw helpu i unioni’r sefyllfa drwy ddosbarthu arian cyhoeddus ledled y DU ar ffurf grantiau i deuluoedd sydd â phlant sâl ac anabl.
“Gall teuluoedd yng Nghymru wneud cais am grant gan Family Fund bob 24 mis ac maen nhw’n gymwys os ydyn nhw’n brif ofalwr plentyn anabl neu ddifrifol wael sy’n 17 oed neu’n iau, ar incwm isel o weithio neu fudd-daliadau.
“Fel rhan o Ben-blwydd Family Fund yn 50 oed, gwahoddodd yr elusen deuluoedd i rannu lluniau o atgofion teuluol, boed ar wyliau fel teulu, dyddiau allan neu’n defnyddio cyfarpar chwarae. Roedd y prosiect lluniau’n gyfle i deuluoedd siarad am bethau oedd yn bwysig iawn iddyn nhw – i rannu’r straeon y tu ôl i’r lluniau.
“Roedd y teuluoedd yn siarad am greu atgofion a beth oedd y lluniau’n ei ddangos am gael amser gyda’i gilydd fel teulu.
“Rhoddodd y teuluoedd ddealltwriaeth ehangach i ni o’r pethau sy’n eu helpu neu’n eu rhwystro fwyaf. Mae rhai o’r lluniau a’r sylwadau wedi’u rhannu yn nigwyddiad heddiw.”
Yn y digwyddiad, cyflwynodd yr elusen ei hymchwil ddiweddar hefyd - ‘Window to Our World’ - am brofiad teuluoedd o chwarae/hamdden a gwyliau byr, eu manteision a’r rhwystrau/problemau sy’n gysylltiedig â nhw.
Ychwanegodd Mr Isherwood:
“Mae teuluoedd anabl yn dal i wynebu rhwystrau bob dydd, boed yn rhwystrau corfforol, agweddau, cyfathrebu, cymdeithasol neu bolisi.
“Mae elusennau fel Family Fund yn darparu cyfle hanfodol i’r teuluoedd hyn. Mae’r gwasanaeth maent yn ei ddarparu’n helpu gydag ymyriadau cynnar ac atal, gan gymryd rhywfaint o’r pwysau oddi ar y teuluoedd hynny ac arbed miliynau o bunnoedd bob blwyddyn i wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.”