Cafodd Mark Isherwood ei ethol gyntaf yn Aelod Cynulliad dros Ogledd Cymru yn 2003, cyn cael ei ailethol yn 2007, 2011 a 2016.
Roedd hefyd yn Gadeirydd Grwpiau Trawsbleidiol Senedd Cymru ar Awtistiaeth, Cyflyrau Niwrolegol, Hosbisau a Gofal Lliniarol, Angladdau a Phrofedigaeth a Thlodi Tanwydd. Roedd yn Gyd-gadeirydd Grŵp Trawsbleidiol y Cynulliad ar Anabledd.
Mae Mark yn byw yn Sir y Fflint gyda'i wraig Hilary. Mae ganddyn nhw chwech o blant a phedwar o wyrion.
Mae’n gyn-Gynghorydd Cymuned Treuddyn, Llywodraethwr Ysgol (a Chadeirydd) Ysgol Parc y Llan) ac Aelod gwirfoddol o Fwrdd Cymdeithas Tai Venture.
Mae’n gyn-Reolwr Ardal Cymdeithas Adeiladu yng Ngogledd Cymru.
Roedd hefyd yn:
- Is-lywydd - Canolfan Adnoddau Anabledd Gogledd Cymru
- Noddwr – Fforwm Anabledd Sir y Fflint
- Llysgennad i Girl Guides Clwyd
- Is-lywydd – North Wales Play
- Aelod o Cyngor ar Bopeth Cylch Conwy / Cyngor ar Bopeth Conwy
- Aelod - Llys Prifysgol Glyndŵr
- Ymddiriedolwr – FNF Both Parents Matter Cymru
- Noddwr – Cymdeithas Gweithwyr Cymdeithasol Prydain
- Aelod – Clwb Busnes Gogledd Cymru
- Aelod – Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru
- Aelod – Clwb yr Is-lywydd, Clybiau Bechgyn a Merched Cymru
- Noddwr – Fforwm Polisi Cymru
- Sylfaenydd CHANT Cymru (Ysbytai Cymunedol yn gweithredu'n genedlaethol gyda'i gilydd).