Senedd Cymru

Mae'r Senedd yn cynnwys 60 Aelod o’r Senedd; gyda 40 yn cynrychioli pob un o etholaethau Cymru ac 20 yn cynrychioli un o bum rhanbarth Cymru. Mae Aelodau o’r Senedd Etholaethol yn cael eu hethol trwy bleidlais cyntaf i'r felin, tra bod Aelodau Rhanbarthol yn cael eu hethol gan fath o gynrychiolaeth gyfrannol a elwir yn 'System Aelodau Ychwanegol'. Mae Mark yn Aelod o’r Senedd rhanbarthol ac yn cynrychioli rhanbarth Gogledd Cymru.

Mae rhagor o wybodaeth am rôl y Senedd ar gael ar wefan y ddeddfwrfa https://senedd.cymru

Rôl Aelod o’r Senedd

Mae Aelod yn cynrychioli ei holl etholwyr yn y Senedd ym Mae Caerdydd. Mae’n delio â phob mater sy'n ymwneud â'i etholaeth. Gall Mark eich helpu gydag unrhyw faterion sydd wedi'u datganoli i'r Senedd. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Amaethyddiaeth, pysgodfeydd, coedwigaeth a datblygu gwledig
  • Henebion ac adeiladau hanesyddol
  • Diwylliant
  • Datblygiad economaidd
  • Addysg a hyfforddiant
  • Amgylchedd
  • Gwasanaethau tân ac achub a hyrwyddo diogelwch tân
  • Bwyd
  • Iechyd a gwasanaethau iechyd
  • Priffyrdd a thrafnidiaeth
  • Tai
  • Llywodraeth leol
  • Gweinyddiaeth gyhoeddus
  • Lles cymdeithasol
  • Chwaraeon a hamdden
  • Twristiaeth
  • Cynllunio tref a sirol
  • Dŵr ac amddiffyn rhag llifogydd
  • Y Gymraeg

Mae Mark yn ymdrin â materion ar ran etholwyr o bob rhan o’r Gogledd ac yn codi materion yn uniongyrchol gyda'r Gweinidogion dan sylw, yn ceisio atebion i gwestiynau ysgrifenedig ac yn siarad mewn dadleuon ar lawr y Senedd.

Cyfeirir at gyfarfodydd wythnosol o'r 60 Aelod o'r Senedd fel Cyfarfodydd Llawn, ac fe'u cynhelir yn siambr drafod y Senedd ar brynhawn Mawrth a phrynhawn Mercher rhwng 1.30pm a 6.30pm.

Gall unrhyw un wylio'r dadleuon hyn naill ai o'r oriel gyhoeddus yn y Senedd, neu ar wefan Senedd TV.