Ddoe, cefnogodd yr Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, Mark Isherwood gynnig yn y Senedd yn galw am gynnal ymgyrch Gweithredu FAST bob dwy flynedd yng Nghymru i sicrhau bod pawb yn gwybod y dylent ffonio 999 ar yr arwydd cyntaf o strôc.
Strôc yw’r pumed prif achos marwolaeth yng Nghymru ac achos unigol mwyaf anabledd cymhleth. Mae oedi cyn cael triniaeth ar gyfer strôc yn lladd celloedd yn yr ymennydd ac yn gallu arwain at farwolaeth.
Roedd y cynnig a gyflwynwyd yn y ddadl fer ddoe ar ‘Ymwybyddiaeth o strôc ac ymgyrch FAST/NESA’ yn cynnig y dylid cynnal yr ymgyrch Gweithredu FAST bob dwy flynedd yng Nghymru.
Wrth gefnogi’r cynnig, dywedodd Mr Isherwood:
“Trwy gyd-ddigwyddiad, arweiniais Ddadl bron i flwyddyn union yn ôl ar Wasanaethau Strôc, pan ddywedais: ‘Mae’r Gymdeithas Strôc wedi galw am ymgyrch FAST - Face, Arms, Speech, Time - ddiwygiedig gan Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd, i wella ymwybyddiaeth o symptomau strôc ac annog y rhai sy’n eu profi i ffonio 999 cyn gynted â phosibl, gan fod gweithredu’n gyflym yn gallu rhoi’r cyfle gorau i’r person sy’n cael strôc i oroesi a gwella, gan ychwanegu bod ymgyrch FAST wedi’i chynnal ddiwethaf yng Nghymru yn 2018, ond wedi’i chynnal yn Lloegr a Gogledd Iwerddon yn 2021’. Canfu dadansoddiad o’r ymgyrch yn Lloegr ei bod yn gost-effeithiol iawn.
“Ym mis Mehefin, ymwelais â Grŵp Strôc Bwcle gyda’r Gymdeithas Strôc i ddysgu am eu profiad o strôc, ac yna codais y materion a oedd wedi’u codi gyda mi. Gan i mi ymuno â chyfarfod y Grŵp Trawsbleidiol ar Strôc yn gynharach yn y mis, a lansiodd yr ymgyrch ar gyfer Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru i ymrwymo i gynnal ymgyrch FAST reolaidd, rwy’n falch iawn o gefnogi’r cynnig hwn heddiw.”
Mae ymgyrch Gweithredu FAST yn annog pobl i gofio’r byrfodd F.A.S.T. wrth sylwi ar symptomau strôc posibl:
- Face – a yw wyneb y person wedi disgyn ar un ochr? A yw’n gallu gwenu?
- Arms – a yw’n gallu codi ei freichiau a’u cadw yno?
- Speech – a yw’n siarad yn aneglur?
- Time – hyd yn oed os nad ydych chi’n siŵr, ffoniwch 999.