Mae’r Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, Mark Isherwood, wedi galw o’r newydd am i ddynion sydd wedi dioddef neu oroesi cam-drin domestig gael mynediad at gymorth arbenigol wedi’i deilwra, yn ogystal â menywod.
Gwnaeth Mr Isherwood yr alwad yn ystod ymyriad yn Nadl y Ceidwadwyr Cymreig i ddynodi Diwrnod Rhyngwladol Dynion ddoe.
Meddai:
“Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dweud bod traean o ddioddefwyr camdriniaeth ddomestig yn ddynion, a bechgyn, sy’n peri syndod. Ydych chi’n cytuno â mi felly bod angen cymorth arbenigol wedi’i deilwra sydd ar gael i bobl mewn mannau diogel yn eu hardaloedd eu hunain os ydynt wedi dioddef neu oroesi camdriniaeth ddomestig, a hynny i ddynion a bechgyn yn ogystal â menywod?”
Cytunodd yr Aelod o’r Senedd Peter Fox.
Meddai:
“Dydyn ni ddim yn tynnu dim oddi wrth y problemau ofnadwy y mae rhai menywod yn gorfod eu hwynebu bob dydd ond mae yna ddynion a bechgyn yn wynebu sefyllfaoedd ofnadwy hefyd, ac mae angen iddyn nhw allu cael gafael ar y cymorth maen nhw ei angen i’w helpu drwy’r cyfnodau anodd iawn hyn. Yn aml, mae pobl yn anwybyddu dynion mewn sefyllfa cam-drin domestig o’r fath.”
Mae Mr Isherwood wedi codi’r mater nifer o weithiau yn Senedd Cymru dros y blynyddoedd diwethaf ac yn 2021 dywedodd: “Tra bod menywod yn llawer mwy tebygol o gael eu lladd gan eu partneriaid neu gynbartneriaid, mae dynion yn gallu dioddef hefyd, ac mae nifer y dynion sy’n cael eu lladd o ganlyniad i drais domestig ar gynnydd”.