Mae AS Gogledd Cymru a Chadeirydd Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar Dlodi Tanwydd ac Effeithlonrwydd Ynni, Mark Isherwood, wedi galw ar Lywodraeth Cymru i wella effeithlonrwydd ynni cartrefi sy’n dlawd o ran tanwydd yng Nghymru.
Wrth ymateb i’r Datganiad ar Gartrefi Clyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai, dywedodd Mr Isherwood, er ei fod wedi bod yn codi tlodi tanwydd yn y Senedd ers dros ddau ddegawd, mae’n parhau i fod yn “fater dwys, parhaus ledled Cymru, yr amcangyfrifir ei fod yn effeithio ar bron pob un o’n haelwydydd incwm is.”
Gyda phrisiau ynni yn debygol o aros yn uchel drwy gydol y gaeaf, ymhell uwchlaw lefelau cyn yr argyfwng, dywedodd y bydd llawer o aelwydydd yn ei chael hi’n anodd cadw’n gynnes ac yn iach.
Wrth siarad yng nghyfarfod Senedd Cymru ddoe, dywedodd:
“Mae angen brys i wella effeithlonrwydd ynni cartrefi sy’n dlawd o ran tanwydd yng Nghymru gyda biliau ynni sy’n isel yn barhaol. Ac eto ar gyfradd bresennol y gwaith o gyflwyno cynllun Cartrefi Clyd Nyth Llywodraeth Cymru—ychydig dros 1,600 o gartrefi y flwyddyn—bydd yn cymryd ymhell dros ganrif i wella effeithlonrwydd ynni ein holl aelwydydd incwm is yr amcangyfrifir eu bod mewn tlodi tanwydd ar hyn o bryd.
“Mae’r sector yn parhau i alw ar Lywodraeth Cymru i gynyddu cyllid ei rhaglen Cartrefi Clyd yn sylweddol, gan eu bod yn datgan nad yw hyn yn ddigonol ar hyn o bryd i fynd i’r afael â maint her tlodi tanwydd yng Nghymru.
“Sut ydych chi, felly, yn ymateb i’r alwad yng nghyfarfod ar y cyd fis Tachwedd diwethaf o’r Grŵp Trawsbleidiol ar Dlodi Tanwydd ac Effeithlonrwydd Ynni a’r Grŵp Trawsbleidiol ar Dai i Lywodraeth Cymru ddyrannu’r symiau canlyniadol o gynllun Cartrefi Clyd Llywodraeth y DU i’w rhaglen Cartrefi Clyd i gefnogi hyn, yr amcangyfrifir y bydd oddeutu £170 miliwn yng Nghymru?”
Ychwanegodd Mr Isherwood:
“Fel y dywedodd swyddfa’r Comisiynydd Pobl Hŷn, dylai atgyweirio neu amnewid boeleri o dan amgylchiadau angenrheidiol fod ar gael i bob ymgeisydd cymwys sydd heb system wresogi yn gweithio na dŵr poeth lle nad yw gwresogi carbon isel yn hyfyw neu’n briodol eto, ni waeth beth fo’u hoedran a’u hiechyd. Fodd bynnag, o fewn chwe mis cyntaf rhaglen Cartrefi Clyd cyfredol Llywodraeth Cymru, a lansiwyd 1 Ebrill y llynedd, roedd rhai aelwydydd cymwys yn cael eu gwrthod ar gyfer mesurau os nad oedd eu cartref yn hyfyw neu’n briodol ar gyfer pwmp gwres eto. Roedd hyn yn peri pryder mawr ac mewn cyferbyniad llwyr â’r ffordd yr oedd National Energy Action a phartneriaid yn deall sut y byddai’r cynllun yn cael ei weithredu, gan o bosib adael aelwydydd incwm isel cymwys, i fyw yn y cartrefi lleiaf effeithlon, heb unrhyw system wresogi yn gweithio na dŵr poeth. Roeddent felly’n argymell yn gryf bod y mater hwn yn cael ei ddatrys ar frys.”
Croesawodd Mr Isherwood y ffaith fod Llywodraeth Cymru, mewn ymateb i adborth gan National Energy Action a phartneriaid, wedi cytuno i sicrhau y gall pob ymgeisydd Nyth cymwys nawr gael eu boeler wedi’i drwsio neu ei newid os nad oes ganddynt wres sy’n gweithio neu ddŵr poeth. Mae hyn yn golygu, er bod pympiau gwres yn dal i fod ar gael, bydd aelwydydd cymwys, am y tro, yn dal i allu cael boeler newydd neu drwsio eu boeler fel dewis arall, ochr yn ochr â mesurau inswleiddio ac effeithlonrwydd ynni eraill. Fodd bynnag, gofynnodd i Ysgrifennydd y Cabinet ymateb i bryder Fuel Poverty Coalition Cymru mai dim ond tan ddiwedd mis Mawrth y mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i’r ddarpariaeth angenrheidiol hon, a’u galwad i hyn barhau am weddill y rhaglen.
Fe wnaeth Mr Isherwood hefyd holi Ysgrifennydd y Cabinet am ddiddymu Taliadau Tanwydd y Gaeaf i filiynau o bobl.
Dywedodd:
“Ar ôl cael gwared ar daliadau tanwydd gaeaf i filiynau o bensiynwyr, anogodd Llywodraeth Lafur y DU bensiynwyr i wirio a allent fod yn gymwys i gael credyd pensiwn i sicrhau Taliad Tanwydd y Gaeaf. Amcangyfrifir y bydd 130,000 o bobl hŷn yn y DU ar eu colled oherwydd eu bod dim ond £500 dros y trothwy incwm i hawlio credyd pensiwn. Sut ydych chi, felly, yn ymateb i’r alwad gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru am weithredu i ddatrys mater sydd fel ymyl clogwyn pan fo pobl hŷn sy’n gymwys i gael credyd pensiwn, oherwydd incwm ychydig yn uwch na’r trothwy, ar eu colled o ran cymorth yn gyfan gwbl, ac i’r alwad gan Gofal a Thrwsio Cymru ar gyfer gweithredu grant rhwyd ddiogelwch ar gyfer diffyg atgyweirio mewn aelwydydd sy’n agored i niwed ac incwm isel, gan gynnwys y rhai sy’n methu o drwch blewyn â chyrraedd y trothwy er mwyn bod yn gymwys ar gyfer Credyd Pensiwn, i’w cadw’n ddiogel, yn gynnes ac allan o’r ysbyty?”
Yn ei hymateb, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet bod ei chyd-Ysgrifennydd Cabinet Jane Hutt “wedi bod yn gwneud llawer o waith yn y maes hwn,” ond methodd â datgelu beth yn union sy’n cael ei wneud i helpu pensiynwyr ar y dibyn sy’n colli allan ar gefnogaeth.