Mae’r AS dros Ogledd Cymru, Mark Isherwood, wedi galw ar Weinidogion Llywodraeth Lafur Cymru i wneud popeth o fewn eu gallu i ddiogelu'r miliynau o bunnoedd o fuddsoddiad arfaethedig yn y Gogledd yn dilyn sibrydion y gallai Llywodraeth y DU ei ddileu.
Mae pryderon cynyddol y gallai'r rhanbarth golli buddsoddiad a sicrhawyd o dan Lywodraeth Geidwadol flaenorol y DU.
Yn y Datganiad Busnes ddoe, rhannodd Mr Isherwood y pryderon wrth alw am Ddatganiad ar gefnogaeth i economi’r Gogledd ac anogodd Weinidogion i wneud popeth o fewn eu gallu i sicrhau nad yw'r cyllid yn cael ei ddileu.
Wrth siarad yn Siambr y Senedd, dywedodd Mr Isherwood:
"Mae arweinydd cyngor Wrecsam wedi dweud y byddai'n wirioneddol siomedig pe bai'r gronfa dref gwerth £20 miliwn a ddyrannwyd i Wrecsam yn cael ei dileu gan Lywodraeth Lafur y DU, a oedd yn rhan o gynllun buddsoddi hirdymor ar gyfer trefi sy'n cael eu diystyru a'u cymryd yn ganiataol, gan gynnwys pedair tref yng Nghymru.
“Roedd ef yn dweud drachefn fod sibrydion, ar ben y cwbl, y gallai parth buddsoddi'r gogledd o £160 miliwn gael ei dynnu nôl. Pe byddai hynny'n digwydd, fe fyddai hwnnw'n drychineb i Wrecsam a sir y Fflint gan fod hwnnw i fod i ddwyn gwerth tua £1 biliwn o fuddsoddiad i mewn i'r ddwy sir. Fe ddaw hyn yn dilyn datganiadau yn ystod yr haf yn bwrw amheuaeth ar y cynllun tua biliwn o bunnau i drydaneiddio rheilffordd y gogledd, a chynlluniau i adeiladu atomfa fawr yn Wylfa ar Ynys Môn—cyhoeddiadau gan Weinidogion Llywodraeth y DU
"Felly mae angen i ni wybod pa gamau, os o gwbl, y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i frwydro dros y cynlluniau hyn—cynlluniau, er mai cynlluniau'r Llywodraeth Geidwadol oedden nhw, a oedd yn ennill cefnogaeth drawsbleidiol i raddau helaeth yn y rhanbarth—neu a fydd yn rhaid i'r gogledd aros sawl blwyddyn i wneud cais am y rownd nesaf o gynlluniau cyn i fwy o oedi ddigwydd eto?
"Rwy'n galw am ddatganiad ynglŷn â hynny am nad yw'r rhanbarth yn dymuno nac yn gallu fforddio colli allan ar gannoedd o filiynau a biliynau o bunnau o fuddsoddiad o bosibl yr oedd yn bwriadu ei fuddsoddi eisoes."
Yn ei hymateb, bwrodd y Trefnydd, Jane Hutt AS, y bai ar Lywodraeth flaenorol y DU a’r "gagendor mawr yr ydych chi wedi ei adael i ni.”
Wrth siarad ar ôl y cyfarfod, dywedodd Mr Isherwood:
"Mae’r Gogledd yn haeddu gwell na'r un hen gri 'beiwch bopeth ar Lywodraeth Geidwadol y DU'.
"Wrth gyfeirio at y ‘gagendor mawr yr ydych chi wedi ei adael i ni’, mae'n ymddangos nad yw hi'n ymwybodol bod Trysorlys y DU wedi gwrthod darparu manylion allweddol o'r "gagendor" cyllidol gwerth £22bn y mae'r canghellor Rachel Reeves yn honni ei bod wedi'i ddarganfod, neu pan adawodd Llafur y Llywodraeth yn 2010, roedd diffyg y DU yn 10.3% o gynnyrch domestig gros, ond pan adawodd y Ceidwadwyr y Llywodraeth yn 2024, dim ond yn 4.4% o gynnyrch domestig gros oedd diffyg y Deyrnas Unedig.
"Wrth ddweud bod “penderfyniadau Llywodraeth y Ceidwadwyr blaenorol yn gul ac ynysig iawn, a heb ymrwymiad Llywodraeth Cymru, wedi ein rhoi yn y sefyllfa hon", ymddengys nad yw hi'n ymwybodol bod y dull o nodi Ardaloedd Buddsoddi yng Nghymru wedi’i gyd-ddatblygu gan Lywodraeth Geidwadol y DU a Llywodraeth Lafur Cymru".
"Wrth nodi bod y "cynllun hwn gennych chi a oedd yn ffafriol iawn i rai, lle digwyddai i'r AS lleol fod yn un o'r Ceidwadwyr", mae’n ymddangos nad yw hi’n ymwybodol chwaith bod Merthyr Tudful, Cwmbrân a'r Barri hefyd i dderbyn £20 miliwn o gronfeydd tref, neu fod ail Ardal Fuddsoddi yng Nghymru wedi'i lleoli ledled Caerdydd a Chasnewydd."