Yn dilyn ymweliad diweddar â Chartref Gofal yn Sir Ddinbych, mae Mark Isherwood, AS Gogledd Cymru, wedi amlinellu’r pwysau y maent yn ei wynebu oherwydd Cyllideb Llywodraeth y DU ac wedi galw am ymyrraeth a chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru.
Yng nghyfarfod Senedd Cymru heddiw, cododd Mr Isherwood bryder y Cartref Gofal hefyd fod lleoliadau yn Sir Ddinbych yn cael eu gwneud ‘ar sail cost yn unig’, ac nid ‘ansawdd a gwerth cymdeithasol’ fel yr amlinellir yn y ‘Fframwaith cenedlaethol ar gyfer comisiynu gofal a chymorth: cod ymarfer’.
Wrth godi’r mater yn y Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, dywedodd:
“Yn ddiweddar, ymwelais â chartref preswyl yng ngogledd Cymru gyda Fforwm Gofal Cymru i drafod materion sy’n bygwth hyfywedd y sector.
“Yng ngoleuni cyllideb yr hydref y DU, roedd y rhain yn cynnwys cost gynyddol cyfraniadau yswiriant gwladol a’r Cyflog Byw Cenedlaethol, a phryder, er mai bwriad cod ymarfer y fframwaith cenedlaethol ar gyfer comisiynu gofal a chymorth yng Nghymru, a ddaeth i rym ar 1 Medi eleni, o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, yw symud arferion comisiynu presennol awdurdodau lleol oddi wrth gost a thuag at ansawdd a gwerth cymdeithasol, a sicrhau bod gan bobl lais a rheolaeth dros eu gofal a'u cymorth, fod sir Ddinbych yn lleoli pobl ar sail cost yn unig, gan nodi, pan fydd yn penderfynu diwallu anghenion cymwys dinesydd am ofal a chymorth drwy drefnu llety cartref gofal, ei bod yn ofynnol iddynt ddod o hyd i’r llety hwnnw am bris neu mor agos at bris y maent yn credu sy’n gynaliadwy a chosteffeithiol, a elwir yn gyfradd ddangosol. Pa ymyrraeth a chymorth, felly, y bydd Llywodraeth Cymru yn eu darparu ar gyfer y sector gofal yn yr ardaloedd hyn?
Wrth ymateb, dywedodd Dawn Bowden AS, y Gweinidog dros Blant a Gofal Cymdeithasol
“Mae’r pwyntiau a godwyd gennych yn rhai da ac yn bethau yr ydym yn eu gweld ledled y wlad, ond mae fframwaith yno i'w gwneud hi'n bosibl datblygu’r ddarpariaeth o ffioedd gofal cymdeithasol mewn partneriaeth rhwng yr awdurdod lleol, a lle bo’n briodol, y gwasanaeth iechyd, a dyna’n union y bwriedir i'r fframwaith ei wneud. Nid mater o gyflwyno ffioedd cyson neu’r un ffioedd ledled y wlad yw hyn o reidrwydd, ond dull gweithredu cyson i sicrhau nad oes loteri cod post o ran ffioedd comisiynu.
“Rydym wedi cynnal nifer o sesiynau gyda chomisiynwyr ledled Cymru, gan roi cefnogaeth a phecyn cymorth iddynt i'w galluogi i weithio yn y ffordd y gwyddom y bydd yn sicrhau'r canlyniadau gorau. Rydym yn nodi lle mae gennym arferion gorau ac rydym yn safoni comisiynu gofal a chymorth, a fydd, yn y tymor hwy, gobeithio, yn lleddfu'r mathau o broblemau a godwyd gennych heddiw.”