Heddiw, mae AS Gogledd Cymru, Mark Isherwood, wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi'r rhai sy'n ei chael hi'n anodd talu eu morgais.
Wrth holi'r Prif Weinidog yng nghyfarfod y Senedd y prynhawn yma, cyfeiriodd Mr Isherwood at y cynnydd yn nifer yr adfeddiannau morgeisi yng Nghymru a gofynnodd pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â hyn.
Wrth ymateb i gwestiwn cychwynnol Mr Isherwood "Pa gymorth sy'n gysylltiedig â thai y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i berchnogion tai?", fe feiodd y Prif Weinidog "menter fach Liz Truss i fyd ideolegol, a gafodd effaith ar bobl yn ein cymunedau. O ganlyniad uniongyrchol i ymddygiad gwleidyddol gwael, yr ydyn ni'n gweld pobl yn wynebu'r cynnydd hwnnw mewn morgeisi".
Ychwanegodd:
“Mae'r risg yn cynyddu y bydd pobl yn cael trafferth gyda morgeisi, gyda data'r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn dangos cynnydd yn nifer y ceisiadau meddiannu morgeisi sy'n cael eu cyflwyno yn chwarter 3 yng Nghymru, a chrynodeb o ddata Shelter Cymru o fis Hydref 2024 yn dangos cynnydd o ran achosion yn ymwneud ag ôl-ddyledion morgais ac achosion meddiannu
“Fodd bynnag, er i Lywodraeth Cymru nodi y gallai ei chynllun cymorth gyda morgeisi, benthyciad ecwiti a rennir, Cymorth i Aros Cymru, gyda £40 miliwn o gyllid cyfalaf ad-daladwy ar gyfer 2023-24, helpu cannoedd o berchnogion cartrefi sy'n ei chael hi'n anodd yng Nghymru, dangosodd datganiad i'r wasg gan Lywodraeth Cymru mai dim ond pum benthyciad Cymorth i Aros a gafodd eu cymeradwyo y flwyddyn gyntaf y cafodd y cynllun ei weithredu.
“O ystyried y dystiolaeth gref hon bod angen rhywbeth mwy cynhwysfawr fel ymateb, pa gamau ydy'ch Llywodraeth yn eu cymryd i fynd i'r afael â'r cynnydd diweddar mewn ceisiadau meddiannu morgeisi, a pha drafodaethau ydy'ch eich Llywodraeth wedi'u cael o ran yr angen am gyllid wedi'i glustnodi ar gyfer cynlluniau achub morgeisi yng Nghymru?
Yn ei hymateb, dywedodd y Prif Weinidog am help Cymorth i Aros - "dim ond blwyddyn yn ôl y dechreuodd. Mae'r pethau hyn yn cymryd amser i fynd ar eu traed", ac aeth ymlaen i siarad am gynllun prynu cartrefi.
Wrth siarad y tu allan i'r cyfarfod, dywedodd Mr Isherwood:
"Gwnaeth ymgais y Prif Weinidog i sgorio pwyntiau gwleidyddol ar fater sy'n sarnu bywydau ledled Cymru fy synnu’n fawr a dweud y gwir. Hyd yn oed ar ôl i mi dynnu sylw at y ffaith fod y marchnadoedd wedi adfer ar ôl i Liz Truss adael, ac mai’r argyfwng costau byw byd-eang a achosodd gyfraddau llog i saethu i fyny, fe wnaeth ein Prif Weinidog hunanfodlon osgoi'r hyn sy'n fater difrifol i lawer o berchnogion tai presennol a dewis siarad yn hytrach am gynllun prynu cartrefi."