Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • Cefndir Mark Isherwood
  • Newyddion
  • Cysylltu
  • ENG
  • Senedd Cymru
Site logo

Cefnogi Sefydliadau Niwroamrywiaeth Penodol Lleol

  • Tweet
Dydd Iau, 25 Gorffennaf, 2024
  • Local News
Cefnogi Sefydliadau Niwroamrywiaeth Penodol Lleol

Heddiw, mae’r AS dros Ogledd Cymru a Chadeirydd Grŵp Trawsbleidiol ar Awtistiaeth y Senedd, Mark Isherwood, wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ymateb i argymhelliad adroddiad allweddol y dylai 'awdurdodau lleol weithio gyda sefydliadau niwroamrywiaeth-benodol a’u cefnogi, ac ymgynghori â nhw ar y materion sy'n ymwneud â gwasanaethau awdurdodau lleol a'u hygyrchedd i unigolion niwrowahanol'.

Cododd Mr Isherwood y mater yng nghyfarfod y Senedd heddiw wrth holi Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, Cyfansoddiad a Swyddfa'r Cabinet.

Meddai:

"Mae adroddiad End Youth Homelessness Cymru, 'Youth Homelessness Through the Lens of Neurodiversity', a lansiwyd yn y Senedd ar 17 Ebrill, yn nodi: 'Yn rhy aml, nid  ydym yn rhoi sylw i bobl ifanc sydd â chymysgedd o adfyd a niwroamrywiaeth yn eu bywydau'.

"Fel y noda ei gasgliad: 'Wrth wraidd niwroamrywiaeth mae'r ddealltwriaeth nad oes unrhyw unigolyn yr un peth', eto 'pan fyddwn yn cymryd yn ganiataol fod pawb arall yn meddwl yn yr un ffordd â ninnau —dyna pryd fydd problemau'n codi'.

"Sut y byddech chi'n ymateb felly i argymhelliad yr adroddiad y dylai Awdurdodau Lleol weithio gyda sefydliadau niwroamrywiaeth-benodol lleol a'u cefnogi, ac ymgynghori â nhw ar y materion sy'n ymwneud â gwasanaethau Awdurdod Lleol a'u hygyrchedd i unigolion niwrowahanol. Dylid sicrhau bod cyllid ar gael i'r sefydliadau hynny i ddarparu cymorth ac allgymorth i bobl ifanc niwrowahanol', lle mae'r adroddiad hefyd yn nodi:

'Mae atal bob amser yn fwy effeithiol na gorfod ymdrin â’r llu o broblemau unigol sy'n codi yn nes ymlaen ym mywyd unigolyn ifanc."

Yn ei hymateb, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet:

"Byddaf yn llwyr gydnabod y negeseuon pwysig rydych chi wedi'u cyflwyno nawr o ran pwysigrwydd deall niwroamrywiaeth", gan ychwanegu "Buaswn yn gobeithio, drwy rywfaint o'r buddsoddiad rydyn ni wedi'i wneud, fel ein cronfa arloesi digartrefedd ieuenctid, y gallem archwilio materion fel hynny".

You may also be interested in

AS yn cyflwyno Datganiad Barn i gyd-fynd â Diwrnod Ymwybyddiaeth Cam-drin Henoed y Byd

AS yn cyflwyno Datganiad Barn i gyd-fynd â Diwrnod Ymwybyddiaeth Cam-drin Henoed y Byd

Dydd Llun, 16 Mehefin, 2025
Mae AS Gogledd Cymru, Mark Isherwood, wedi cyflwyno Datganiad Barn yn y Senedd i gyd-fynd â Diwrnod Ymwybyddiaeth Cam-drin Henoed y Byd.Mae Mr Isherwood wedi cyflwyno'r Datganiad Barn canlynol a galwodd ar Aelodau o’r Senedd i'w gefnogi:Mae’r Senedd hon:Yn nodi mai 15 Mehefin 2025 yw’r Diwrnod Ymwyb

Show only

  • Local News
  • Newsletters
  • Senedd News
  • Speeches

Mark Isherwood AS

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • Cefndir Mark Isherwood
Welsh ParliamentHyrwyddir gan Mark Isherwood.

Nid yw Senedd Cymru, neu Mark Isherwood yn gyfrifol am gynnwys cysylltiadau allanol neu wefannau. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus.

Hawlfraint 2025 Mark Isherwood AS . Cedwir pob hawl.
Powered by Bluetree