Brynhawn heddiw mae AS Gogledd Cymru, Mark Isherwood, wedi annog Aelodau o'r Senedd i gefnogi cynnig ei Blaid yn galw ar Lywodraeth y DU i ailystyried ei phenderfyniad i ddod â'r Taliad Tanwydd Gaeaf Cyffredinol i ben.
Cynigiodd cynnig y Ceidwadwyr Cymreig fod y Senedd:
1. Yn mynegi pryder mawr y bydd tua 400,000 o aelwydydd yng Nghymru yn colli hyd at £300 y pen ar ôl penderfyniad Llywodraeth y DU i ddod â thaliad tanwydd cyffredinol y gaeaf i ben.
2. Yn nodi ymateb Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip i WQ93698 lle nododd y gallai penderfyniad Llywodraeth y DU i ddod â thaliad tanwydd y gaeaf i ben wthio rhai pensiynwyr i dlodi tanwydd.
3. Yn galw ar Lywodraeth y DU i wyrdroi ei phenderfyniad i ddod â thaliad tanwydd cyffredinol y gaeaf i ben.
Wrth gloi'r ddadl, pwysleisiodd Mr Isherwood, er bod y Prif Weinidog a'r Canghellor Llafur wedi cyfiawnhau eu penderfyniad i gael gwared ar Daliadau Tanwydd y Gaeaf i filiynau o bensiynwyr ar sail "gagendor gwerth £22 biliwn" a adawyd gan y Ceidwadwyr, mae Trysorlys y DU wedi gwrthod darparu manylion allweddol am y "gagendor" cyllidol hwn y mae Llafur yn honni eu bod wedi ei ddarganfod.
Meddai:
"Mewn gwirionedd, pan adawodd Llafur Lywodraeth y DU yn 2010, roedd diffyg y DU yn 10.3% o gynnyrch domestig gros, ond pan adawodd y Ceidwadwyr y Llywodraeth yn 2024, dim ond 4.4% o gynnyrch domestig gros oedd diffyg y DU, er eu bod wedi gorfod benthyg biliynau i gefnogi pobl a'r economi drwy'r pandemig a'r argyfwng costau byw byd-eang.
"Hefyd, mae talp o'r 'gagendor' honedig yn ganlyniad i benderfyniadau gwleidyddol a wnaed gan Lywodraeth Lafur y DU.
"Hyd yn oed yn waeth, maen nhw nawr yn cyfaddef na chafodd asesiad effaith ei gynnal ar bolisi a fydd yn effeithio ar oddeutu 500,000 o bensiynwyr yng Nghymru yn unig - dim asesiad effaith, nid yw hynny’n arfer dda i Lywodraeth o dan unrhyw Blaid.
"Maen nhw'n annog pensiynwyr i wirio a allen nhw fod yn gymwys i gael Credyd Pensiwn i sicrhau Taliad Tanwydd y Gaeaf.
"Maen nhw, felly, yn tanseilio eu dadl mai penderfyniad cyllidol yw hwn, gyda'r felin drafod 'Policy in Practice' yn nodi, pe bai pob un o'r 880,000 o bensiynwyr cymwys yn gwneud cais am Gredyd Pensiwn, gallai'r Trysorlys wynebu bil o £3.8 biliwn, mwy o lawer na’r £1.4 biliwn sy’n cael ei arbed drwy ddileu’r taliad tanwydd gaeaf heb brawf modd.
"Yn ogystal, amcangyfrifir y bydd 130,000 o bobl hŷn yn y DU ar eu colled oherwydd mai dim ond £500 dros y trothwy incwm i allu hawlio Credyd Pensiwn ydyn nhw. Mae hyn yn atgyfnerthu'r alwad gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru am weithredu i ddatrys sefyllfa ‘y cyfan neu ddim’ lle mae pobl hŷn nad ydyn nhw’n gymwys i gael Credyd Pensiwn oherwydd bod eu hincwm fymryn yn uwch na'r trothwy yn colli allan ar gymorth yn gyfan gwbl.
"Mae Age UK yn amcangyfrif y bydd 2.5 miliwn o bensiynwyr ar incwm isel - ond ddim digon isel i gael credyd pensiwn - yn ei chael hi'n anodd talu eu biliau y gaeaf hwn, ac mae Age Cymru wedi datgan mai torri taliad tanwydd y gaeaf hwn, heb bron ddim rhybudd a dim mesurau digolledu i amddiffyn pensiynwyr tlawd a bregus, yw'r penderfyniad anghywir'.
"Mae'r diffyg rhagwelediad hefyd yn cael ei amlygu gan Gymdeithas Clefyd Motor Niwron, sydd wedi dweud:
"Ni fydd rhoi’r Taliad Tanwydd Gaeaf ar sail prawf modd yn ystyried costau anochel byw gyda chyflwr anablu fel MND. Dyw pobl sy'n ymdopi â'r cyflwr ofnadwy hwn ddim yn haeddu colli'r gefnogaeth y maen nhw’n dibynnu arni'r gaeaf hwn."
Ychwanegodd:
"Fel y dywedodd NEA Cymru, mae'r penderfyniad i gyfyngu’r Taliad Tanwydd Gaeaf i bensiynwyr sy'n derbyn Credyd Pensiwn wedi codi pryderon eang am yr effaith ar allu pobl hŷn i gadw'n gynnes ac yn iach gartref, gan adael llawer o bensiynwyr mewn angen heb gymorth y gaeaf hwn".
"Felly, rwy'n annog pob Aelod i anfon y neges hon at Lywodraeth y DU drwy gefnogi ein cynnig heddiw."
Fe wnaeth ASau Llafur drechu'r cynnig yn galw ar Lywodraeth Lafur y DU i gadw taliadau tanwydd y gaeaf o 1 pleidlais.