Y prynhawn yma, mae AS Gogledd Cymru, Mark Isherwood, wedi pwyso ar Aelodau'r Senedd i gefnogi cynnig ei Blaid yn galw ar Lywodraeth y DU i wyrdroi ei phenderfyniad i ddod â'r Taliad Tanwydd Gaeaf Cyffredinol i ben.
Cynigiodd cynnig y Ceidwadwyr Cymreig fod y Senedd:
1. Yn mynegi pryder dybryd y bydd tua 400,000 o aelwydydd yng Nghymru yn colli hyd at £300 y pen yn dilyn penderfyniad Llywodraeth y DU i ddod â'r taliad tanwydd gaeaf cyffredinol i ben.
2. Yn nodi ymateb Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip i WQ93698, lle nododd fod risg y bydd penderfyniad Llywodraeth y DU i ddod â thaliad tanwydd y gaeaf i ben yn gwthio rhai pensiynwyr i dlodi tanwydd.
3. Yn galw ar Lywodraeth y DU i wyrdroi ei phenderfyniad i ddod â’r taliad tanwydd gaeaf cyffredinol i ben.
Wrth gloi'r ddadl, pwysleisiodd Mr Isherwood, er bod y Prif Weinidog Llafur a'r Canghellor wedi cyfiawnhau eu penderfyniad i gael gwared ar Daliadau Tanwydd y Gaeaf i filiynau o bensiynwyr ar sail “twll du gwerth £22 biliwn” a adawyd gan y Ceidwadwyr, mae Trysorlys y DU wedi gwrthod darparu manylion allweddol am y “twll du” cyllidol hwn y mae Llafur yn honni ei fod wedi darganfod.
Meddai:
“Mewn gwirionedd, pan adawodd y Llywodraeth Lafur yn 2010, roedd diffyg y DU yn 10.3% o'r cynnyrch domestig gros, ond pan adawodd y Llywodraeth Geidwadol yn 2024, roedd yn 4.4% o'r cynnyrch domestig gros, er iddynt orfod benthyca biliynau i gefnogi pobl a'r economi drwy'r pandemig a'r argyfwng costau byw byd-eang.
“Ymhellach, mae cyfran o'r ‘twll du’ honedig yn ganlyniad i benderfyniadau gwleidyddol gan Lywodraeth Lafur y DU.
“Hyd yn oed yn waeth, maent yn cyfaddef bellach na chafodd unrhyw asesiad effaith ei gynnal ar bolisi a fydd yn effeithio ar 500,000 amcangyfrifedig o bensiynwyr yng Nghymru yn unig. Dim asesiad effaith: nid yw hynny'n llywodraethu da o dan unrhyw blaid.
“Maent yn annog pensiynwyr i edrych i weld a allent fod yn gymwys i gael Credyd Pensiwn i sicrhau Taliad Tanwydd y Gaeaf.
“Maent yn tanseilio eu dadl felly fod hwn rywsut yn benderfyniad cyllidol, gyda'r felin drafod Policy in Practice yn nodi, pe bai pob un o'r 880,000 o bensiynwyr cymwys yn gwneud cais am Gredyd Pensiwn, y gallai'r Trysorlys wynebu bil o £3.8 biliwn, sy'n llawer mwy na'r arbediad o £1.4 biliwn o gael gwared ar Daliadau Tanwydd y Gaeaf nad oes angen prawf modd ar eu cyfer.
“Yn ogystal, amcangyfrifir y bydd 130,000 o bobl hŷn yn y DU ar eu colled am eu bod ond £500 dros y trothwy incwm i allu hawlio credyd pensiwn, gan atgyfnerthu'r alwad am weithredu gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru i ddatrys sefyllfa ‘ymyl clogwyn’, lle mae pobl hŷn nad ydynt yn gymwys i gael credyd pensiwn oherwydd incwm ychydig uwchlaw'r trothwy yn colli cymorth yn gyfan gwbl.
“Mae Age UK yn amcangyfrif y bydd 2.5 miliwn o bensiynwyr sydd ar incwm isel, ond heb fod yn ddigon isel i gael credyd pensiwn, yn cael trafferth talu eu biliau y gaeaf hwn. Mae Age Cymru wedi dweud 'mae torri taliad tanwydd y gaeaf, heb fawr o rybudd nac unrhyw gamau cydadferol i amddiffyn pensiynwyr tlawd a bregus, yn benderfyniad anghywir.'
“Mae'r diffyg rhagwelediad yn cael ei amlygu hefyd gan y Gymdeithas Clefyd Niwronau Motor, sydd wedi dweud:
‘Ni fydd gwneud prawf modd ar daliad tanwydd y gaeaf yn ystyried costau byw anochel byw gyda chyflwr sy'n anablu'n fawr fel clefyd niwronau motor. Nid yw pobl sy'n ymdopi â'r cyflwr dinistriol hwn yn haeddu colli'r cymorth maen nhw’n dibynnu arno y gaeaf hwn.”
Ychwanegodd:
“Fel y dywedodd NEA Cymru, 'mae'r penderfyniad i gyfyngu taliad tanwydd y gaeaf i bensiynwyr sy'n derbyn credyd pensiwn wedi codi pryderon eang am yr effaith ar allu pobl hŷn i gadw'n gynnes ac yn iach yn eu cartrefi, gan adael llawer o bensiynwyr mewn angen heb gymorth y gaeaf hwn”.
“Felly, rwy'n pwyso ar bob Aelod i anfon y neges hon at Lywodraeth y DU drwy gefnogi ein cynnig heddiw.”
Fe wnaeth ASau Llafur drechu'r cynnig yn galw ar Lywodraeth Lafur y DU i achub taliadau tanwydd y gaeaf un bleidlais.