Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • Cefndir Mark Isherwood
  • Newyddion
  • Cysylltu
  • ENG
  • Senedd Cymru
Site logo

Croesawu cynnydd yn yr ymgyrch i gael gwared ar rwystrau ar Lwybr Arfordir Sir y Fflint ond "bydd y frwydr yn parhau tan y bydd y rhwystr olaf wedi’i ddymchwel"

  • Tweet
Dydd Iau, 21 Tachwedd, 2024
  • Local News
Croesawu cynnydd yn yr ymgyrch i gael gwared ar rwystrau ar Lwybr Arfordir Sir y Fflint ond "bydd y frwydr yn parhau tan y bydd y rhwystr olaf wedi’i ddymchwel"

Mae AS Gogledd Cymru, Mark Isherwood, sydd wedi bod yn ymgyrchu gyda phobl anabl ac eraill ledled Sir y Fflint i gael gwared ar rwystrau ar hyd Llwybr Arfordir Cymru ers dros 9 mlynedd, wedi croesawu'r newyddion fod Cyngor Sir y Fflint wedi cytuno i gael gwared arnyn nhw, ond dywedodd y bydd y Grŵp Ymgyrchu yn parhau i frwydro tan y bydd y rhwystr olaf wedi’i ddymchwel.

Cyhoeddodd Cyngor Sir y Fflint ddatganiad i'r wasg yr wythnos diwethaf yn cyhoeddi y bydden nhw’n cael gwared ar y rhwystrau yn raddol, ac mewn cyfarfod gyda'r Grŵp Ymgyrchu yr wythnos hon, pan ymunodd Mr Isherwood ar-lein o Gaerdydd, cydnabu Arweinydd Cyngor Sir y Fflint fod pryderon dilys dros y defnydd o'r rhwystrau, a dywedodd y bydden nhw’n cael eu dymchwel dros gyfnod a drefnwyd, gyda'r cyntaf yn cael ei ddymchwel cyn y Nadolig.

Wrth groesawu'r cam ymlaen, dywedodd Mr Isherwood:

"Ar ôl bod yn rhan weithgar o'r ymgyrch hon o'r dechrau, rydw i wrth fy modd bod Cyngor Sir y Fflint wedi gweld synnwyr o'r diwedd ac wedi cytuno i gael gwared ar y rhwystrau hyn gan greu mynediad i bawb.

"Fodd bynnag, o ystyried y bydd y gwaith yn cael ei wneud fesul cam, byddwn yn parhau i roi pwysau ar yr awdurdod lleol tan y bydd y rhwystr olaf un wedi’i ddymchwel.

"Rydyn ni wedi cael gwybod mai Saltney Ferry fydd yr ardal gyntaf lle bydd y rhwystrau'n cael eu tynnu cyn y Nadolig, gyda'r rhwystrau'n cael eu symud yng Nghei Connah ar ddechrau'r flwyddyn newydd a'r rhai ymhellach i fyny'r arfordir yn cael eu tynnu ar ôl mis Ebrill.

"Mae Llwybr Arfordir Sir y Fflint yn lle hyfryd i ymweld ag ef, gyda’i dirweddau amrywiol a godidog, ac fe wnaeth y grŵp ymgyrchu dynnu sylw at y cyfleoedd i ddathlu a chynyddu'r defnydd o'r arfordir.

"Efallai ei fod wedi cymryd naw mlynedd, ond mae'n dangos beth all cymunedau ei gyflawni wrth ddod at ei gilydd. Diolch i bawb sydd wedi bod yn rhan o'r ymgyrch hon, ac edrychaf ymlaen at weld y llwybr hwn yn gwbl hygyrch yn y dyfodol."

Attachments

Attachment Size
wheelchair-749985_1280.jpg (306.6 KB) 306.6 KB

You may also be interested in

AS yn cyflwyno Datganiad Barn i gyd-fynd â Diwrnod Ymwybyddiaeth Cam-drin Henoed y Byd

AS yn cyflwyno Datganiad Barn i gyd-fynd â Diwrnod Ymwybyddiaeth Cam-drin Henoed y Byd

Dydd Llun, 16 Mehefin, 2025
Mae AS Gogledd Cymru, Mark Isherwood, wedi cyflwyno Datganiad Barn yn y Senedd i gyd-fynd â Diwrnod Ymwybyddiaeth Cam-drin Henoed y Byd.Mae Mr Isherwood wedi cyflwyno'r Datganiad Barn canlynol a galwodd ar Aelodau o’r Senedd i'w gefnogi:Mae’r Senedd hon:Yn nodi mai 15 Mehefin 2025 yw’r Diwrnod Ymwyb

Show only

  • Local News
  • Newsletters
  • Senedd News
  • Speeches

Mark Isherwood AS

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • Cefndir Mark Isherwood
Welsh ParliamentHyrwyddir gan Mark Isherwood.

Nid yw Senedd Cymru, neu Mark Isherwood yn gyfrifol am gynnwys cysylltiadau allanol neu wefannau. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus.

Hawlfraint 2025 Mark Isherwood AS . Cedwir pob hawl.
Powered by Bluetree