Wrth siarad yn nadl y Ceidwadwyr Cymreig y prynhawn yma yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddiddymu ei therfyn cyflymder diofyn o 20mya, pwysleisiodd Mark Isherwood, AS dros Ogledd Cymru, fod y terfyn wedi bod yn amhoblogaidd iawn ers ei gyflwyno fis Medi diwethaf, ac wedi methu â darparu noddfa o ddiogelwch ar ein ffyrdd.
Dywedodd Mr Isherwood “a hithau'n benderfynol o ddilyn ei pholisïau diogelwch ffyrdd, anwybyddodd Llywodraeth Cymru bob tystiolaeth anghyfleus i’r gwrthwyneb” a gweithredu'r terfyn newydd beth bynnag.
Cyfeiriodd at wrthwynebiad cryf y cyhoedd i'r terfyn cyflymder, lle wnaeth 469,571 lofnodi deiseb y Senedd yn galw am gael gwared arno, y ddeiseb fwyaf yn hanes y Senedd, a phwysleisiodd fod arolwg barn YouGov fis diwethaf yn dangos bod saith o bob deg o Gymry yn dal i'w wrthwynebu.
Wrth siarad yn y ddadl, dywedodd:
“Byddai dweud bod y terfyn cyflymder diwahân o 20 mya wedi bod yn amhoblogaidd yn danddatganiad.
“Llofnododd 469,571 o bobl ddeiseb y Senedd: 'Rydym am i Lywodraeth Cymru ddiddymu’r gyfraith drychinebus ynghylch y terfyn cyflymder o 20 mya', y ddeiseb fwyaf yn hanes y Senedd, ac mae awdurdodau lleol Cymru wedi cael ceisiadau i filoedd o ffyrdd gael eu newid yn ôl o 20 mya i 30 mya.
“Cyrhaeddodd deiseb ar wahân, a lansiwyd ym Mwcle, sir y Fflint, ardal beilot 20 mya gogledd Cymru, bron i 86,000 o lofnodion
“Canfu arolwg o ddarllenwyr North Wales Live mai dim ond 12 y cant o'r ymatebwyr sy'n cefnogi cynlluniau Llafur i newid y terfyn cyflymder diofyn mewn ardaloedd preswyl i 20 mya, gydag 88 y cant yn gwrthwynebu'r cynlluniau.
“Pan ofynnwyd i'r bobl am eu barn am derfynau cyflymder diofyn 20 mya Llywodraeth Cymru ym mis Medi 2023, roedd y gwrthwynebiad yn 61%.
“Ddeufis yn ddiweddarach ym mis Rhagfyr 2023, canfu arolwg barn YouGov ITV Cymru fod y gwrthwynebiad wedi codi i 70%.
“Gyda bron flwyddyn wedi mynd heibio ers rhoi'r ddeddfwriaeth 20 mya ar waith yng Nghymru, dangosodd arolwg barn YouGov fis diwethaf fod saith o bob deg o Gymry yn dal i wrthwynebu hyn.”
Ychwanegodd:
“Ym mis Mehefin, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru Ddatganiad Ysgrifenedig lle dywedodd fod data newydd ar wrthdrawiadau ar y ffordd yn dangos bod nifer y rhai a anafwyd wedi gostwng ers cyflwyno'r terfynau cyflymder newydd o 20 mya ym mis Medi y llynedd.
“Yr hyn na ddywedodd oedd bod y data newydd a ddyfynnwyd ganddo ar gyfer tri mis olaf 2023, o'i gymharu â'r un cyfnod yn 2022, yn dangos, hyd yn oed gyda'r eithriadau cyfyngedig i'r terfynau diofyn o 20 mya a osodwyd gan awdurdodau lleol sy'n gweithredu yn unol â meini prawf eithriadau Llywodraeth Cymru, fod nifer y bobl a gafodd eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol ar ffyrdd 20 mya wedi codi 800 y cant, o lai na 5 y cant i 36 y cant o'r cyfanswm, tra bo'r nifer a gafodd eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol ar ffyrdd 30 mya wedi gostwng 88 y cant, o 49 y cant i ddim ond 5 y cant o'r cyfanswm, gyda nifer y beicwyr modur a beicwyr a gafodd eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol yn cynyddu.
“At hynny, roedd cyfanswm y rhai a anafwyd ar y ffyrdd wedi cynyddu dros 13 y cant.
“Er bod Llywodraeth Cymru wedi galw ffigurau diweddar yn dangos gostyngiad o 17 y cant yn nifer y bobl a gafodd eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol ar ffyrdd 20 mya a 30 mya yn y chwe mis cyntaf ar ôl i'r terfyn gael ei gyflwyno yn galonogol, ni wnaethant sôn bod y nifer a gafodd eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol ar ffyrdd 20 mya wedi codi o 4 y cant i 34 y cant o'r cyfanswm, er gwaethaf rhoi sicrwydd dro ar ôl tro y byddai ffyrdd 20 mya yn darparu hafan o ddiogelwch, tra bo'r nifer ar ffyrdd 30 mya wedi gostwng o 47 y cant i ddim ond 6 y cant o'r cyfanswm. Ac ni wnaethant sôn bod cyfanswm y bobl sy'n cael eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol ar ein ffyrdd wedi cynyddu 10 y cant.
“Cyn i'r terfyn diofyn o 20 mya ddod i rym, rhybuddiais y byddai newid o derfynau cyflymder 30 mya i derfynau 20 mya yn trosglwyddo cyfran y rhai sy’n cael eu hanafu ar y ffyrdd o'r naill i'r llall, gan symud gyrwyr, ac felly nifer y rhai sy’n cael eu hanafu ar y ffyrdd, i'r rhwydwaith ffyrdd ehangach, ac mae'r data hwn yn dangos bod hyn yn digwydd.