O ystyried y straeon arswyd rydym i gyd wedi'u clywed, rydym yn rhannu'r pryder am y mater y mae'r Bil arfaethedig hwn yn ceisio mynd i'r afael ag ef ac yn amlwg rydym yn cefnogi'r bwriad y tu ôl iddo. Fodd bynnag, mae cyfreithwyr y Senedd wedi cynghori y byddai Bil i reoleiddio asiantaethau gorfodi dyledion y tu hwnt i gymhwysedd deddfwriaethol y Senedd. Maent yn dweud bod hyn ar y sail fod gorfodi gorchmynion y llys yn fater a gedwir yn ôl. Mae cyfreithwyr y Senedd hefyd yn cynghori y byddai Bil i reoleiddio asiantaethau casglu dyledion hefyd yn debygol o fod y tu hwnt i gymhwysedd y Senedd. Maent yn dweud bod hyn ar y sail bod agweddau ar gasglu dyledion yn cael eu rheoleiddio gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol, ac felly yn debygol o ymwneud â gwasanaethau ariannol sy'n fater a gedwir yn ôl. Nodwyd hefyd y gallai'r Bil arfaethedig greu cyfyngiad cyffredinol i ryw raddau ar addasu cyfraith contract breifat mewn rhai amgylchiadau.
Y tu hwnt i hynny, mae'r manylion yn bwysig ac mae'n anodd asesu pan nad oes gennym ar hyn o bryd—nid beirniadaeth yw hon—ddim mwy na syniadau generig neu bynciau i'w trafod, er y caf fy nghynghori bod pwyntiau 2(a) a 2(c) yn ymddangos yn iawn yn y cynnig. Fodd bynnag, o ran 2(a), sy'n ceisio gosod dyletswydd ar ddarparwyr gwasanaethau cyhoeddus i ddefnyddio casglwyr dyledion sy'n cofrestru i god ymddygiad sy'n amddiffyn pobl fregus mewn argyfwng costau byw yn unig, mentraf ddweud bod angen inni amddiffyn pobl fregus bob amser. Ond o ran y cod ymddygiad, ychwanegodd cyfreithwyr y Senedd, er mwyn i hyn fod o fewn y cymhwysedd, byddai'n rhaid iddo fod yn god gwirfoddol ac na ellid ei orfodi gan y byddai hyn yn gyfystyr â rheoleiddio. Hynny yw, ni allai fod yn statudol. Felly, hoffwn pe gallai'r Aelod egluro sut y byddai'n sicrhau bod cod ymddygiad o'r fath o fewn cymhwysedd y Senedd, ac os bwriedir iddo fod yn wirfoddol yn unig, pa mor effeithiol neu ymarferol fyddai hynny. Er enghraifft, cyfeiriaf at y cod morgais a gyflwynwyd yn y 1990au, yn fy swydd flaenorol, a oedd yn galluogi'r union bobl a achosodd gwymp bancio 2008 yn y pen draw i gofrestru.
Dylid nodi hefyd ei bod eisoes yn ofyniad cyfreithiol i asiantaeth casglu dyledion gofrestru fel asiantaeth casglu dyledion sy'n gallu gweithredu'n gyfreithiol ac adennill dyled ar ran credydwr. Ar ben hynny, pan fyddant wedi cofrestru, rhaid iddynt ddilyn y canllawiau a nodwyd gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol, Gwasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol a'r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd, a gall pob un ohonynt oruchwylio'r busnesau hynny hefyd. Mae camau adfer y gellid eu hystyried yn aflonyddgar neu'n ymosodol ac nas caniateir eisoes yn cynnwys mynd i mewn i gartref dyledwr heb gydsyniad a phwyso ar ddyledwr i wneud taliadau na allant eu fforddio. Felly, mae'n ymddangos bod y broblem go iawn yn ymwneud â gorfodaeth, ac nid deddfwriaeth, na ellir ei gorfodi, i raddau helaeth, yn anffodus, fel y byddai'r Bil hwn yn ei chyflwyno.