Mewn cyflwyniad gan Alice Running a Danielle Jata-Hall ar eu hymchwil ar fai rhieni a phroffil awtistiaeth PDA, a gyhoeddwyd ym mis Chwefror, nodwyd bod cael y bai am rai agweddau ar anabledd eich plentyn gan weithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda'ch plentyn yn brofiad brawychus ac unig. Deilliodd eu hymchwil o brofiadau personol yr awduron a oedd wedi dioddef craffu anghymwys a'u beio gan eu hawdurdodau lleol mewn perthynas ag ymgyflwyniadau awtistig eu plant. Nid yw'r profiad hwn yn anghyffredin, gyda llawer o deuluoedd yn disgrifio eu profiadau a sut y cawsant eu beio am ymgyflwyniad neu ddiffyg cynnydd tybiedig eu plant awtistig. Mae teuluoedd â phlant awtistig yn ofni colli eu plant i'r system ofal, a gall y stigma sy'n gysylltiedig â'r ofn olygu bod ffynonellau cymorth yn anhygyrch.
Mae eu hadroddiad yn cyflwyno canfyddiadau arolwg o fwy na 1,016 o rieni a gofalwyr plant PDA. Nodau'r arolwg oedd archwilio pa mor gyffredin yw beio rhieni ymhlith teuluoedd â phlant PDA; nodi unrhyw batrymau sy'n gysylltiedig â phryd, sut a pham y daw beio rhieni i'r amlwg; darganfod a oes unrhyw fathau o rieni neu ofalwyr sy'n fwy agored i gael eu beio am ymgyflwyniad eu plentyn PDA; a dysgu sut mae hyn yn teimlo i rieni a gofalwyr. Dywedodd 88 y cant o rieni a gofalwyr a gwblhaodd yr arolwg eu bod wedi teimlo eu bod yn cael eu beio am ryw agwedd ar ymgyflwyniad neu ddiffyg cynnydd eu plentyn PDA. Dangosodd dadansoddiad yr awduron mai teuluoedd mamau sengl a/neu riant niwrowahanol sy'n wynebu'r risg fwyaf o fai ar ffurf diogelu. Mae'r adroddiad yn gorffen drwy restru'r newidiadau yr hoffai rhieni a gofalwyr eu gweld ac mae'n nodi'r angen am fwy o weithwyr proffesiynol awtistiaeth a PDA.
Mae'r awduron yn egluro mai beio rhieni yw'r hyn sy'n digwydd pan fo gweithiwr proffesiynol sy'n gweithio gyda theulu yn honni neu'n awgrymu bod y rhiant/gofalwr rywsut yn achosi ymgyflwyniad anabledd eu plentyn. Roeddent yn dweud y gall fod ar ffurf dibwyllo, trin rhywun drwy ddulliau seicolegol i amau eu pwyll eu hunain, gwneud yn fach o bethau a beirniadu mynych, codi pryderon diogelu anghymwys a beio iechyd meddwl rhiant—rhywbeth rwy'n clywed amdano yn fy ngwaith achos yn gyson. Maent yn disgrifio proffil awtistiaeth PDA fel un sy'n cael ei yrru gan yr angen am reolaeth annibynnol, oherwydd gorbryder, a gaiff ei arddangos drwy ymwrthod cyson â galwadau pob dydd. Gan fynegi pryderon ynglŷn â diffyg cydnabyddiaeth i'r proffil PDA a dealltwriaeth ohono, roeddent yn dweud bod hyn yn effeithio ar y cymorth y mae teuluoedd yn ei gael ac yn arwain at rieni'n wynebu craffu mewn perthynas â diogelu plant. Roedd themâu cyffredin yn cynnwys gweithwyr proffesiynol yn dweud wrth rieni mai eu rhianta neu eu hiechyd meddwl sy'n achosi ymgyflwyniad awtistig eu plentyn—agweddau o'r Oesoedd Tywyll. Mae 11 y cant o'r ymatebwyr wedi bod yn destun gweithdrefnau diogelu ffurfiol, a nodai mai'r rhieni oedd ar fai am ymgyflwyniad y plentyn. Roedd bron i 60 y cant yn famau sengl, ac roedd bron i 80 y cant yn rhieni niwrowahanol.
Pan ofynnwyd iddynt pa newidiadau yr hoffent eu gweld, galwodd rhieni/gofalwyr am well hyfforddiant i weithwyr proffesiynol ynghylch proffiliau awtistiaeth osgoi galw, cymorth i rieni ddeall eu hawliau cyfreithiol a chydnabod proffil PDA ledled y DU. Daw eu hadroddiad i'r casgliad:
'Mewn sefyllfaoedd lle mae rhiant/gofalwyr yn cael y bai am ymgyflwyniad eu plentyn awtistig/PDA, y plentyn sy'n dioddef yn y pen draw.
'Gall systemau cymorth ar gyfer plant awtistig/PDA greu problemau iechyd meddwl i'r rhiant/gofalwr.
'Mae rhai mathau o rieni/gofalwyr yn fwy agored i'r math mwyaf eithafol o feio rhieni—diogelu plant.
'Yn ddealladwy, mae rhieni niwrowahanol yn ofni datgelu eu math o niwrowahaniaeth i weithwyr proffesiynol sy'n cefnogi.'
Ac, 'Mae angen', fel y dywedais,
'am weithwyr proffesiynol sy'n deall awtistiaeth/PDA yn well.'
Rhannodd mam niwrowahanol o sir y Fflint ei phrofiad ei hun o fai rhieni. Wrth nodi pwysigrwydd hyfforddiant, tynnodd sylw at achos Paula McGowan OBE, a ymgyrchodd yn llwyddiannus am hyfforddiant awtistiaeth gorfodol yn y GIG yn Lloegr yn dilyn methiannau a arweiniodd at farwolaeth ei mab Oliver. Mae fy ngwaith achos i hefyd yn cadarnhau'r angen dybryd am hyfforddiant gorfodol ar niwrowahaniaeth nid yn unig i staff GIG Cymru, ond hefyd yn ein hysgolion a'n hadrannau gwasanaethau cymdeithasol, gan gefnogi'r ymgyrch Neurodiversity Unmasked dan arweiniad Clare-Anna Mitchell mewn perthynas â staff addysg—y mae Llywodraeth Cymru wedi ei gwrthod hyd yma, yn anffodus—ac ymchwil gan Gymdeithas Gweithwyr Cymdeithasol Prydain, y gymdeithas broffesiynol ar gyfer gwaith cymdeithasol a gweithwyr cymdeithasol, a gyhoeddwyd y llynedd yn y British Journal of Social Work. Canfu fod nifer cynyddol o deuluoedd plant ag ymgyflwyniadau niwroddatblygiadol fel awtistiaeth yn destun archwiliad salwch wedi'i ffugio neu ei achosi gan eraill, FII, a arferai gael ei alw'n Munchausen's, gan y gwasanaethau cymdeithasol ac o ganlyniad wedi'u labelu fel cyflawnwyr cam-drin plant posibl, gyda'r teuluoedd hyn wedyn yn cael eu tynnu i mewn i'r system amddiffyn plant ac yn nodi trawma o ganlyniad i hynny. Roeddwn i'n meddwl bod trin pobl awtistig yn y ffordd hon yn rhywbeth a oedd wedi dod i ben gyda'r Oesoedd Tywyll.
Yng nghyfarfod trawsbleidiol y grŵp awtistiaeth ym mis Ebrill, clywsom hefyd gan Lavinia Dowling, ymgynghorydd nyrsio arbenigol iechyd meddwl ac awtistiaeth, a roddodd gyflwyniad ar ei hastudiaeth o iechyd meddwl, awtistiaeth a'r proffil PDA. Mae hi'n sylfaenydd a chyfarwyddwr cwmni buddiannau cymunedol sy'n arbenigo mewn cymorth iechyd meddwl, ac mae wedi gweithio fel clinigydd ers 25 mlynedd. Dywedodd wrth y cyfarfod nad yw canllawiau'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal—ac rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog neu'r Dirprwy Weinidog yn dweud hyn wrthym—yn cydnabod PDA. Dywedodd nad yw 70 y cant o blant a phobl ifanc â PDA yn gallu mynychu addysg prif ffrwd, a bod llawer o rieni yn cael eu cyhuddo o ffugio neu achosi salwch, fod ysgolion yn aml yn methu adnabod awtistiaeth neu'n honni nad yw PDA yn bodoli, ac nad oes digon o wybodaeth am awtistiaeth gan wasanaethau iechyd meddwl plant a phobl ifanc ac nad ydynt yn cydnabod PDA. Gan ddefnyddio dynwared cyswllt llygaid fel enghraifft, dywedodd fod sgrinio'n aml yn ymarfer blwch ticio, ac nad oedd gweithwyr proffesiynol yn deall nodweddion awtistig yn iawn. Nododd fod anhwylder herio gwrthryfelgar, ODD, sy'n gysylltiedig ag anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd, yn cael ei gydnabod, yn wahanol i PDA, ac eto mae ymgyflwyniadau ODD yn debyg i PDA oherwydd bod y ddau gyflwr yn cynnwys gorbryder llesteiriol. Wrth gloi, mynegodd bryderon am restrau aros hir ac adnoddau cyfyngedig, a galwodd am ymagwedd fwy ataliol a rhagweithiol.
Ar y pwynt hwn, dylwn nodi bod clinigwyr ac academyddion sydd ag arbenigedd go iawn yn y maes wedi dweud wrthyf nad ydynt bellach yn derbyn y term 'patholegol' yn y cyd-destun hwn, lle nad yw'n rhywbeth sy'n cynnwys nac yn cael ei achosi gan glefyd corfforol neu feddyliol—mae pobl yn cael eu geni gyda hyn—nad yw osgoi galw patholegol yn label diagnostig annibynnol, ac os yw'r clinigydd yn arsylwi ar nodweddion PDA drwy gydol yr asesiad, efallai y byddant, er enghraifft, yn geirio'r diagnosis fel 'anhwylder ar y sbectrwm awtistiaeth gyda phroffil osgoi galw'. Mae'r methiant i ddeall cyflyrau'r sbectrwm awtistiaeth—heb sôn am y rhai sydd â phroffiliau osgoi galw—yn caniatáu i uwch swyddogion cyhoeddus arteithio teuluoedd yr effeithir arnynt i bob pwrpas, gan ei gadael i bobl fel ni i godi'r darnau ar eu rhan. Ysgrifennodd mam o Wrecsam:
'Mae gennym fab awtistig 15 oed â datganiad, sy'n ddeallus, yn yr ysgol brif ffrwd ac sydd â math o awtistiaeth o'r enw syndrom osgoi galw patholegol, syndrom y gwnaethom addysgu'r ysgol a'r AALl yn ei gylch. Mae'n cael ei yrru gan orbryder, ac mae angen iddo gael dewis a bod mewn rheolaeth. Fe gei lanhau dy ddannedd i fyny'r grisiau neu i lawr grisiau, brwsh dannedd trydan neu â llaw: dy ddewis di, mae'n dewis, mae'n cael ei wneud. Pe bawn i'n dweud, "Mae angen i ti lanhau dy ddannedd," dim gobaith. Mae angen eu trin yn wahanol i gyflyrau eraill ar y sbectrwm awtistiaeth. Gallant ganolbwyntio'n dda ac mae ein mab yn ddysgwr brwd sydd ond eisiau bod yn y dosbarth, a chael ei ddysgu gyda'i ffrindiau.'
Ychwanegodd,
'Fodd bynnag, mae staff yr uned anghenion dysgu ychwanegol sydd i fod i gefnogi ein mab blwyddyn 11 yn gwneud y gwrthwyneb yn llwyr.'
Mae eu tribiwnlys addysg fis nesaf. Fe wnaeth mam o sir y Fflint y mae gan ei mab PDA a mudandod dethol fy nghopïo i mewn i'w llythyr at gyngor sir y Fflint, a oedd yn cynnwys hyn:
'Rydych chi'n datgan bod penderfyniadau wedi'u gwneud ar sail safbwyntiau, gan gynnwys safbwyntiau rhiant a disgybl, ac mae'n amlwg nad yw hynny'n wir.'
Yn yr achos hwn, i fod yn deg, fe wnaeth y cyngor gytuno i osod eu mab yn ei ysgol ddewisol, ond cymerodd hyn dri mis o bwyso.
Fe wnaeth mam niwrowahanol o sir y Fflint y cafodd ei phlant eu gosod mewn gofal ar ôl iddi gael ei chofnodi fel rhywun yn dioddef o salwch meddwl a oedd yn ffugio afiechydon, er bod ei phlant yn dangos tystiolaeth o ymddygiadau a oedd yn gyson â phlant ag awtistiaeth, PDA ac ADHD, ysgrifennu y gallai ddweud yn bendant
'nad oes unrhyw blentyn neu deulu niwrowahanol yn sir y Fflint yn ddiogel nac wedi'i eithrio rhag y lefel hon o niwed sy'n cael ei wneud i'n plant ac i ninnau fel teuluoedd niwrowahanol, ac mae'n mynd i barhau felly hyd nes y ceir atebolrwydd.'
Ysgrifennodd mam arall o sir y Fflint y mae ei merch wedi cael diagnosis yn cynnwys awtistiaeth gyda phroffil PDA ac ADHD, ac sydd ei hun wedi cael diagnosis yn cynnwys awtistiaeth, ADHD a PTSD:
'Ymddengys mai diwylliant sir y Fflint yw bwlio, erledigaeth a chelu pryderon diogelu difrifol a bygythiadau i symud plant er mwyn gagio'r rhieni sy'n cwyno. Yn fy achos i, cefais fy nghyfeirio'n amhriodol gan y cyngor am asesiad o ffugio neu achosi salwch. Rwy'n ofni nawr y bydd fy merch yn cael ei symud o fy ngofal. Mae a wnelo hyn â mwy nag achosion unigol yn unig'
meddai, 'o dargedu unigolion niwrowahanol.'
Felly, i gloi, gofynnaf i'r Dirprwy Weinidog ymateb i gais yr etholwr dan sylw am gyfarfod wyneb yn wyneb â hi ac eraill y gallent ddod â'r cofnodion allweddol iddo fel tystiolaeth i chi ei gweld.