Heddiw, bu’r Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, Mark Isherwood yn siarad mewn digwyddiad yn y Gogledd i ddathlu ‘Rhaglen Buddsoddi Lleol’ yr Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau, sy’n adeiladu ar gryfderau, sgiliau a doniau unigolion, grwpiau a sefydliadau mewn 13 cymuned ledled Cymru, yn cynnwys tair yn y Gogledd (Maesgeirchen, Bangor, Plas Madoc, Wrecsam, a Bae Colwyn).
Mae’r rhaglen ddeng mlynedd hon, sydd wedi’i hariannu drwy waddol Loteri, yn darparu cyllid a chymorth i’r cymunedau, gan roi cyfle i bawb sy’n byw ynddynt wneud eu hardal yn lle hyd yn oed yn well i fyw drwy wario ar flaenoriaethau lleol.
Yn y digwyddiad ‘Dathlu a Gwerthuso Saith Mlynedd o’r Rhaglen Buddsoddi Lleol’, siaradodd Mr Isherwood am ddwy o’r rhaglenni yn y Gogledd, Bae Colwyn a Phlas Madoc, Wrecsam, a chanmol yr hyrwyddwyr cymunedol gwych sy’n gweithio yn yr holl ardaloedd Buddsoddi Lleol, 13 ohonynt i gyd.
Soniodd hefyd am yr heriau maent wedi’u hwynebu.
Meddai:
“Mae’r rhaglen Buddsoddi Lleol yn adeiladu ar gryfderau, sgiliau a doniau unigolion, grwpiau a sefydliadau yn y cymunedau hynny i greu newid cadarnhaol hirsefydlog.
“Mae pob cymuned yn penderfynu sut maent am i’w hardaloedd ddatblygu, sut y bydd yr arian yn cael ei wario, pa sefydliadau maen nhw am weithio gyda nhw, a sut y bydd penderfyniadau’n cael eu gwneud.
“Mae hyn yn ymwneud â gwella cydlyniant cymunedau a rhoi cyfle i gymunedau gymryd yr awenau wrth siapio’r ardal maen nhw’n byw ynddi.”
Dywedodd fod llawer o’r ardaloedd yn meddwl yn awr am beth fydd yn digwydd ar ôl i’r Rhaglen Buddsoddi Lleol ddod i ben, a bod gwerthusiad llawn o’r rhaglen, o dan y teitl Weathering the Storm, wedi tynnu sylw at y risg na fydd gwaith cymunedol yn gynaliadwy wedi hynny.
Meddai:
“Canfu’r gwerthusiad, yn fwy eang, eu bod yn cydnabod dibyniaeth y rhaglen ar grwpiau cymharol fach o wirfoddolwyr, a bod y niferoedd wedi amrywio.
“Fodd bynnag, mae entrepreneuriaeth gymdeithasol a’r dull rhagweithiol o gyllido’r dyfodol a ddangoswyd gan y bobl rwyf wedi’u cyfarfod wrth ymweld â Chymunedau Buddsoddi Lleol wedi gwneud argraff arna i.”
“Yn gynharach yn yr haf, ymwelais â “Together for Colwyn Bay”, sy’n cael ei gefnogi gan raglen Buddsoddi Lleol yr Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau.
“Yn ystod fy ymweliad trafodwyd eu cynlluniau i gefnogi’r gwaith sydd ei angen i ddechrau adfywio canol y dref a darparu mwy o gyfleoedd i bobl leol drwy ddatblygu canolfan gymunedol.
“Un o’r problemau y tynnwyd sylw atynt oedd bod llawer o eiddo masnachol yn wag, er gwaethaf y diddordeb lleol yn eu prydlesu neu eu prynu, ac y gallent ddadfeilio, a theimladau ymddangosiadol amwys landlordiaid am y sefyllfa hon.
“Gwelais adeilad cyfagos hefyd lle’r oedd perchnogion wedi trosglwyddo perchnogaeth i gwmnïau eraill o dan yr un rheolaeth i “ailddechrau’r cloc” i bob pwrpas ar drefniadau ar gyfer prynu gorfodol tra bod yr adeilad yn dirywio.
“Ysgrifennais at y Gweinidog Newid Hinsawdd am hyn wedyn.
“Yn ei hymateb, dywedodd y Gweinidog “Byddai swyddogion yn croesawu’r cyfle i gyfarfod â T4CB a’r Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau i drafod adfywio canol tref Bae Colwyn a chamau gweithredu wrth symud ymlaen”.
“Ym mis Hydref, ymwelais â’r rhaglen Buddsoddi Lleol ym Mhlas Madoc hefyd, am gyfarfod llawn gwybodaeth gyda ‘We Are Plas Madoc’, trigolion lleol, yr Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau a Rheolwr Adran Chwarae AVOW a Rheolwr Datblygu Cymunedol Plas Madoc.
“Yn ystod fy ymweliad, creodd yr hyrwyddwyr cymunedol a’r amrywiaeth eang o wasanaethau allweddol maent yn eu darparu i bobl o bob oedran yn eu cymuned gryn argraff arna i.
“Fodd bynnag, er eu bod yn ceisio cynnal a datblygu eu gwasanaethau, gan leihau pwysau adnoddau ymhellach ar yr Awdurdod Lleol, testun pryder oedd gweld mai hen gynhwysydd oedd eu hunig safle “hyb cymunedol”.
“Er eu bod yn darparu amrywiaeth o wasanaethau oddi yno, yn cynnwys bwyd fforddiadwy, llesiant a chyfeillio, sgiliau a gweithgareddau, a darpariaeth i ieuenctid, yn ogystal â hyb cynnes pan fo’r tywydd yn oer, dim ond lle diogel i chwe pherson sydd yn y cynhwysydd, does dim toiledau yno, ac mae’n oer yn y gaeaf.
“Ers hyn rwyf wedi ysgrifennu at Brif Weithredwr Cyngor Wrecsam ynghylch y sefyllfa gan ddweud “eu bod angen adeilad newydd felly er mwyn cynnal a datblygu eu darpariaeth gwasanaethau hanfodol, gan weithio gyda’r gymuned ac ochr yn ochr â’r Awdurdod Lleol wrth iddynt leihau’r pwysau ymhellach ar wasanaethau Awdurdod Lleol”, ac rwy’n disgwyl am ateb ganddo.
Daeth Mr Isherwood â’i anerchiad i ben drwy longyfarch yr Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau ar ei gwaith a chanmol “yr hyrwyddwyr cymunedol gwych sy’n gweithio yn yr 13 ardal Buddsoddi Lleol, yn cynnwys tair yn y Gogledd, am y cyfan rydych chi’n ei wneud”.