Gydag elusennau a sefydliadau'r trydydd sector yn wynebu pwysau newydd oherwydd cynnydd mewn cyfraniadau Yswiriant Gwladol, mae AS Gogledd Cymru, Mark Isherwood, wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ddiogelu'r gwasanaethau allweddol y maen nhw’n eu darparu.
Wrth holi Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip yng nghyfarfod y Senedd heddiw, pwysleisiodd Mr Isherwood y bydd y cynnydd sylweddol mewn Yswiriant Gwladol a gyhoeddwyd yng Nghyllideb Hydref Llywodraeth y DU yn effeithio ar ddarparu gwasanaethau elusennau a gofynnodd beth sy'n cael ei wneud gan Lywodraeth Cymru i liniaru hyn.
Meddai:
“Mae'r elusen gofal canser, Gofal Canser Tenovus, wedi galw'r cynnydd mewn cyfraniadau yswiriant gwladol yn 'ddinistriol' ac yn annog Gweinidogion Cymru i liniaru'r effaith.
Dywedodd Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru fod hon 'yn gost newydd sylweddol na fydd llawer o fudiadau yn gallu ei thalu heb iddi gael effaith gyfatebol ar y gwasanaethau a ddarperir ganddynt.'
“Mae hosibau yng Nghymru yn gorfod ystyried toriadau sylweddol a fyddai'n gadael bylchau enfawr yn y ddarpariaeth i'r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu, bylchau na fydd y byrddau iechyd yn gallu eu llenwi.
“Dywedodd yr elusen iechyd meddwl a dibyniaeth Adferiad wrthyf y bydd hyn yn costio £600,000 y flwyddyn iddynt, a heb fesurau lliniarol, bydd yn rhaid iddynt ddiswyddo staff a lleihau gwasanaethau.
“Dywed Shelter Cymru y bydd hyn yn cynyddu costau cymorth tai a darparwyr atal digartrefedd £117,000 yn ystod y chwe mis cyntaf yn unig.
“Fe ddywedoch chi wrthyf yn flaenorol eich bod yn ymgysylltu â phartneriaid yn y trydydd sector ar hyn o bryd i asesu anghenion cyllidebol yn dilyn cyllideb yr hydref Llywodraeth y DU. Felly, pa asesiad a wnaethoch o'r effaith os yw'r gwasanaethau hanfodol hyn yn cael eu colli, a sut y bwriadwch liniaru hyn ac atal pwysau costau uwch ar wasanaethau cyhoeddus?”
Yn ei hymateb dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet:
“Rydym yn ymwybodol o effaith y cynnydd yng nghyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr. Bydd peth ohono, fel y gwyddoch, yn cael ei wrthbwyso'n llawn neu'n rhannol gan y lwfans cyflogwr uwch, a buaswn yn disgwyl i unrhyw gyllid ychwanegol ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus fod o fudd i'r trydydd sector a'r gwasanaethau y maent yn eu darparu i bobl a chymunedau ledled Cymru.”