Wrth siarad yng nghyfarfod y Senedd heddiw, tynnodd AS Gogledd Cymru, Mark Isherwood, sylw at y pwysau ariannol sy'n wynebu plant a phobl ifanc â chanser a'u teuluoedd, a gofynnodd i Lywodraeth Cymru pa gamau y mae'n eu cymryd i sicrhau y gallant fforddio teithio ar gyfer eu triniaeth arbenigol.
Yn natganiad busnes y prynhawn yma, cyfeiriodd Mr Isherwood at adroddiad sy'n dangos bod plant a phobl ifanc â chanser yng Nghymru, a'u teuluoedd, yn gwario mwy na chyfartaledd y DU yn teithio am eu triniaeth. Galwodd ar Lywodraeth Cymru i sicrhau eu bod yn cael y cymorth ariannol sydd ei angen arnyn nhw, er enghraifft, drwy gyflwynoCronfa Teithio i Gleifion Canser Ifanc.
Gan alw am Ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar gymorth i blant a phobl ifanc â chanser a'u teuluoedd yng Nghymru, dywedodd:
“Mae ymchwil 'Running on Empty' Young Lives vs Cancer wedi canfod bod plant a phobl ifanc â chanser a'u teuluoedd yng Nghymru yn gwario £280 y mis ar gyfartaledd, sy'n uwch na chyfartaledd y DU, yn teithio i gael eu triniaeth canser arbenigol, a dim ond 12 y cant sy'n cael cymorth ariannol i dalu'r costau hyn.
“Mae angen i ni wybod pa gamau uniongyrchol y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod pobl ifanc â chanser a'u teuluoedd yn gallu fforddio teithio i'w triniaeth, megis cyflwyno cronfa deithio i gleifion ifanc â chanser. Rwy'n galw am ddatganiad gan yr Ysgrifennydd Cabinet yn unol â hynny.”
Wrth ymateb, dywedodd Jane Hutt AS, y Trefnydd:
“Rydym am gael y ddarpariaeth a'r gwasanaethau gorau a'r mynediad gorau at driniaeth canser i blant a'u teuluoedd yng Nghymru. Wrth gwrs, mae ein rhwydweithiau clinigol yn hanfodol i gyflawni hynny, ond hefyd yr arbenigeddau sy'n cael eu darparu i gefnogi plant â chanser yn ein hysbyty plant, ac, yn wir, o ran y gogledd, y ddarpariaeth, wrth gwrs, yn Lloegr, sy'n hanfodol bwysig ac sydd wastad wedi'i rhwydweithio ar gyfer cleifion yn y gogledd.”