Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • Cefndir Mark Isherwood
  • Newyddion
  • Cysylltu
  • ENG
  • Senedd Cymru
Site logo

Galw am weithredu ar frys i helpu'r rhai sy'n byw mewn tlodi tanwydd

  • Tweet
Dydd Mawrth, 26 Tachwedd, 2024
  • Local News
Galw am weithredu ar frys i helpu'r rhai sy'n byw mewn tlodi tanwydd

Cyn Diwrnod Ymwybyddiaeth o Dlodi Tanwydd, mae Mark Isherwood AS Gogledd Cymru a Chadeirydd Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar Dlodi Tanwydd ac Effeithlonrwydd Ynni, wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gynyddu buddsoddiad yn ei Rhaglen Cartrefi Clyd.

Wrth siarad yn natganiad busnes y prynhawn yma, dywedodd Mr Isherwood, bod angen gwella effeithlonrwydd ynni cartrefi sydd mewn tlodi tanwydd, ar fyrder.

Wrth godi'r mater dan sylw a galw am Ddatganiad Llywodraeth Cymru ar daclo tlodi tanwydd yng Nghymru, dywedodd:

“Fory yw Diwrnod Cenedlaethol Ymwybyddiaeth o Dlodi Tanwydd, ac fel Cadeirydd Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar Dlodi Tanwydd ac Effeithlonrwydd Ynni, rwy’n falch o’i gefnogi. Yng Nghymru, amcangyfrifir bod hyd at 98% o aelwydydd incwm isel yn byw mewn tlodi tanwydd. Gyda phrisiau ynni i barhau'n uchel gydol y gaeaf - ymhell uwchlaw lefelau cyn yr argyfwng - bydd sawl aelwyd yn ei chael hi'n anodd cadw'n gynnes ac yn iach. Mae angen gwella effeithlonrwydd ynni cartrefi sy'n dlawd o ran tanwydd yng Nghymru ar frys, gyda biliau ynni sy'n isel yn barhaol.

“Yng nghyfarfod ar y cyd y Grŵp Trawsbleidiol ar Dlodi Tanwydd ac Effeithlonrwydd Ynni a'r Grŵp Trawsbleidiol ar Dai yr wythnos diwethaf, roedd y drafodaeth yn cynnwys Rhaglen Cartrefi Clyd Llywodraeth Cymru. Mae angen cynyddu ei fuddsoddiad yn sylweddol, oherwydd nid yw'n ddigonol ar hyn o bryd i fynd i'r afael â maint yr her yng Nghymru, gyda chyfle i ddefnyddio symiau canlyniadol Cynllun Cartrefi Clyd Llywodraeth y DU i helpu i wneud hyn. Rwy'n galw am Ddatganiad Llywodraeth Cymru ar y mater hwn.”

Wrth ymateb, dywedodd y Trefnydd (Arweinydd y Tŷ ac aelod o Lywodraeth Cymru:

“O ran y rhaglen Cartrefi Clyd, mae'n rhywbeth sy'n mynd i wneud byd o wahaniaeth i fywydau pobl, ac mae hynny’n wir yn barod. Mae'n gynllun a lansiwyd ar 1 Ebrill, ac rydym wedi buddsoddi £30 miliwn yn fwy i leihau nifer yr aelwydydd incwm isel sy'n byw mewn cartrefi oer, llaith.

“Hefyd, credaf ei bod hi'n bwysig cydnabod bod hyn yn cyfrannu at gyflawni Cymru sero-net erbyn 2050, gan alluogi trosglwyddiad cyfiawn. Mae gennym becyn o fesurau i inswleiddio a datgarboneiddio cartrefi, gan arwain at filiau ynni is, er mwyn symud teuluoedd ac aelwydydd allan o dlodi tanwydd.”

Ychwanegodd Mr Isherwood:

“Yn anffodus mae hi wedi methu â thrafod y cyfle i ddefnyddio'r cyllid y bydd Llywodraeth Cymru yn ei dderbyn o ganlyniad i Gynllun Cartrefi Clyd Llywodraeth y DU er mwyn helpu i fynd i'r afael â maint yr her yng Nghymru”.

You may also be interested in

Mark Isherwood AS: Mwy o Angen am Gymdeithas Cynhwysol o Anabledd yng Nghymru

Mark Isherwood AS: Mwy o Angen am Gymdeithas Cynhwysol o Anabledd yng Nghymru

Dydd Mercher, 3 Rhagfyr, 2025
Mae AS Gogledd Cymru a Chadeirydd Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar Anabledd, Mark Isherwood, wedi galw unwaith eto ar Lywodraeth Cymru i amlinellu pryd y bydd yn ymyrryd i atal camdriniaeth pobl anabl.Wrth ymateb i Ddatganiad ddoe gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r

Show only

  • Local News
  • Newsletters
  • Senedd News
  • Speeches

Mark Isherwood AS

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • Cefndir Mark Isherwood
Welsh ParliamentHyrwyddir gan Mark Isherwood.

Nid yw Senedd Cymru, neu Mark Isherwood yn gyfrifol am gynnwys cysylltiadau allanol neu wefannau. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus.

Hawlfraint 2025 Mark Isherwood AS . Cedwir pob hawl.
Powered by Bluetree