Mae Cwnsler Cyffredinol yr Wrthblaid a’r AS dros Ogledd Cymru, Mark Isherwood, wedi galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod hysbysiadau cyhoeddus yn hygyrch i bawb.
Wrth holi'r Cwnsler Cyffredinol yng nghyfarfod y Senedd ddoe, dywedodd Mr Isherwood bod "darparu gwybodaeth drwy ddulliau ysgrifenedig yn bwysig i lawer o bobl".
Mynegodd bryderon hefyd y gallai'r Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru) ar ei ffurf bresennol effeithio'n negyddol ar bobl hŷn a phobl anabl.
Meddai:
“Mae’ch cyfrifoldebau fel Cwnsler Cyffredinol yn cynnwys y ddarpariaeth o raglenni deddfwriaethol yn ogystal â chyflawni swyddogaethau eraill er mwyn y cyhoedd.
"Mae Datganiad Barn yn galw ar Lywodraeth Cymru i gadw'r ddyletswydd ddeddfwriaethol i argraffu hysbysiadau’r dreth gyngor mewn papurau newydd lleol, a gyflwynwyd gan Mike Hedges AS, wedi cael cefnogaeth drawsbleidiol. Mae hyn yn cydnabod bod 'darparu gwybodaeth drwy ddulliau ysgrifenedig yn bwysig i lawer o bobl'.
"Pa drafodaethau a gawsoch chi felly gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa'r Cabinet ynghylch y gwelliant Cam 3 i'r Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru) a gyflwynir gan Peter Fox AS ar 9 Gorffennaf i gadw'r ddyletswydd hanfodol hon, sy’n cydnabod, fel y dywed y sector cyfryngau (Cymdeithas Cyfryngau Newyddion) wrthym ni, pe bai’r Bil yn cael ei basio yn ei ffurf bresennol, y gallai ddechrau achosi glastwreiddio gofynion statudol hanfodol eraill ar gyfer ystod eang o Hysbysiadau Cyhoeddus, yn ogystal â chreu loteri cod post o ran cyfraddau anghyson o dryloywder ledled Cymru - materion a fyddai'n dod o fewn eich cylch gwaith?"
Wrth ymateb, dywedodd y Cwnsler Cyffredinol:
“Mae’r mater ynghylch hysbysiadau cyhoeddus, wrth gwrs, yn fater pwysig. Rydyn ni’n byw mewn oes o dechnoleg fodern ac mae yna sawl ffordd o wneud hysbysiadau mewn gwirionedd, felly mae hi'n gwbl gywir a phriodol bod adolygiadau o ran sut gellir rhoi gwybodaeth ynglŷn â materion o'r fath mewn ffordd sy’n hygyrch i'r cyhoedd. Nid yw hwnnw’n fater y gofynnwyd i mi roi cyngor arno; mater yw hwn yr ymdrinnir ag ef yn iawn gan yr Ysgrifennydd Cabinet priodol y gwnaethoch chi gyfeirio ati hi.”
Ychwanegodd Mr Isherwood:
"Rwy'n gofidio na ofynnwyd i chi roi cyngor, yn enwedig ynglŷn â’r yr effaith y gallai hyn ei chael ar y rhai sydd wedi'u hallgáu'n ddigidol, yn enwedig pobl hŷn a phobl anabl."