Mae Mark Isherwood, AS dros y Gogledd a Chadeirydd Grwpiau Trawsbleidiol y Senedd ar Awtistiaeth ac ar Anabledd, wedi rhannu pryderon yn y Senedd bod nifer o oedolion ifanc anabl yn Wrecsam a Sir y Fflint wedi cael eu gwrthod am lefydd wedi’u hariannu mewn coleg preswyl yn y Coleg agosaf sy’n addas ar gyfer eu hanghenion.
Gyda Colegau Cymru yn dweud er bod 12.3% o ddysgwyr mewn sefydliadau Addysg Bellach wedi dweud bod ganddyn nhw ‘anabledd’, roedd y gyfran hon wedi gostwng dros y tair blynedd diwethaf, a galwodd Mr Isherwood am Ddatganiad gan Lywodraeth Cymru yn ddiweddar ar ôl i nifer o rieni o Wrecsam a Sir y Fflint gysylltu ag ef yn sgil gwrthod lle wedi’i ariannu i’w plant sy'n oedolion ifanc anabl mewn coleg preswyl yn y Coleg agosaf sy’n addas ar gyfer eu hanghenion.
Meddai:
“Rwy'n galw am Ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar y gwerth cymdeithasol a ddarperir gan y Sector Addysg Bellach. Mae’r adroddiad 'Dangos Gwerth Cymdeithasol Colegau Addysg Bellach yng Nghymru' a gyhoeddodd Colegau Cymru ym mis Ebrill, yn dweud er bod 12.3 y cant o ddysgwyr mewn sefydliadau addysg bellach wedi dweud bod ganddyn nhw ‘anabledd’, mae'r gyfran hon wedi gostwng ‘dros y tair blynedd diwethaf, ac mae’n tynnu sylw at bwysigrwydd sicrhau amgylchedd cynhwysol i bob oedolyn, gan gynnwys y rhai ag anabledd. Fodd bynnag, mae nifer o rieni Wrecsam a Sir y Fflint wedi cysylltu â mi, y mae eu plant sy'n oedolion ifanc anabl, gydag Awtistiaeth, Parlys yr Ymennydd a Syndrom Down, i gyd wedi cael eu gwrthod am leoedd coleg preswyl wedi'u hariannu yn y coleg addas agosaf ar gyfer eu hanghenion, ychydig dros y ffin yn Gobowen, yn eu Hapeliadau cam 2. Rwy'n galw am ddatganiad yn unol â hynny.”
Yn ei hymateb, dywedodd y Rheolwr Busnes Jane Hutt AS “Mae'n rhywbeth rydyn ni'n edrych arno'n gyson o ran ein Tasglu Hawliau Anabledd, er enghraifft, y grŵp addysg sy'n cynnwys ac yn gweithio gyda phobl a dysgwyr anabl.”
Ychwanegodd:
“Felly, rwy'n siŵr y bydd hynny'n rhywbeth a fydd yn cael ei adlewyrchu nid yn unig yn y Tasglu a'r adroddiad Hawliau Anabledd, ond hefyd yn y gwaith sy'n cael ei gefnogi gan yr Ysgrifennydd Addysg.”