Heddiw, gofynnodd yr Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, Mark Isherwood, i’r Gweinidog Cyllid pa gamau mae’n eu cymryd i sicrhau bod cyllid yn cael ei ddarparu i ddiogelu Cymunedau Sir y Fflint a gafodd eu heffeithio gan Storm Babet fis Hydref rhag llifogydd yn y dyfodol.
Fis diwethaf, gofynnodd Mr Isherwood i’r Gweinidog pam nad yw Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi unrhyw gyllid ychwanegol i helpu cymunedau a gafodd eu heffeithio gan lifogydd yn sgil y storm.
Gofynnodd hefyd i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru pa drafodaethau mae wedi’u cael gyda’r Gweinidog Newid Hinsawdd ynghylch “pa mor amserol a buan y bydd Llywodraeth Cymru’n ymateb i geisiadau, ac a oes digon o arian ar gael ar eu cyfer?”
Cododd y mater eto yng nghyfarfod Senedd Cymru heddiw.
Dywedodd:
“Wrth eich cwestiynu yma fis diwethaf ar yr un mater cyfeiriais at ddatganiad gan Swyddog o Gyngor Sir y Fflint yn y cyfarfod cyhoeddus am lifogydd Brychdyn 11 diwrnod ynghynt, y byddent yn cyflwyno ceisiadau i Lywodraeth Cymru am waith a nodwyd gan Ymchwiliad Llifogydd Adran 19 yr oeddynt yn ei lansio gydag asiantaethau eraill yn awr ar ôl i eiddo ym Mrychdyn a Bretton ddioddef llifogydd eto.
“Gofynnais i chi pa obaith sydd gan geisiadau o’r fath i lwyddo, o gael eu drafftio’n briodol, eu rhoi at ei gilydd yn iawn gyda thystiolaeth briodol gan ystyried yr adnoddau sydd ar gael. Fe ateboch chi, fel y gwnaethoch nawr, ‘y byddai’n gwestiwn mwy priodol i’r Gweinidog Newid Hinsawdd’.
“Mewn gohebiaeth ddilynol, dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd wrthyf fod ei swyddogion mewn cysylltiad rheolaidd â swyddogion perygl llifogydd yng Nghyngor Sir y Fflint i ddarparu cyngor ac arweiniad ar geisiadau am gyllid gan Lywodraeth Cymru a byddant yn ystyried unrhyw achosion busnes a gyflwynir gan yr Awdurdod Lleol. Wel, o ystyried eich cyfrifoldeb cyffredinol am y Gyllideb, pa drafodaeth ddilynol ydych wedi’i chael felly gyda’r Gweinidog Newid Hinsawdd, ers fy nghwestiwn fis diwethaf, am ddarpariaeth cyllid yn ei Chyllideb i ddiwallu’r anghenion hyn?”
Yn ei hymateb, dywedodd y Gweinidog: “mae hwn yn fater i’r Gweinidog Newid Hinsawdd. Bydd unrhyw gyllid yn dod trwy ei chyllideb hi a thrwy’r cynlluniau a sefydlwyd ganddi, y gall awdurdodau rheoli perygl, fel awdurdodau lleol a Cyfoeth Naturiol Cymru, sy’n gyfrifol am ddarparu’r Cynlluniau Lliniaru Llifogydd yng Nghymru, fanteisio arnynt”.
Ychwanegodd Mr Isherwood: “Felly, dim trafodaethau, er ei bod hi’n gyfrifol am y gyllideb y bydd y Gweinidog Newid Hinsawdd yn ei derbyn!”