Heddiw, mae’r AS Rhanbarthol dros Ogledd Cymru, Mark Isherwood wedi galw am sicrwydd gan Lywodraeth Lafur Cymru y bydd rhaglenni i hybu'r economi yn y Gogledd yn parhau i gael eu cefnogi.
Wrth siarad yn y Cyfarfod Llawn y prynhawn ‘ma, tynnodd Mr Isherwood sylw at raglenni allweddol Llywodraeth Geidwadol y DU i dyfu'r economi yn y rhanbarth a gofynnodd i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi pa gynlluniau sydd ganddo i fwrw rhagddi â'r rhain ar y cyd â Llywodraeth nesaf y DU.
Methodd yr Ysgrifennydd Cabinet ag ymrwymo i unrhyw un ohonyn nhw.
Meddai Mr Isherwood:
"Dro ar ôl tro, o Fargen Twf Gogledd Cymru i gynhyrchu cyfanswm buddsoddiad o dros £1 biliwn ar gyfer gogledd Cymru, i bryniant safle niwclear Wylfa ar Ynys Môn am £160 miliwn ar gyfer datblygiadau ynni niwclear newydd; o'r penderfyniad i sefydlu Porthladd Rhydd yng Nghaergybi, gyda hyd at £26 miliwn o gyllid gan Lywodraeth y DU a’r disgwyl iddo gynhyrchu biliynau o fuddsoddiad cyhoeddus a phreifat, i'r penderfyniad i sefydlu Parth Buddsoddi newydd gwerth £160 miliwn o amgylch Wrecsam a Sir y Fflint; mae Llywodraeth Geidwadol y DU wedi cymryd y cam cyntaf ac yna wedi gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru i gyflawni'r pethau hyn.
"Mae'r rhain oll a mwy, gan gynnwys yr ymrwymiad i fuddsoddi £1 biliwn yn y gwaith o drydaneiddio rheilffordd gogledd Cymru, wedi’u cynnwys ym maniffesto'r Ceidwadwyr Cymreig ar gyfer yr Etholiad Cyffredinol yfory. Pa gynlluniau sydd gennych chi felly i fwrw ymlaen â’r rhaglenni hyn gyda Llywodraeth nesaf y DU?"
Wrth siarad ar ôl y cyfarfod, dywedodd Mr Isherwood:
"Mae'n destun pryder, yn ei ymateb, na wnaeth Ysgrifennydd y Cabinet naill ai ymrwymo i unrhyw un o'r rhaglenni allweddol hyn, neu gydnabod eu bod yn rhaglenni Llywodraeth Geidwadol y DU a ddaeth â Llywodraeth Lafur Cymru i mewn fel partneriaid cyflenwi.”