Heddiw, mae’r AS dros Ogledd Cymru, Mark Isherwood, wedi herio'r Cwnsler Cyffredinol dros gynlluniau Llywodraeth Cymru i ddatganoli plismona i Gymru.
Yng nghyfarfod y Senedd y prynhawn yma, siaradodd Mr Isherwood, sy'n cysgodi'r Cwnsler Cyffredinol, eto am y pryderon a godwyd yng Ngogledd Cymru ynghylch y cynlluniau. Holodd pam fod Llywodraeth Lafur Cymru mor benderfynol o wthio hyn yn ei flaen, yn enwedig pan maen nhw'n torri cyllidebau mewn mannau eraill.
Yng Nghwestiynau'r Llefarydd i'r Cwnsler Cyffredinol, dywedodd:
"Fe ofynnais i chi yma ym mis Tachwedd y llynedd ynghylch yr ymchwil a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru i baratoi ar gyfer datganoli plismona yng Nghymru, pan nodais fod:
"Adroddiad Comisiwn Thomas ar Gyfiawnder yng Nghymru, yr ydych yn dibynnu arno, yn gwneud dim ond un cyfeiriad at y mater allweddol o droseddu trawsffiniol, a'r unig ateb a gynigir yw cydweithio ar draws y pedwar Llu yng Nghymru mewn cydweithrediad ag asiantaethau eraill, heb unrhyw gyfeiriad at y cydweithio sefydledig gyda phartneriaid cyfagos dros y ffin anweledig o ran troseddi a chyfiawnder sydd â Lloegr.
"A phan ymwelais i ag Uned Troseddau Cyfundrefnol Rhanbarthol Gogledd-orllewin Cymru a Lloegr, sydd ar y cyd rhwng heddweision Gogledd Cymru a Gogledd-orllewin Lloegr, roedden nhw’n dweud wrthyf fod tystiolaeth a roddwyd i Gomisiwn Thomas yn cael ei hanwybyddu i raddau helaeth yn ei adroddiad.
"Felly, pa ddiweddariad allwch chi, felly, ei roi nawr ynglŷn â'r adolygiad a gomisiynwyd gennych chi, ac y gwnaethoch chi gyfeirio yn gryno ato'n gynharach, dan arweiniad cyn-Brif Gwnstabl Gogledd Cymru, pan oeddech chi’n dweud wrthyf i mai'r 'ffordd allweddol ymlaen yw aros nes bydd y dystiolaeth honno’n dod, ei hystyried hi wedyn, ei gwerthuso, ac fe fyddwn ni’n ei thrafod yn y Siambr hon wedyn?'
Ychwanegodd Mr Isherwood:
"Mae plismona yn yr Alban a Gogledd Iwerddon yn faterion datganoledig yno, ond am resymau hanesyddol, daearyddol ac o ran poblogaeth a hefyd, gyda phatrymau troseddau rhwng Cymru a Lloegr yn digwydd dros y ffin, o'r dwyrain i'r gorllewin, mae'r sefyllfa yng Nghymru yn hollol wahanol. Yn wahanol i'r Alban a Gogledd Iwerddon, mae gan Gymru ardal drawsffiniol boblog iawn gyda Lloegr, gydag amcangyfrif o 95 y cant neu fwy o droseddau yng Ngogledd Cymru yn unig yn gweithredu ar draws y ffin o'r dwyrain i'r gorllewin, a bron dim ar sail Cymru gyfan.
"Pam, felly, mae Llywodraeth Cymru yn neilltuo cymaint o amser ac adnoddau i ddatganoli Plismona a Chyfiawnder Oedolion i Gymru, wrth dorri cyllidebau allweddol mewn mannau eraill, yn enwedig pan fydd AS Llafur mwyaf blaenllaw Cymru yn San Steffan, Ysgrifennydd Cysgodol Cymru, Jo Stevens, wedi ymuno â'r Ceidwadwyr unwaith eto i wrthod galwadau newydd i Lywodraeth Cymru fod yn cael rheolaeth dros blismona a chyfiawnder troseddol oedolion, ac nid yw maniffesto Llafur ar gyfer etholiad cyffredinol y DU yn cynnwys cefnogaeth i ddatganoli'r rhain?"
Wrth siarad ar ôl y cyfarfod, dywedodd Mr Isherwood:
"Gyda'r llu o faterion sy'n wynebu gwasanaethau cyhoeddus oherwydd 25 mlynedd o bŵer Llafur yng Nghymru, mae datganoli plismona a chyfiawnder yn tarfu’n ddiangen ar y Llywodraeth Lafur.
"O ystyried na all Llafur reoli'n ddigonol y pwerau datganoledig sydd ganddyn nhw eisoes a bod yr ardal drawsffiniol boblog sy'n cysylltu Cymru a Lloegr ynddi'i hun yn gwneud datganoli plismona yn anodd, rhaid i Lafur fynd i'r afael eto â'u blaenoriaethau a rhoi'r gorau i'r ymdrech ofer hon."