Gofynnodd yr AS Rhanbarthol dros Ogledd Cymru, Mark Isherwood, gwestiynau i’r Gweinidog Gofal Cymdeithasol yr wythnos hon oherwydd pryder mai’r Gogledd sydd bellach â'r ffioedd cartrefi gofal isaf yng Nghymru, a dywedodd fod y sefyllfa’n “rhoi pwysau ar ddarparwyr i roi'r gorau i dderbyn Cleifion Gofal Iechyd Parhaus newydd ac i roi rhybudd i'w preswylwyr presennol sy'n cael eu hariannu gan gynllun Gofal Iechyd Parhaus".
Ddydd Mawrth yn ystod y Datganiad Busnes, roedd Mr Isherwood wedi galw am Ddatganiad brys ar ffioedd Cartrefi Gofal ar ôl i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ysgrifennu at ddarparwyr yng Ngogledd Cymru yn nodi cynnydd o ddim ond 3.71% yn ffioedd cartrefi gofal ar gyfer 2024-25.
Y diwrnod canlynol, cododd y mater eto wrth ofyn cwestiwn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar gysondeb cyllid gofal o fewn y system cartrefi gofal yn y Gogledd.
Meddai:
“Fel y dywedais (yn y Datganiad Busnes), cyfarfu Gareth Davies AS a minnau â Fforwm Gofal Cymru ddydd Gwener diwethaf, ac roeddent yn dweud wrthym mai gogledd Cymru sydd â’r ffioedd cartrefi gofal isaf yng Nghymru erbyn hyn, gan roi pwysau ar ddarparwyr i roi'r gorau i dderbyn cleifion Gofal Iechyd Parhaus newydd ac i roi rhybudd i'w preswylwyr presennol a ariennir gan Ofal Iechyd Parhaus, canlyniad gofidus nad oes neb eisiau ei weld ar yr union adeg pan nad yw’r angen erioed wedi bod yn fwy a phan fo byrddau iechyd angen y gwelyau hyn mewn cartrefi gofal yn daer.“
“Yn ei hymateb, dywedodd y Trefnydd, ‘mae hynny’n rhywbeth y mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn mynd i’r afael ag ef’ ar sail draws-Weinidogol. Felly, sut rydych chi’n ymateb i’r alwad am ymyrraeth frys gyda’r Bwrdd Iechyd i sicrhau setliad cynaliadwy a dull cenedlaethol o bennu ffioedd i ddarparu ffigur sylfaenol sy'n dderbyniol i'r sector ac sy'n sicrhau gwerth da am arian i'r trethdalwr.”
Wrth ymateb i Lywodraeth Cymru, dywedodd y Gweinidog Gofal Cymdeithasol, “nid oes methodoleg genedlaethol ar gyfer cytuno ar gyfradd Gofal Iechyd Parhaus.”
Ychwanegodd, “Telir y gyfradd wythnosol honno ar gyfer gofal iechyd parhaus gan y Bwrdd Iechyd, a gall amrywio yn dibynnu ar yr asesiad o anghenion ar gyfer yr unigolyn sy'n derbyn y gofal hwnnw. Felly, mae'r gofal sydd ei angen a'r cyfraddau ffioedd gofal preswyl yn cael eu gosod yn unol â'r anghenion penodol.
“Caf air pellach gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol am hynny, oherwydd, wrth gwrs, mae’r cyfrifoldebau’n gorgyffwrdd. Nid yw gosod y gronfa Gofal Iechyd Parhaus yn rhan o fy mhortffolio i; ond mae gosod ffioedd cartrefi gofal ynddo. Felly, fe gawn sgwrs, ac rwy’n siŵr y gallwn baratoi rhywbeth a'i gyflwyno i'r Senedd, neu ei anfon at yr Aelodau, fel bod ganddynt well dealltwriaeth o'r hyn sy'n digwydd.”