Mae’r AS dros Ogledd Cymru, Mark Isherwood, wedi herio Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth heddiw ynghylch ei honiadau bod terfyn cyflymder cyffredinol Llywodraeth Cymru o 20mya wedi lleihau nifer yr anafiadau ers ei gyflwyno.
Cyflwynwyd y terfyn cyflymder dadleuol ym mis Medi y llynedd gan Lywodraeth Lafur Cymru.
Yn gynharach y mis hwn, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth Ddatganiad Ysgrifenedig lle dywedodd fod data newydd ar wrthdrawiadau ffyrdd "yn dangos bod nifer yr anafusion wedi lleihau ar y ffyrdd ers cyflwyno'r terfynau cyflymder 20 mya newydd ym mis Medi'r llynedd", ond mae Mr Isherwood wedi cwestiynu hyn.
Wrth herio Ysgrifennydd y Cabinet yng nghyfarfod y Senedd y prynhawn yma, dywedodd:
"Mae'r data newydd a ddyfynnwyd gennych ar gyfer tri mis olaf 2023, o gymharu â'r un cyfnod yn 2022, yn dangos, hyd yn oed gyda'r eithriadau cyfyngedig ar gyfer terfynau 20 mya diofyn a ddarparwyd gan Awdurdodau Lleol sy'n gweithredu yn unol â meini prawf Llywodraeth Cymru ar gyfer eithriadau, fod nifer y bobl a laddwyd neu a anafwyd yn ddifrifol ar ffyrdd 20mya wedi codi 800 y cant, o lai na 5 y cant i 36 y cant o'r cyfanswm, tra bo’r nifer a laddwyd neu a anafwyd yn ddifrifol ar ffyrdd 30 mya wedi gostwng 88 y cant, o 49 y cant i ddim ond 5 y cant o'r cyfanswm, gyda nifer y beicwyr modur a’r beicwyr a gafodd eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol ill dau’n cynyddu. Ymhellach, roedd anafiadau cyffredinol ar y ffyrdd wedi cynyddu dros 13 y cant. Sut ydych chi, felly, yn ateb y cwestiynau sy'n cael eu gofyn nawr ynglŷn ag a yw’r gostyngiad cyffredinol a addawyd mewn anafusion ffyrdd, ynghyd â'r arbedion a addawyd i'r GIG, wedi’i gwireddu?"
Wrth ymateb, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet:
"Nid wyf yn cydnabod rhai o'r ystadegau a ddyfynnwyd. Credaf mai'r pwynt pwysicaf i'w godi, serch hynny, yw mai nifer yr anafusion ar ffyrdd 20 a 30 mya gyda'i gilydd—sef y ffordd allweddol o edrych ar hyn—ym mhedwerydd chwarter 2023, oedd y ffigwr chwarterol isaf a gofnodwyd y tu hwnt i gyfnod COVID. Mae hynny'n ystadegol gywir; mae'n gadarn."
Wrth siarad ar ôl y cyfarfod, dywedodd Mr Isherwood:
"Mae diystyru'r data cymharol cyntaf ers cyflwyno'r Terfyn Cyflymder cyffredinol o 20 mya yn beryglus. Fel y rhybuddiais, byddai newid terfynau o 30mya i derfynau 20mya yn trosglwyddo'r gyfran o anafiadau ffyrdd o'r naill i'r llall, tra hefyd yn symud gyrwyr ac felly anafusion i’r rhwydwaith ffyrdd ehangach."